COP: Amaeth 'mewn lle unigryw' i gyrraedd targedau
- Cyhoeddwyd
Gall amaethyddiaeth helpu i gyrraedd targedau newydd cynhadledd COP26, yn ôl arweinydd undeb ffermio Cymru.
Dywed John Davies, llywydd NFU Cymru, er bod amaethyddiaeth yn ffynhonnell nwyon tŷ gwydr, yn enwedig methan, mae gan y diwydiant rôl bwysig i'w chwarae hefyd fel "sinc" ar gyfer amsugno carbon a chymryd nwyon niweidiol allan o'r atmosffer.
Er bod pobl yn bwyta llai o gig, dywed Mr Davies nad yw lleihau allyriadau methan fferm o reidrwydd yn golygu gostyngiad yn nifer y defaid a gwartheg yng Nghymru.
Fe wnaeth astudiaeth ddiweddar gan yr Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol ganfod fod pob person yn y DU yn bwyta 17g yn llai o gig y dydd, ond dyw hi ddim yn glir a yw hynny am resymau amgylcheddol neu resymau eraill.
Ond mae amrywiaeth fawr yn y ffordd y mae cynhyrchu cig yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae'n dibynnu ar yr hyn y mae'r da byw yn cael i'w fwyta ac ar sut a ble mae'r cig yn cael ei gynhyrchu.
12% o gyfanswm allyriadau
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd llynedd gan Hybu Cig Cymru a Phrifysgol Bangor mae cynhyrchu cig o dda byw sy'n cael eu magu ar laswellt - fel sy'n digwydd yng Nghymru - yn un o'r dulliau mwyaf cynaliadwy yn y byd.
Fodd bynnag, mae'r diwydiant amaeth yn derbyn bod lle i wella.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am oddeutu 12% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru - mae gan sectorau eraill fel trafnidiaeth (16%), busnes (24%) a chyflenwi ynni (29%) allyriadau uwch.
Mae undeb ffermio NFU Cymru yn anelu at wella ôl troed carbon amaethyddiaeth yn ddramatig trwy leihau allyriadau a thrwy ddal a storio carbon er mwyn tynnu nwyon tŷ gwydr o'r atmosffer.
Mae'r undeb wedi gosod targed uchelgeisiol o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2040, 10 mlynedd yn gynt na'r targed a osodwyd gan y llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan.
'Rhaid i ni ymateb'
Mae Aled Jones, dirprwy lywydd yr undeb, yn derbyn bod hyn yn uchelgeisiol ond mae'n dweud bod angen gweithredu: "Ni oedd y corff cynta' i osod y targed. Mae yn uchelgeisiol ond mae newid hinsawdd yn broblem, ac mae'n rhaid i ni ymateb iddo fe.
"Mae 'na dri rhan i'n targed ni - yn gyntaf, ein bod ni ddim yn gostwng ein gallu i gynhyrchu ond ein bod ni'n cynhyrchu cymaint neu hyd yn oed yn fwy o fwyd ond gyda llai o fewnbwn carbon.
"Yn ail ydy ein bod ni'n gallu amsugno carbon - mae'n priddoedd ni, mae'n coed ni, yn ein gwrychoedd ni, a'n mawndiroedd ni i gyd yn gallu amsugno carbon ac mae angen hybu hynny.
"Ac yn drydydd, bod mwy o'n hynni ni yn cael ei gynhyrchu ar ffermydd o ffynonellau adnewyddol."
Er mwyn cyrraedd y targed heriol, bydd angen i ffermwyr gyfrifo ôl troed carbon eu ffermydd.
Mae Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor wedi helpu ffermwyr i gyfrifo hyn trwy edrych ar fewnbynnau fferm - fel y math o borthiant a roddir i dda byw, unrhyw wrtaith a phlaladdwyr a ddefnyddir, a thanwydd.
Mae'r allyriadau uniongyrchol o dda byw hefyd yn cael eu cyfrif. Ar ochr arall y fantolen mae'r mesurau lliniaru - megis amsugno a dal carbon a chynlluniau ynni adnewyddadwy.
Dywed Dr Williams fod methan yn rhan sylweddol o ôl troed carbon fferm.
"Pan da ni'n mynd ar ffermydd ac yn cyfrif ôl troed carbon, da ni'n gweld bod methan yn gyfrifol am o leia' hanner ôl troed carbon ffermydd," meddai.
"Felly mae e'n rhywbeth sydd angen taclo achos hyd yn oed tasen ni'n gwneud lot o bethau eraill yn well byddai'n rhaid gwneud rhywbeth cadarnhaol o safbwynt methan.
"Un ateb byddai rhai yn dweud ydy lleihau nifer yr anifeiliaid, ond mae'n bwysig cofio hefyd bod rhaid i ni feddwl am gynhyrchiant bwyd, a does 'na ddim pwynt yn amgylcheddol i grebachu nifer yr anifeiliaid yn y wlad yma os ydyn ni'n mynd i fewnforio union yr un cynnyrch o ran arall o'r byd."
Mae methan yn cael ei gynhyrchu wrth i dda byw dreulio bwyd. Maen nhw'n allyrru methan pan fyddan nhw'n torri gwynt ac yn eu tail.
Mae llywydd COP26, Alok Sharma, wedi dweud ei fod yn gobeithio gweld y gynhadledd yn gosod targedau newydd uchelgeisiol ar gyfer gostwng lefelau methan yn fyd-eang.
Oes yna reswm i ffermwyr fod yn bryderus felly ynglŷn â'r hyn allai ddeillio o COP26?
Nagoes, yn ôl Aled Jones o NFU Cymru: "Dydw i ddim yn nerfus, dw i'n meddwl bod ganddon ni stori wirioneddol dda. A gallwn ni ddim caniatáu i'n gallu ni i gynhyrchu bwyd ostwng.
"Ond wir i chi mae cost carbon yn ein dulliau cynhyrchu ni lawer iawn gwell na llefydd eraill yn y byd ac mae hynny'n rhywbeth i ffermwyr fod yn falch ohono."
'Galw yn dod o sawl cyfeiriad'
Mae rhai ffermwyr wedi cyfrif eu hôl troed carbon yn wirfoddol, eraill wedi gwneud hynny oherwydd bod yr archfarchnadoedd sy'n gwerthu eu cynnyrch wedi gofyn iddyn nhw wneud.
Dywed Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor ei bod hi'n debygol y bydd cymhelliant arall hefyd yn y dyfodol.
"Dwi'n siŵr yn y blynyddoedd sydd i ddod y bydd yna gynlluniau gan lywodraethau - Llywodraeth Cymru fel enghraifft - i ffermwyr gyfrifo eu hôl troed carbon.
"Felly mae'r galw ar ffermwyr yn dod o sawl cyfeiriad - gan broseswyr a'u cwsmeriaid, ond hefyd efallai gan y llywodraeth.
"Felly nid yn unig mae'r pwysau yn dod o'r top fel petai, a falle daw rhyw bwysau ychwanegol yn sgil y gynhadledd yma ond mae'r diwydiant i weld eisiau bod ar y droed flaen, yn rhagweithiol ac yn gwthio'r agenda ei hun.
"Ydy, mae amaethyddiaeth yn cyfrannu at y broblem ond mae'n gorfod bod yn rhan o'r ateb."
Fferm Carbon Negatif
Mae Ystâd y Rhug yng Nghorwen wedi cyflogi Swyddog Prosiect Carbon Isel i fonitro perfformiad y fferm a'i chyfraniad at fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Dyw hi ddim yn fferm Gymreig nodweddiadol - mae'n organig ar 6,000 erw, ac mae oddeutu traean ohoni yn goetir neu'n fawndir sy'n amsugno ac yn storio carbon deuocsid o'r atmosffer.
Mae tua hanner tir y fferm yn cael ei bori gan amrywiaeth o dda byw, o wartheg Aberdeen Angus i ddefaid a cheirw, a hyd yn oed buail. O ran allyriadau'r fferm, y da byw yw'r man lle mae'r broblem ar ei mwyaf.
Ond pan gyfrifwyd ôl troed carbon y fferm canfuwyd ei fod yn garbon-negatif, gan olygu ei fod yn amsugno ac yn storio mwy o nwyon tŷ gwydr nag y mae'n eu hallyrru.
Mae hyn oherwydd y coed a'r mawndir ond hefyd ystod o gynlluniau ynni adnewyddadwy gan gynnwys paneli solar, tyrbinau gwynt, dau gynllun hydro a systemau gwresogi daear ac awyr.
Dywedodd yr Arglwydd Newborough - perchennog Ystâd y Rhug: "Dwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli pwysigrwydd ffermio organig lle rydych chi'n tynnu'r carbon deuocsid niweidiol allan o'r atmosffer yn naturiol ac yn ei storio yn y ddaear.
"Rwy'n credu bod 333 erw o gaeau organig gyfwerth â chymryd 117 o geir oddi ar y ffordd bob blwyddyn. Mae'n arwyddocaol iawn."
Dywedodd Mared Williams, swyddog prosiect carbon isel Ystâd y Rhug bod y ffaith bod y fferm yn organig yn bwysig i fod yn garbon negatif ond bod rhesymau eraill hefyd.
"Am fod y fferm yn organig mae allyriadau nitrous oxide dipyn yn llai na ffermydd sydd ddim yn organig gan fod nhw ddim yn defnyddio gwrtaith," meddai.
"Hefyd mae iechyd y pridd i safon uchel sy'n golygu bod lot o organic matter yn y pridd - mae hynny hefyd yn cyfrannu.
"Ond eto mae ganddyn nhw tua 140 hectar o goetir ar y fferm a thipyn o dechnolegau ynni adnewyddadwy, felly mae'r elfennau yna i gyd yn cyfrannu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2020