Ffermwraig yn sefydlu grŵp amaeth Gwrthryfel Difodiant
- Cyhoeddwyd
Fe allai ffermwyr Cymru elwa o'r ddadl bresennol am sut i daclo newid hinsawdd, yn ôl sylfaenydd grŵp amaeth Gwrthryfel Difodiant.
Disgrifiodd Sarah Shuffell y rhwydwaith o ffermydd bach teuluol sy'n nodweddiadol o Gymru fel "cryfder go iawn".
Dadl y ffermwr o Landyfalle ym Mhowys yw bod angen i'r cyhoedd ganolbwyntio ar brynu bwyd lleol, sydd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy.
Mae'n honni hefyd nad oes angen i bobl roi'r gorau i fwyta cig er mwyn "achub y blaned".
Bai 'o bob cyfeiriad'
Dywedodd Ms Shuffell ei bod wedi penderfynu sefydlu grŵp XR Farmers ar ôl cael "llond bol ar ffermwyr yn cael eu beio o bob cyfeiriad" am gynhesu byd-eang.
"Trwy fynd reit at galon y gwrthryfel a siarad â phobl am sut mae ffermwyr yn gallu lleihau sgil effeithau newid hinsawdd, 'da ni'n gallu dechrau dadl lawer iachach am ein system fwyd."
Ychwanegodd bod ffermwyr Cymru mewn sefyllfa arbennig ym Mhrydain i fynd i'r afael â'r broblem.
"Mae gyda ni lawer o ffermydd bach teuluol yma yng Nghymru, a ffermydd bach teuluol yw'r ffordd ymlaen - y rhai sy'n gallu addasu, ac yn gyson mae ganddyn nhw systemau mewn lle sy'n llawer mwy cyfeillgar i'r amgylchedd a byd natur," meddai.
"Felly rwy'n credu bod gyda ni gryfderau go iawn yma yng Nghymru ac mae angen i ni weiddi amdanyn nhw."
Tir llai ffafriol
Mae 80% o dir amaethyddol yng Nghymru wedi ei ddynodi'n dir llai ffafriol gyda phridd o ansawdd gwael a daearyddiaeth sy'n anaddas ar gyfer tyfu cnydau.
Mae'n golygu mai ffermydd da byw bach sydd yma'n bennaf - yn magu defaid a gwartheg ar gaeau glaswelltog.
Mae rhain felly'n "dal carbon ac yn tynnu hwnnw i lawr i'r pridd" esboniodd Ms Shuffell.
Yn gyson mae'r dadleuon a thrafodaethau ynglŷn â'r cysylltiad rhwng ffermio a newid hinsawdd yn cael eu cyfuno ag arferion amaethyddol dwys sy'n niweidiol i'r amgylchedd mewn rhannau eraill o'r byd fel America.
Mae'n honni mai dyma sydd wedi arwain at bobl yn rhoi'r gorau i gig yn gyfan gwbl:
"Dyw hi ddim mor syml â dweud bod cig yn ddrwg a phlanhigion yn dda - mae'n dibynnu ar eich system," ychwanegodd.
"Nid yw tyfu llysiau'n ddwys gan ddefnyddio llawer iawn o wrtaith a phlaladdwyr yn mynd i achub y blaned.
"Mae'n rhaid i ni feddwl o ble mae ein bwyd yn dod gan werthfawrogi'r hyn 'da ni'n ei dyfu yn y wlad hon. Yn lle mewnforio bwyd mae angen i ni fod yn fwy cynaliadwy a hunangynhaliol."
Cynnyrch Cymreig
Daw'r sylwadau yn ystod Wythnos Frecwast Ffermdy gyda dros 40 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru yn cynnig cyfle i'r cyhoedd flasu cynnyrch Cymreig lleol.
Yn y cyfamser, mae'r corff sy'n cynghori llywodraethau'r Deyrnas Unedig ar newid hinsawdd yn paratoi i gyhoeddi adroddiad arwyddocaol ddydd Iau ynglŷn â pholisi amaethyddol a sut i ddefnyddio tir i gyrraedd targedau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn ôl Caryl Roberts o Undeb Amaethwyr Cymru mae gan ffermwyr yma lawer mwy yn gyffredin nag y mae pobl yn ei feddwl gyda'r rhai sydd am achub yr amgylchedd.
"Maen nhw'n un gyda'r tir o'u cwmpas a'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu i sicrhau bod y tir yn trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Does dim ffordd o fwyta sy'n fwy cynaliadwy," meddai.
Cytuno mae Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, bod cyfle i ffermwyr Cymru ddenu cwsmeriaid sy'n ymwybodol o newid hinsawdd.
"Mae gan ffermwyr Cymru y gallu i gloi carbon yn y tir drwy gynhyrchu glaswellt," meddai.
"Mae hynny'n dra gwahanol i effaith systemau ffermio mewn sawl rhan o'r byd sydd yn eu hanfod yn brosesau diwydiannol," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd19 Medi 2019
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019