Trelái: Lluniau CCTV newydd funudau cyn gwrthdrawiad

Mae lluniau CCTV o'r newydd yn dangos Harvey Evans a Kyrees Sullivan funudau cyn iddyn nhw farw mewn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd nos Lun.

Mae'r delweddau, sydd wedi'u gwirio gan y BBC, yn dangos y ddau yn teithio lawr Ffordd Stanway, Trelái ar feic trydan am 17:58 (nid 16:58 fel mae'r fideo yn ei ddangos).

Roedd lluniau blaenorol wedi dangos fan plismon yn dilyn y ddau ar Ffordd Frank, a hynny am 17:59.

Mae'r lluniau diweddaraf yma yn dangos mwy o fwlch rhwng y beic a cherbyd yr heddlu.

Brynhawn Mercher dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De, Rachel Bacon, fod y fan heddlu "hanner milltir i ffwrdd" ar Grand Avenue am 18:02 - sef adeg y gwrthdrawiad.

Yn seiliedig ar gyfrifon tystion, data olrhain a CCTV, ychwanegodd nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.