Trelái: Fideo fel petai'n dangos fan heddlu'n dilyn beic
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod fan plismon wedi dilyn dau berson ifanc oedd ar foped neu feic trydan funudau cyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd nos Lun, yn ôl fideo sydd wedi cael ei weld gan un o wasanaethau'r BBC.
Mae BBC Verify wedi bod yn edrych ar fideo teledu cylch cyfyng (CCTV) o Ffordd Frank yn Nhrelái ac ar y ffilm mae'r amser 17:59, 22 Mai 2023 yn cael ei nodi.
Mae'r lleoliad 900m o bellter o safle lle y credir i'r gwrthdrawiad ddigwydd.
Yn gynharach ddydd Mawrth cafwyd ar ddeall mai Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, oedd y ddau berson ifanc fu farw yn y gwrthdrawiad - a ddigwyddodd cyn yr anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun.
Cafodd y fideo, a ddaeth i law drwy asiantaeth newyddion Wales News, ei ryddhau wedi i Gomisiynydd Heddlu De Cymru Alun Michael ddweud wrth y BBC nad oedd swyddogion wedi erlid y ddau fachgen.
Roedd Mr Michael wedi dweud yn gynharach fod y cysylltiad rhwng y gwrthdrawiad â'r anhrefn yn parhau'n aneglur, ac fe ddywedodd Heddlu De Cymru fod y gwrthdrawiad "eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd swyddogion".
Mewn datganiad y tu allan i orsaf heddlu Bae Caerdydd nos Fawrth, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Martyn Stone bod y llu wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Ychwanegodd y llu fod swyddogion bellach yn defnyddio'r lluniau CCTV o gerbyd plismon yn dilyn beic cyn y digwyddiad er mwyn "helpu eu hymchwiliad".
Wrth siarad â'r wasg dywedodd Mr Stone fod beic trydan wedi cael ei ganfod ar safle'r digwyddiad ar Ffordd Snowden, ond nad oedd yr un cerbyd heddlu ar y ffordd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol.
"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn credu bod cerbydau eraill yn gysylltiedig â'r digwyddiad," ychwanegodd.
"Fe gafodd 15 o swyddogion eu hanafu, roedd 11 angen triniaeth ysbyty ac fe gafodd pedwar eu trin yn y fan a'r lle.
"Ry'n ni'n apelio am wybodaeth a lluniau o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol.
"Gallwn sicrhau trigolion lleol y byddwn yn gwneud ein gorau i arestio'r rhai sy'n gyfrifol."
Aeth ymlaen i ddweud bod nifer wedi cael eu harestio eisoes a bydd "rhagor yn cael eu harestio".
"Ry'n ni'n hynod ddiolchgar i'r gymuned leol am bob cefnogaeth," meddai.
'Ffrindiau gorau'
Bu farw'r ddau fachgen yn eu harddegau yn y gwrthdrawiad yn ardal Nhrelái toc wedi 18:00.
Y gred yw bod y ddau ar sgwter trydan ar y pryd.
Dywedodd Bridy Bool, sy'n adnabod teulu Harvey, bod ganddo "lawer iawn o ffrindiau" a'i fod wrth ei fodd gyda beiciau modur a phêl-droed.
"Roedd e'n ffrindiau gorau gyda Kyrees ac ro'n nhw'n mwynhau yr un pethau. Doedd hi ddim yn anarferol gweld y ddau gyda'i gilydd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023