Lluniau o'r archif: Yr Eisteddfod dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Dewch am dro drwy archif luniau BBC Cymru i hel atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol.
Mae llawer wedi newid dros y degawdau, yn arbennig y ffasiwn - o'r wisg ffurfiol, crys a thei i dracwisg shellsuit y 1980au! Ond mae rhai pethau yn dal yn gyfarwydd hyd heddiw:
Y dorf yn dathlu'r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937.
Seremoni yn y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958
Cadeirio T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958, William Morris oedd yr Archdderwydd.
Yr Archdderwydd Trefin (Edgar Phillips) yn Eisteddfod Caerdydd, 1960, yn annerch y dorf.
Morwyn y Fro a'r Flodeuged gyda'i morynion bach a merched y ddawns flodau, yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog, 1961.
Cysylltodd Janet Keefe â Cymru Fyw i ddweud mai hi sydd yn y llun:
"Janet Lloyd Hughes oedd fy enw ar y pryd, ac yn hanu o Fwlchgwyn, ger Wrecsam. Roedd llun ohonaf ar y llwyfan gyda'r Orsedd ar flaen y Radio Times y flwyddyn ganlynol hefyd!
"Amserau braf!"
Rownd derfynol Ymryson y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1962, rhwng tîm Sir Aberteifi a Sir y Fflint. Yn y llun mae Gwenallt Rees o Sir Fflint, y Cynhyrchydd Sam Jones, y Meuryn, W. D. Williams sy'n cyflwyno'r rhaglen a Geraint Rees sy'n cadw'r sgôr.
Morfudd Mason Lewis yn cyflwyno ei rhaglen nosweithiol, Tocyn Wythnos o'r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962.
Bardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Llandudno 1963, Tom Parri Jones gyda Cynan, yr Archdderwydd ar y pryd.
*Ar ôl i'r oriel hon gael ei chyhoeddi, cysylltodd Brenda Tegid o Benrhosgarnedd â Cymru Fyw, wedi cael syndod o weld ei hun yn y llun hwn, sef y ferch fach ar y dde yn cario basged:
"Brenda Roberts oeddwn ar y pryd. Roeddwn yn saith oed ac yn mynd i ffrwd Gymraeg Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno, lle roeddwn yn byw.
"Tydw'i erioed wedi gweld y llun yma o'r blaen, felly roedd yn dipyn o sioc i'w weld ar BBC Cymru Fyw.
"Chydig iawn o gof sy' genna'i o'r Steddfod yn Llandudno a bod yn onesd, ond mi rydwi'n cofio meddwl bod y pafiliwn yn fawr iawn.
"Er bod yr ardal yn reit Seisnig o ran iaith, roeddwn i yn ffodus mai OM Roberts oedd fy mhrifathro, ac roedd o'n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r iaith a'n diwylliant ni."
Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen yn cael ei holi gan y wasg. Mae'n debygol mai yn Eisteddfod Abertawe 1982 y tynnwyd y llun, pan enillodd y Gadair yno. Roedd hefyd wedi ei hennill yn Eisteddfod Bro Dwyfor 1975.
Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977, Sarah Williams oedd Morwyn y Fro a'r Archdderwydd oedd Bryn (R. Bryn Williams).
Dyn camera smart iawn yn ffilmio yn y pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan, 1984.
Mam y Fro a'r Corn Hirlas mewn seremoni yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan, 1984.
Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1988. Mae gweld plant yn gwerthu'r Cyfansoddiadau o gwmpas y maes ar ôl seremoni y cadeirio yn gyfarwydd o hyd.
Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988, Elwyn Edwards enillodd y gadair a T James Jones oedd enillydd y goron.
Y darlledwr Hywel Gwynfryn yn ei wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 1988.
Y darlledwr Sulwyn Thomas yn cyflwyno ei raglen radio, Stondin Sulwyn ar BBC Radio Cymru yn Eisteddfod Casnewydd, 1988
Cyflwynwyr BBC Cymru yn 1995, Elin Mair, Eddie Ladd, Sioned Mair a Beti George.
Safle'r Seibr ym mhabell BBC Cymru ar y maes yn Eisteddfod Bro Dinefwr yn Llandeilo yn 1996. Fe wnaeth 'yr internet' gyrraedd maes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn 1995.
(Cyhoeddwyd yr oriel hon yn wreiddiol yn Awst 2020)
Hefyd o ddiddordeb: