Eisteddfod Genedlaethol 2023: Sut mae cyrraedd y maes?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tudweiliog
Disgrifiad o’r llun,

Dros y dyddiau diwethaf mae sawl ardal ym Mhen Llŷn wedi bod yn harddu eu bro er mwyn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi'r trefniadau teithio ar gyfer y rhai sydd am ymweld â'r Brifwyl eleni.

Mae'r maes eleni wedi ei leoli ym Moduan rhwng Nefyn a Phwllheli, a'r cyfan yn dechrau ar ddydd Sadwrn 5 Awst ac yn cloi ar nos Sadwrn 12 Awst.

Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla a'r meysydd parcio i gyd yn agos at brif faes yr Eisteddfod.

Os yn bosib, mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y maes, er mwyn lleihau tagfeydd yn yr ardal ac er budd yr amgylchedd.

Mae gofyn hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Teithio mewn car?

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Os ydych chi'n gyrru i'r maes eleni bydd angen i chi ddilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn.

Os yn teithio o gyfeiriad y de ar yr A497 (cyfeiriad Porthmadog) bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar y B4354 ar gylchfan Afon wen, gan deithio drwy Chwilog i'r Ffôr.

Bydd angen parhau ar hyd y B4354 tan y gyffordd gyda'r A497 lle mae angen troi i'r chwith, ac yna dilynwch y ffordd tan i chi gyrraedd y maes parcio.

Os yn teithio o gyfeiriad y dwyrain ar yr A499 (cyfeiriad Caernarfon) bydd angen dilyn yr A499 i bentref Y Ffôr, cyn troi'r dde ger y goleuadau dros dro yng nghanol y pentref.

Bydd angen parhau ar hyd y B4354 tan y gyffordd gyda'r A497, ac yna dilynwch y ffordd tan i chi gyrraedd y maes parcio.

Os yn teithio o Benrhyn Llŷn, dilynwch y cyfarwyddiadau a'r arwyddion lleol wrth i chi eu cyrraedd. Bydd rhai ffyrdd lleol wedi'u cau dros gyfnod yr ŵyl.

Lle dylwn i barcio?

Mae'r Eisteddfod yn gofyn i ymwelwyr ddilyn yr arwyddion i'r meysydd parcio ac i beidio â pharcio wrth ochr y lôn.

Bydd stiwardiaid yn y maes parcio i hwyluso'r trefniadau, a bydd man penodol ar gyfer bysiau a thacsis er mwyn codi a gollwng teithwyr ar ochr ogleddol yr A497.

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar fodurwyr i beidio â gollwng na chodi pobl oddi ar y ffordd fawr.

Mae parcio am ddim yn yr Eisteddfod.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan o 5-12 Awst

Teithio ar fws?

Bydd bws gwennol yn rhedeg rhwng Pwllheli a Maes yr Eisteddfod o 09:00 tan 22:30.

Yn ogystal, bydd modd dal bysiau cyhoeddus rhif 3, 12 ac 8 er mwyn cyrraedd y maes.

Yn achos bysiau rhif 3 a 12, bydd gofyn i deithwyr newid ym Mhwllheli er mwyn dal un o'r bysiau gwennol.

Fe fydd bws gwennol hefyd yn rhedeg rhwng Edern, Morfa Nefyn a Nefyn a'r maes rhwng 08:45 a 22:15.

A bydd dau wasanaeth bws yn gadael y maes am 20:00 a 23:00 bob nos i gludo teithwyr yn ôl i Abersoch ac Aberdaron.

Mae'r amserlenni bws i gyd ar gael yn llawn ar wefan Cyngor Gwynedd, dolen allanol a gwefan Yr Eisteddfod, dolen allanol.

Bydd tri gwasanaeth bws ychwanegol un-ffordd yn gadael Maes yr Eisteddfod am 23:00 i fynd i Nefyn, Porthmadog a Chaernarfon.

Bydd y bysiau hyn yn stopio mewn llochesi bws swyddogol y cyngor yn unig ar hyd y ffordd, ac mae rhaid archebu eich lle o flaen llaw.

Teithio ar drên?

Does dim modd dal trên yn uniongyrchol i'r maes eleni.

Ond bydd ymwelwyr yn gallu defnyddio'r gwasanaethau bws i gysylltu â Rheilffordd y Cambrian (Gorsaf Pwllheli) neu Reilffordd Arfordir y Gogledd (Gorsaf Bangor).

Gobeithio dal tacsi?

Bydd safle tacsi pwrpasol wrth brif fynedfa'r Eisteddfod.

Dim ond cwmnïau tacsi sydd wedi cofrestru gyda threfnwyr yr Eisteddfod o flaen llaw fydd â hawl i fod ar y safle.