Lluniau: Harddu Pen Llŷn i'r Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o’r llun, Dros y dyddiau diwethaf mae sawl ardal ym Mhen Llŷn wedi bod yn harddu eu bro er mwyn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol
1 o 15
Diwedd yr oriau luniau
- Cyhoeddwyd

Dros y dyddiau diwethaf mae sawl ardal ym Mhen Llŷn wedi bod yn harddu eu bro er mwyn croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol

Mae arwydd traddodiadol y Brifwyl eisoes i fyny ger y maes ym Moduan, sydd rhwng Nefyn a Phwllheli

Mae'n golygu y bydd lleoliadau cyfagos, fel Clwb Rygbi Pwllheli, yn siŵr o fod yn brysur rhwng 5-12 Awst wrth i'r ŵyl gael ei chynnal

Mae Efailnewydd hefyd yn un o'r pentrefi agosaf i Foduan fydd yn gweld tipyn o fwrlwm yn ystod yr Eisteddfod

Ond mae'r cyffro ar gyfer y Brifwyl wedi ymestyn i bob rhan o Ben Llŷn

Yn ardal Botwnnog mae'r trigolion lleol eisoes wedi bod yn addurno, ac yn barod i groesawu ymwelwyr

Yr un yw'r teimlad yn Sarn Mellteyrn, sef un o'r cymunedau ym mhegwn mwyaf gorllewinol Pen Llŷn

Mae rhai o'r addurniadau, fel ym Mryncynan ger Nefyn, yn cyfeirio at draddodiad morwrol enwog yr ardal

Mae rhai o'r addurniadau eraill yn cyfeirio at bethau eraill sy'n gysylltiedig â'r ardal, gan gynnwys ei natur amaethyddol

Bu ysgolion yr ardal hefyd yn mynd i hwyl yr addurno, fel yma yn Ysgol Pont y Gof, Botwnnog

Mae disgwyl i ddegau o filoedd o bobl ymweld â'r Eisteddfod yn ystod yr wythnos - ond maen nhw'n annhebygol o fod yn aros mewn carafanau mor lliwgar â hyn!

Mae tref Cricieth wedi dechrau ar y gwaith osod arwyddion i groesawu'r Eisteddfod i Lŷn ac Eifionydd


Er mai ym Moduan mae'r Eisteddfod, bydd rhannau eraill o Ben Llŷn - fel yma yn Nhudweiliog - hefyd yn gobeithio gweld budd o ymwelwyr i'r Brifwyl

Un peth sy'n sicr - mae trigolion Mynytho a gweddill yr ardal yn gyffrous yn barod i groesawu pawb fydd yn dod!
1 o 15