Elin Fflur: 'Mae'n hawl sylfaenol i fod yn rhiant'

Mae'r cyflwynydd a'r gantores, Elin Fflur yn dweud fod pryderon am ddyfodol gwasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru yn "rhywbeth sy'n fy mhoeni fi'n fawr iawn, iawn".

Mae staff yn honni eu bod wedi cael gwybod nad yw'r gwasanaeth - sy'n cynnig triniaeth IVF - bellach yn gynaliadwy.

Mae gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru glinigau yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chaerdydd, a dyma'r unig ganolfannau yng Nghymru sy'n cynnig IVF ar y gwasanaeth iechyd.

Dywed Elin Fflur - sydd wedi bod yn agored iawn am ei phrofiad hi ag IVF - ei bod yn "hawl sylfaenol i fod yn rhiant".

"Wrth i hyn ddigwydd mae o'n troi'n rhywbeth sydd ond ar gael i bobl sy'n gallu fforddio fo a 'da ni'n sôn am lot fawr o bres... miloedd o bunna' bob tro," meddai wrth raglen Dros Frecwast.