IVF: Ansicrwydd am ddyfodol gwasanaeth ffrwythlondeb Cymru

Disgrifiad,

Elin Fflur: 'Dylia ni gyd gymryd sylw o'r stori yma'

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder am ddyfodol gwasanaethau ffrwythlondeb yng Nghymru ar ôl i staff honni eu bod wedi cael gwybod nad yw bellach yn gynaliadwy.

Mae gan Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru glinigau yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chaerdydd, a dyma'r unig ganolfannau yng Nghymru sy'n cynnig IVF ar y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad, ei fod wedi bod yn edrych ar gynaliadwyedd hir dymor y gwasanaeth ar ôl trafod â'r corff sy'n rheoleiddio gwasanaethau ffrwythlondeb yn y DU.

Mae hyn yn cynnwys ystyried "camau gweithredu tymor byr a thymor hir sydd eu hangen i roi'r gwasanaeth ar sail gynaliadwy", yn ogystal ag "edrych ar gynlluniau wrth gefn".

Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi ceisio tawelu meddyliau unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, gan fynnu y byddan nhw'n "dal i dderbyn y driniaeth orau posib" a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu llythyr at y gweinidog iechyd yn crybwyll pryderon staff

Mae aelodau Plaid Cymru o'r Senedd, Sioned Williams a Luke Fletcher, wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd yn sôn am rai o bryderon staff.

Dywedodd y llythyr: "Cafodd staff wybod nad oedd y gwasanaeth bellach yn gynaliadwy.

"Rydym yn deall bod tri opsiwn posib wedi'u cyflwyno; dadgomisiynu, lleihau darpariaeth neu gontract allanol.

"Bydd pob opsiwn yn cael effaith ar naill ai staff neu gleifion."

Mae'r llythyr yn gofyn pam nad yw pedwerydd opsiwn wedi cael ei ystyried, sef Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwasanaeth yn uniongyrchol.

Cafodd y sefydliad archwiliad rheolaidd gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) - y corff sy'n gyfrifol am orchwylio gwasanaethau ffrwythlondeb yn y DU - ym mis Ionawr.

Er bod yr adroddiad yn nodi meysydd oedd angen eu gwella, cafodd y gwasanaeth drwydded tair blynedd i barhau i gynnig triniaeth ffrwythlondeb, gydag arolygiad interim wedi'i drefnu ar gyfer Ionawr 2024.

'Pwysig cael y gwasanaeth yng Nghymru'

Yn ôl Sioned Williams, mae'r ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth wedi achosi pryder mawr.

"Roedd hyn i gyd yn sioc ac yn siom ofnadwy i staff oedd ddim yn disgwyl hyn ac sy'n poeni am yr hyn fydd yn digwydd i gleifion.

"Mae'n bwysig iawn bod yr arbenigedd a'r gwasanaethau yma ar gael yng Nghymru, felly mae'r math yma o ansicrwydd yn mynd i boeni nifer o bobl sydd angen y gwasanaeth."

Mae'r cyflwynydd a'r gantores, Elin Fflur yn dweud fod pryderon am ddyfodol gwasanaethau ffrwythlondeb yn "rhywbeth sy'n fy mhoeni fi'n fawr iawn, iawn".

Dywed Elin - sydd wedi bod yn agored iawn am ei phrofiad hi ag IVF - ei bod yn "hawl sylfaenol i fod yn rhiant".

"Wrth i hyn ddigwydd mae o'n troi'n rhywbeth sydd ond ar gael i bobl sy'n gallu fforddio fo a 'da ni'n sôn am lot fawr o bres... miloedd o bunna' bob tro," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford mai "mater i'r sefydliad" yw sicrhau darpariaeth ei wasanaethau

Yn gynharach yr wythnos hon, codwyd mater yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog, a Phlaid Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Mark Drakeford am ddyfodol hirdymor y gwasanaeth.

Dywedodd Mr Drakeford: "Nid fi sy'n gwarantu pethau.

"Mater i'r sefydliad yw sicrhau ei fod yn darparu gwasanaeth a fydd yn caniatáu iddo barhau i gael ei drwyddedu, ac, wrth gwrs, dyna'n union yr ydym am ei weld.

"Dyna pam mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio gyda'r sefydliad i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.

"Fy nealltwriaeth i yw bod cynnydd ar rai o'r materion hynny, ond nid pob un."

'Mwy o loteri cod post'

Mae elusennau wedi codi pryderon hefyd.

Dywedodd Dee Montague-Coas o gorff Triniaeth Deg i Fenywod Cymru fod y cam yn mynd yn groes i ymdrechion yng ngweddill Prydain i ehangu gwasanaethau ffrwythlondeb.

"Fel elusen sy'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb ac amrywiaeth mewn gofal iechyd, rydym yn pryderu y gallai hyn olygu hyd yn oed mwy o loteri cod post i gleifion," meddai.

"Mae llawer o'r rhai sydd angen cael mynediad at wasanaethau ffrwythlondeb yn gwneud hynny oherwydd oedi o ran diagnosis a thriniaeth o broblemau iechyd eraill, a gall eu heriau ffrwythlondeb gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl.

"Os yw Llywodraeth Cymru a'r GIG o ddifrif ynglŷn ag atal problemau iechyd, dylai hyn hefyd gynnwys cadw gwasanaeth ffrwythlondeb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed elusen cydraddoldeb menywod gall heriau ffrwythlondeb arwain at broblemau iechyd meddwl sylweddol

Dywedodd bwrdd iechyd Bae Abertawe: "Rydym yn ymwybodol o ddyfalu ynglŷn â Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru.

"O ganlyniad i drafodaethau gyda'r HFEA, a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol yng Nghymru... rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gynaliadwyedd hirdymor y gwasanaeth.

"Gan weithio gyda'r staff, rydym yn edrych ar y camau byr a hirdymor sydd eu hangen i roi'r gwasanaeth ar sail gynaliadwy ac rydym hefyd yn edrych ar gynlluniau wrth gefn.

"Yn y cyfamser, bydd cleifion yn parhau i gael y driniaeth orau posib a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau IVF i'r rhai sydd eu hangen.

"Rydym yn ymwybodol bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn gweithio'n agos i fynd i'r afael â materion a godwyd gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg ac i barhau i fodloni gofynion trwydded.

"Ar hyn o bryd maen nhw'n edrych ar nifer o opsiynau, gan gynnwys trefniadau wrth gefn, i sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gael triniaethau ffrwythlondeb sy'n bodloni'r safonau ansawdd a nodir gan yr HFEA."