Angharad James: 'Siomedig, ond rhaid i ni fynd eto'

Mae Cymru yn benderfynol o orffen eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd ar nodyn uchel er iddynt fethu a sicrhau'r un pwynt hyd yma.

Dim ots beth fydd y canlyniad yn Abertawe nos Fawrth bydd merched Cymru'n disgyn o'r haen uchaf wedi iddynt gael eu trechu gan Wlad yr Iâ nos Wener.

Mae'r Almaen - sy'n chweched yn y byd - angen buddugoliaeth i sicrhau'r safle uchaf yng Ngrŵp A3.

Ond yn ôl chwaraewr ganol cae Cymru a Tottenham, Angharad James, mae'r garfan yn benderfynol o wneud y gorau o'r "un gêm enfawr sydd ar ôl".

"Mae'n gymaint o her, dyma'r gemau ni moyn chwarae," meddai.

"Ar hyn o bryd ni'n siomedig ond ry'n ni'n edrych ymlaen at y gêm a gobeithio cael y perfformiad."