Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-2 Gwlad yr Iâ

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Cymru 1-2 Gwlad yr Iâ

Bydd merched Cymru yn disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl iddynt gael eu trechu gan Wlad yr Iâ nos Wener.

Yn dilyn hanner cyntaf llawn cyfleoedd i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn dilyn gôl gan Antonsdottir.

Yn yr ail hanner, Gwlad yr Iâ oedd yn rheoli'r chwarae.

Gyda llai na chwarter awr yn weddill, fe ddyblodd Gwlad yr Iâ ei mantais yn dilyn gôl gan yr eilydd Dilja Zomers.

Ffynhonnell y llun, Ashley Crowden/FAW

Er i Gymru sgorio gôl ym munudau ola'r gêm, diolch i beniad Elise Hughes, colli fu hanes Cymru am y pumed tro yn y gystadleuaeth.

Roedd yn rhaid i Gymru ennill nos Wener er mwyn cael unrhyw obaith o aros yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd.

Bydd y garfan yn herio'r Almaen yn ei gêm olaf yn y grŵp yn Abertawe nos Fawrth.