Siom colli Grainger ond Angharad James yn 'joio'

Mae Angharad James wedi cael tipyn o yrfa - hi oedd yr ieuengaf erioed yn hanes tim pêl-droed merched Cymru i ennill cant o gapiau dros ei gwlad, ac mae hi wedi chwarae i ddau glwb ym mhrif adran yr Unol Daleithiau sef North Carolina Courage ac Orlando Pride.

Ers 2022 mae hi wedi bod yn chwarae i Tottenham Hotspur yn y WSL yn Lloegr gyda'i gwraig Amy Turner ac mae'r ddwy ohonyn nhw wedi sefydlu busnes coffi eu hunain.

Mi fydd Cymru yn gobeithio cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025 eleni ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny heb Gemma Grainger wedi iddi gael ei phenodi yn rheolwr Norwy.

Tra'n sgwrsio gyda gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr, dywedodd Angharad fod y newyddion yn "sioc" fawr i'r garfan ar drothwy y rowndiau rhagbrofol fydd yn cychwyn ym mis Ebrill.