Angharad James: 'Edrych ymlaen i'r sialens' yn erbyn Gwlad yr Iâ

Mae tîm pêl-droed merched Cymru'n wynebu "her dda" yn eu gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Wener - gêm mae'n rhaid ei hennill er mwyn cae unrhyw obaith o aros yng nghynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd.

Dywedodd y chwaraewr canol cae Angharad James bod y garfan yn cydnabod y pwysau i guro, ond eu bod yn "edrych ymlaen i'r sialens sydd i ddod".

Mae Cymru ar waelod Grŵp A3 ar hyn o bryd, ar ôl colli eu pedair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.

Bydd sylwebaeth fyw i gael ar BBC Radio Cymru.