Leah Owen 'fel ail fam i mi a channoedd o blant eraill'

Mae grŵp o gantorion wedi dod at ei gilydd i recordio teyrnged gerddorol i Leah Owen, fu farw ddechrau'r flwyddyn yn dilyn brwydr â chanser.

Bu'n hyfforddwraig canu amlwg yn y byd cerdd dant yng Nghymru, gan hyfforddi unigolion a phartïon o bob oed.

Mae grŵp lleisiol Enfys - sy'n cynnwys rhai o'r unigolion hynny - bellach wedi dod ynghyd i recordio fersiwn newydd o 'Mae'r Rhod yn Troi'.

Leah Owen wnaeth sefydlu grŵp Enfys, oedd yn arfer teithio'r wlad yn perfformio, ac roeddynt yn aml yn cloi cyngherddau gyda'r gan honno gan Gwenant Pyrs.

Yn ôl Steffan Rhys Hughes, un o aelodau'r grŵp, roedd hi'n "addas iddyn nhw ddod 'nôl at ei gilydd i ganu'r gân yma er cof am Leah".

"Fe wnaethon ni berfformio'r gân yma yn angladd Leah, rhywbeth oedd yn hynod o heriol ond rhywbeth 'da ni'n falch iawn ein bod ni wedi ei wneud.

"Er mwyn cefnogi'r teulu, ac i roi teyrnged ein hunain i Leah... Dangos ein diolch bach ni am yr holl waith y gwnaeth hi ar ein cyfer dros y blynyddoedd."

Dywedodd Mr Hughes fod dylanwad Leah Owen ar ei yrfa a gyrfaoedd sawl un arall yn enfawr.

"Ges i 15 mlynedd o wersi canu yn nhŷ Leah, roedd hi fel ail fam i mi a channoedd o blant a phobl ifanc eraill," meddai.

"Mae'n dyst i ba mor dda oedd hi fod cymaint ohonom ni'n perfformio'n broffesiynol ac wedi parhau ar y trywydd yma.

"Mae hi wedi rhoi'r dechrau gorau i ni gyd ac wedi paratoi ni ar gyfer y diwydiant."