Cyn-ddisgyblion yn cofio Leah Owen
- Cyhoeddwyd
Ddechrau'r flwyddyn bu farw un sy' wedi ei disgrifio fel 'un o bileri y diwylliant Cymreig', Leah Owen. Yn ogystal â bod yn gantores ei hun, fe wnaeth Leah feithrin doniau cerddorol plant a phobl ifanc Dyffryn Clwyd a thu hwnt gan eu paratoi'n drylwyr ar gyfer Eisteddfodau a chyngherddau o bob math.
Ymysg y cannoedd o blant a phobl ifanc yr hyfforddodd Leah i ganu mae nifer wedi dilyn gyrfa ym maes cerddoriaeth neu wedi dod yn gantorion proffesiynol.
Yma mae rhai o'i chyn-ddisgyblion a'r cantorion Huw Edward Jones, Mared Williams, Steffan Rhys Hughes a Jade Davies yn sôn am ei dylanwad arnynt.
Huw Edward Jones: 'O Fôn i'r Albert Hall'
Erbyn hyn mae Huw Edward Jones yn bennaeth yn Ysgol Henblas, Ynys Môn. Cyn mynd ati i astudio gradd mewn cerddoriaeth roedd yn mynd o 'steddfod i 'steddfod i gystadlu gan ennill llu o wobrau, a'i hyfforddwr oedd Leah Owen.
Pedair oed oeddwn i pan ddechreuais i gael gwersi efo Leah, a rhwng 1978 ac 1989 mi fues i mor lwcus o gael mynd ati dan ei gofal i baratoi at eisteddfodau a chyngherddau. A'r rhan helaethaf o'r blynyddoedd hynny yn teithio yn wythnosol o Borthaethwy i'w chartref yn Crud y Castell yn Ninbych.
Roedd yr ymarferion yn mynd heibio mor gyflym - roedd ganddi natur hyfryd ac annwyl a phleser pur oedd cael bod yn ei chwmni. Ia, Leah yr athrawes - ond roedd hi fwy fel chwaer fawr, ac roedden ni yn Erddig (fy nghartref) yn ei hystyried fel aelod estynedig o'r teulu.
Oni bai am Leah fuaswn i heb gael y llu profiadau hynny pan yn blentyn. Un o'r uchafbwyntiau oedd Dad, Mam a minnau (yn naw oed ar y pryd) yn treulio penwythnos efo hi yn Llundain yn Chwefror 1983. Roedd Leah a minnau yn perfformio yng nghyngerdd dathlu Gŵyl Ddewi Cymry Llundain yn yr Albert Hall. Wna i fyth anghofio'r wefr o berfformio yn y neuadd enfawr - ac roedd cael gwneud hynny gyda Leah wrth fy ochr yn golygu bod y profiad yn fwy arbennig.
Leah ysgrifennodd lawer o'r caneuon ar gyfer fy albwm Clir yw'r Lleisiau recordiwyd yn stiwdio Sain yn 1984. Ysgrifenodd y gân Clir yw'r Lleisiau yn benodol i'r albwm - a phan yn blentyn roeddwn wrth fy modd yn ei pherfformio. Roedd Leah yn gwybod yn iawn sut i osod alawon oedd yn cael y gorau o rywun oherwydd ei bod hi'n ein adnabod ni'n iawn.
Roedd Leah yn ein cefnogi ni bob tro, ond roedd yn braf gallu ei chefnogi hi hefyd - rydw i'n cofio bod yn y pafiliwn ynghyd â llawer o'r criw oedd hi'n eu hyfforddi pan enillodd yr unawd cerdd dant dros 21 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau'r 1980au. A phawb mor falch o'i llwyddiant!
Anghofia i fyth wylio Leah yn y prif ran yn y sioe Ceidwad y Gannwyll yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl, 1985. Mae ei pherfformiad o'r gân Moroedd o Ryddid o'r sioe yn ffefryn personol gen i a'i llais clir fel cloch yn canu mor angerddol a theimladwy.
Wrth chwilio am luniau o'r ddau ohonom, dim ond rhyw lond llaw sydd - ac mae hynny yn dweud y cwbl! Yn y cefndir fuasai Leah - doedd dim ffys na lol. Hael. Annwyl. Rhyfeddol. A'r gallu arbennig i gael y gorau o bawb wrth berfformio.
Rydw i mor ddiolchgar o fod wedi cael ei hadnabod ac yn trysori'r holl atgofion.
Jade Davies: 'Teimlo mor lwcus'
Mae Jade Davies yn teithio gyda'r sioe Wicked ar hyn o bryd. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o'r sioeau cerdd Phantom of the Opera, Chitty Chitty Bang Bang (taith), Les Misérables (West End) a Sister Act.
Un arall a gafodd ei hyfforddi gan Leah Owen yw ei chwaer, Amber Davies. Bydd Amber, cyn-enillydd Love Island 2017 ac un o sêr y sioe gerdd 9 to 5 a Pretty Woman yn cystadlu ar y gyfres Dancing on Ice dros yr wythnosau nesaf.
Amser maith yn ôl mi wnes i gyfarfod Leah yn Ysgol Gynradd Twm o'r Nant.
Pan o'n i tua wyth oed wnes i gychwyn canu yn y corau i'r Eisteddfod. Fel ryw wyrth dwi'n meddwl wnaeth Leah weld rhywbeth yndda i a wnaeth hi ofyn i Mam un diwrnod os faswn i'n hoffi cael gwersi canu go iawn efo hi.
Dwi'n cofio teimlo mor, mor lwcus a diolch byth i'r digwyddiad hwn achos fase fi, no way, yn gallu canu a 'neud be' dwi'n 'neud heddiw heb ei hyfforddiant hi. Dwi'n cofio brolio i bawb yn yr ysgol amdana fo. O'n i isio i bawb wybod 'na hi oedd fy athrawes ganu. O'n i mor prowd.
Dwi'n cofio Leah yn rhoi rhan Cinderella i fi un 'dolig. Dwi dal yn cofio'r geirie i'r caneuon - y rôl yma wnaeth greu'r freuddwyd i mi o berfformio yn broffesiynol un diwrnod. Mi fydda i'n ddiolchgar o hynny am byth.
Wnaeth hi hefyd yn lwcus iawn ddysgu fy chwaer, Amber, a bob nos Fawrth ar ôl ysgol oedd hi'n dod draw i'r tŷ i ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod. Roedden ni'n ymarfer ac ymarfer ac ymarfer. O'n i byth isio gadael Leah i lawr, o'n i wastad isio 'neud job ardderchog iddi.
Oedd Leah efo ffordd sbesial i 'neud i chi deimlo'n saff, fel ail fam, ond hefyd eich gwthio chi i berffeithrwydd, a dwi dal i'r diwrnod yma yn cadw at y feddylfryd yma yn y byd proffesiynol sioe gerdd. Mewn unrhyw glyweliad dwi'n ei gael, Leah a'i hyfforddiant sydd ar fy meddwl.
Un diwrnod yn y coleg o'n i'n gorfod canu o flaen yr holl goleg, wnes i orffen canu a wnaeth un o'r athrawon ofyn i mi 'Lle 'nes 'di ddysgu i ganu fel'ne?' a wnes i jyst deud 'gan yr athrawes ore' yn y byd, Leah Owen'.
Mae'n ddeg mlynedd nawr ers dwi 'di bod yn y byd sioeau cerdd. Mae popeth dwi 'di 'neud a phob sioe oherwydd Leah.
Wnaeth breuddwydion fi a fy chwaer ddod yn wir oherwydd hi. Yr hyder, y llais, a hefyd sut i ddelio hefo dim ennill o hyd.
Pan do'n i ddim yn cael llwyfan yn yr Eisteddfod, cwbl oedd hi'n ei ddweud oedd 'Dio'm ddiwedd y byd, ati am yr un nesa'. Fydda i'n cadw hynny hefo fi am byth.
Dwi nawr yn y sioe Wicked a mae yna linell mor hyfryd yn un o'r caneuon sydd yn gwneud i fi feddwl am Leah bob tro dwi'n ei chlywed; 'so much of me is made of what I've learnt from you, you'll be with me like a hand print on my heart.'
Dydi'r llinell yma ddim yn gallu bod yn fwy gwir am sut dwi'n teimlo tuag ati. Bob tro dwi ar y llwyfan wna i feddwl amdani, achos hi ydy'r rheswm am bopeth. Diolch Leah.
Steffan Rhys Hughes: 'Cefnogi Eisteddfodau lleol'
Mae uchafbwyntiau diweddar Steffan Rhys Hughes yn cynnwys teithio gyda sioe gerdd Branwen: Dadeni a thaith Nadolig Welsh of the West End.
Lle mae cychwyn ar dalu teyrnged i Leah? Yr hogan o Fôn. Dyma gynnig arni...
Blwyddyn 3 oedd y lle i fod yn Ysgol Twm o'r Nant am ddau reswm: cael astudio cestyll Cymru, a chael Mrs Leah Jones fel athrawes. Dynes glên, gynnes a gofalgar, gyda cherddoriaeth yn llenwi ei hystafell ddosbarth ar bob achlysur. Dyma Leah yn gweld potensial mewn hogyn egnïol a swnllyd - a dyma gychwyn felly ar ugain mlynedd o gwmnïaeth arbennig.
Dechreuais wersi canu gyda Leah, ac yn sydyn iawn daeth ei hystafell ffrynt ym Mhrion fel ail gartref. Cerdd dant ac alawon gwerin oedd y man cychwyn, ond roedd amod pwysig gyda'r gwersi - roedd rhaid cefnogi'r Eisteddfodau lleol.
Ac er nad oeddwn i'n dod o gefndir Eisteddfodol, dyna'n union wnes i, gan ddysgu bod perfformio i 50 o bobl yr un mor bwysig â pherfformio i 5,000, a bod angen hawlio llwyfan neuadd bentref cyn mentro'n agos at unrhyw lwyfan cenedlaethol.
Roedd diwrnod Eisteddfod Cylch yr Urdd yn Ninbych fel pennod o raglen Gladiators. Degau o gantorion Leah yn perfformio i'r fath safon, roedd hi'n frwydr i ddod i'r brig. Dyma dyst i'w gwaith arbennig fel hyfforddwraig - roedd ei dealltwriaeth o eiriau, ei stamp, a'i sglein ar bob un ohonom.
Mae'n rhyfedd sut mae unigolyn yn gallu cael y fath argraff ar drywydd eich bywyd. Roedd Leah a finne yn deall ein gilydd i'r dim, ac fe ges i brofiadau bythgofiadwy o'i herwydd - faswn i ddim yn berfformiwr proffesiynol heddiw oni bai amdani.
Fe ges i deithio, perfformio ar deledu a radio, recordio a gwneud ffrindiau oes yn y grŵp Enfys - ac i fy athrawes ddosbarth blwyddyn 3 y mae'r diolch am hynny i gyd.
Leah Owen - un o bileri y diwylliant Cymreig, rhodd werthfawr i'n byd cerddorol. Diolch am ugain mlynedd o gyfeillgarwch, creadigrwydd, gofal ac ysbrydoliaeth. Am hynny, mi fyddaf yn ddiolchgar am byth.
Mared Williams: 'Rhoi hyder i fynegi'
Enillodd Mared wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2021 gyda'i halbwm Y Drefn. Mae hi wedi bod yn rhan o sioeau Les Misérables a Sweeney Todd yn y West End, yn un o gantorion y grŵp Welsh of the West End a llynedd Mared oedd yn chwarae rhan Branwen yng nghynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen.
Lle i ddechrau?! Braint oedd cael tyfu fyny mewn ardal lle roedd Leah Owen yn ysbrydoli cymaint o bobl ifanc.
Creu cymuned, magu talent a ffrindiau oes ar yr un pryd. Mae'n golled enfawr i Ddyffryn Clwyd, ond i gymaint o unigolion sydd wedi profi hoel Leah, fel person ac fel athrawes.
Mae arna i fy ngyrfa i gyd iddi, wrth iddi feithrin fy niddordeb mewn canu amryw o arddulliau gwahanol, o'r Eisteddfodau, y parti cerdd dant, yr alaw werin, hyd at ei chyfansoddiadau a'r cyngherddau bach mewn neuaddau pentref a chapeli ar draws gogledd Cymru gyda'r grŵp Enfys.
Fy mhrofiad cyntaf o bob dim… o dderbyn y tâl cyntaf mewn amlen bach yn 12 oed, i recordio mewn stiwdio gartref gyda'i mab Ynyr, i chwarae gitâr a chanu mewn gig am y tro cyntaf mewn clwb golff; Leah sydd wedi cychwyn fy siwrnai ymhob agwedd.
A sôn am hynny, roedd ganddi hi agwedd mor iach a chynnes at bopeth. Yn ddi-ffys, yn gwrthod derbyn tâl am wersi canu weithiau hyd yn oed, ac yn coelio ym mhotensial y bobl ifanc o'i chwmpas.
Doedd gen i ddim hyder mewn mynegi cyn cael gwersi ganddi, felly roedd hi'n hanfodol yn cychwyn fy siwrne gyda sioe gerdd hefyd, wrth iddi fy helpu i ennill yr unawd sioe gerdd yn 14, a chyfeilio Colours of The Wind gyda threfniant wedi ei nodi mewn sol-ffa ar bapur cerddoriaeth.
Hyd at fis olaf ei bywyd, roedd hi'n dal i ymateb i neges destun, yn rhoi pob cefnogaeth a chlod i mi os oedd hi'n gwylio rhaglen neu clywed am unrhyw lwyddiant.
Un o fy hoff atgofion diweddar yw cael canu yn ei chyngerdd Nadolig hi yn Neuadd Dinbych, a gweld faint o bobl, yr holl flynyddoedd wedyn sydd wedi parhau gyda cherddoriaeth fel gyrfa o'i herwydd hi, a faint o bobl sy'n dal i fwynhau perfformio o'i herwydd hi.
Mae hi wedi cynnau tân ac angerdd am fynegiant a pherfformio a fydd yn eistedd ynof i am byth, felly alla i ddim ond diolch o waelod calon iddi am y fraint o gael ei hadnabod.
Diolch Leah.
Hefyd o ddiddordeb: