Barry John: 'Bois, 'ma'r gêm ddiwetha' i minne'

Fe enillodd Barry John galonnau cefnogwyr rygbi - a'r llysenw 'Y Brenin' - am safon ryfeddol ei berfformiadau gyda Chymru a'r Llewod yn 1971.

Go brin y byddai unrhyw wedi dychmygu ar y pryd pa mor fuan wedi hynny y byddai'r maswr chwedlonol, a fu farw ddydd Sul yn 79 oed, yn penderfynu rhoi'r gorau ar y gamp.

Llai tebygol fyth y byddai unrhyw un wedi darogan mai gornest i ddathlu hanner canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru fyddai'r cyfle olaf i'w weld yn dangos ei ddoniau ar gae rygbi.

Roedd yna 35,000 o docynnau ar gyfer y gêm rhwng XV Barry John a XV Carwyn James ar y Maes Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn 1972, ond doedd dim cyhoeddiad i'r dorf bod Barry John ar fin ymddeol.

Naw diwrnod yn ddiweddarach daeth cadarnhad o hynny, ond fe wnaeth y gŵr o Gefneithin rannu'n gyfrinach gyda dau o'i gyd-chwaraewyr, Gareth Edwards a Gerald Davies, yn yr ystafell newid cyn y gic gyntaf.

Dywedodd wrth Y Podlediad Rygbi yn 2020: "Cyn bo ni yn rhedeg mas wedes i i'r ddou o nhw - 'bois, 'ma'r gêm ddiwetha' i minne'...

"Dyna pryd bwrodd e fi hefyd."