Cymru ar y 'trywydd cywir' er colli i Iwerddon

Mae mewnwr Cymru Kieran Hardy yn teimlo fod y tîm ar y trywydd cywir er eu bod wedi colli pob un o'u gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn eleni.

Ar ôl colli yn erbyn Yr Alban a Lloegr, mi oedd Iwerddon yn llawer rhy gryf i'r crysau cochion yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Mae Warren Gatland wedi penderfynu defnyddio'r bencampwriaeth i roi cyfle i wynebau newydd gan nad yw chwaraewyr fel Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Liam Williams a Louis Rees-Zammit ar gael iddo bellach.