Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 31-7 Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru eu trechu'n drwm gan Iwerddon yn eu gêm Chwe Gwlad yn Nulyn.
Y tîm cartref oedd yn rheoli pob agwedd o'r frwydr wrth i geisiau gan Dan Sheehan a James Lowe gyfrannu at fantais o 17-0 ar yr egwyl.
Rhoddodd gais cosb yn gynnar yn yr ail hanner lygedyn o obaith i Gymru, tan i Ciaran Frawley sgorio trydydd cais Iwerddon i'w rhoi nhw 24-7 ar y blaen.
Pwysodd Cymru am gais hwyr ond wedyn fe diriodd Tadhg Beirne i sicrhau pwynt bonws i'r Gwyddelod.
Mae Cymru bellach wedi colli bob un o'u tair gêm eleni, tra bod Iwerddon gam yn agosach at ennill y Gamp Lawn.
Mae'r Gwyddelod yn anelu at fod y tîm cyntaf yn oes y Chwe Gwlad i ennill dwy Gamp Lawn o'r bron ac, ar sail y perfformiad yma, mae'n ymddangos na fydd unrhyw un yn gallu eu hatal.
Gemau cartref yn erbyn Ffrainc a'r Eidal sydd yn weddill i Gymru yn y gystadleuaeth, a bydd y golled yma'n ergyd arall i hyder tîm ifanc Warren Gatland.
Ar ôl dweud hynny, crasfa oedd y disgwyl i Gymru wrth iddyn nhw herio tîm Iwerddon a oedd wedi ennill eu 17 gêm flaenorol gartref.
Dechreuodd y Gwyddelod yn hyderus wrth reoli'r meddiant a thiriogaeth, a sgorion nhw bwyntiau cyntaf y gêm drwy cic gosb Jack Crowley yn y seithfed munud.
Roedd hi'n anochel y byddai cais agoriadol yn dilyn, ac felly y daeth wrth i Sheehan sgorio o gefn sgarmes symudol.
Er i Gymru amddiffyn yn ddewr, roedd pwysau Iwerddon yn ddi-baid a sgoriodd Lowe gais yn y gornel i ymestyn mantais y tîm cartref i 17-0 erbyn hanner amser.
Mae'n bosib y byddai Cymru wedi ofni cweir go iawn ar yr adeg yna, ond roedd ymateb yr ymwelwyr yn gryf.
Cafodd eu sgarmes symudol ei lorio'n anghyfreithlon felly, yn dilyn sgwrs gyda'r dyfarnwr teledu, penderfynodd y dyfarnwr Andrea Piardi i ddanfon clo Iwerddon Beirne i'r gell gosb a rhoi cais cosb i Gymru.
Roedd hynny'n sbardun i'r ymwelwyr, a roedden nhw'n agos at sgorio ail gais o sgarmes symudol ond roedd amddiffyn Iwerddon yn gadarn.
Brwydrodd y Gwyddelod yn ôl ac, ar ôl i gais Bundee Aki gael ei wrthod, fe sgoriodd y cefnwr Frawley wrth wibio dan y pyst.
Er ymdrechion cymeradwy Cymru i gau'r bwlch, Iwerddon gafodd y gair olaf wrth i Beirne dirio ar gyfer eu pedwerydd cais.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror