Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 26-27 Yr Alban
- Cyhoeddwyd
Colli o drwch blewyn fu hanes Cymru yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.
Mewn gêm ryfeddol, lle roedd yr Albanwyr yn llwyr reoli yn yr hanner cyntaf a'r crysau cochion yn ennill tir trwy gydol yr ail hanner, yr ymwelwyr oedd yn fuddugol yn y pen draw o 27 pwynt i 26.
Yn dilyn munudau agoriadol llawn cyffro pan welwyd y ddau dîm yn cicio'n rheolaidd, cafodd y Cymry eu cosbi deirgwaith am gamsefyll.
Llwyddodd maswr yr Alban, Finn Russell, â chic gosb wedi chwe munud a phedair munud yn ddiweddarach daeth cais cyntaf y gêm i'r Alban, gyda'r prop Pierre Schoeman yn tirio. Troswyd y cais gan Russell.
Roedd y momentwm i gyd gan yr Alban yn chwarter cyntaf y gêm, gyda'r ymwelwyr yn ailgylchu'r bêl yn rheolaidd a Russell yn rheoli'r chwarae'n llwyr.
Cafodd Cymru eu cosbi ymhellach wedi ugain munud wedi i Josh Adams daflu'r bêl oddi ar y cae'n fwriadol gyda'r bwriad o atal yr Albanwyr rhag cymryd tafliad sydyn.
Ychwanegodd Russell y tri phwynt gan agor bwlch sylweddol rhwng y ddau dîm.
Roedd yr Albanwyr yn ennill tir yn hawdd erbyn hyn a daeth eu hail gais wedi hanner awr o chwarae wrth i van der Merwe groesi wedi chwarae campus gan Russell.
Ychwanegodd y maswr y trosiad gan ymestyn y bwlch i ugain pwynt.
Er i'r tîm cartref ennill lein ymosodol bum metr o linell yr Albanwyr ddwy funud cyn yr egwyl, colli'r bêl fu eu hanes gan adael talcen caled yn eu hwynebu yn yr ail hanner.
Gyda'r tîm cartref yn amlwg yn colli profiad chwaraewyr fel Biggar a Faletau, aeth yr Alban ymhellach ar y blaen wedi dwy funud yn unig o'r ail hanner, gyda van der Merwe yn croesi'n rhwydd am ei ail gais. Ychwanegodd Russell y trosiad.
Bum munud yn ddiweddarach, daeth sgôr cyntaf Cymru wrth i Botham dirio yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr.
Roedd llawer mwy o hyder yn chwarae'r Cymry erbyn hyn gyda Tomos Williams yn arwain y ffordd. Ei bas yntau arweiniodd at ail gais y tîm cartref wedi 54 munud wrth i Dyer dirio yn y cornel. Llwyddodd Ioan Lloyd â'r trosiad y tro hwn.
Gyda'r dorf wedi deffro erbyn hyn, roedd mwy o awch yn chwarae'r Cymry.
Fe groesodd wythwr Cymru, Wainwright, am drydydd cais y cochion gyda Lloyd yn ychwanegu'r trosiad o flaen y pyst.
Mewn ail hanner cwbl ryfeddol, daeth pedwerydd cais Cymru wedi 68 munud wrth i'r eilydd, Mann, groesi'n bwerus.
Gyda throsiad Lloyd, roedd y Cymry o fewn un pwynt i'r Albanwyr.
Gyda deng munud olaf llawn cyffro, gyda'r ddau dîm yn chwilio am gyfle i sgorio, llwyddodd yr Alban i wthio Cymru yn ôl i'w hanner eu hunain.
Wrth i'r dyfarnwr chwythu'r chwiban olaf, roedd rhyddhad amlwg ar wyneb yr Albanwyr wrth iddynt ennill yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2002.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr