Merched Cymru 'yn edrych ymlaen at y dyfodol'

Mae chwaraewr canol cae Cymru Angharad James yn dweud fod y tim yn "edrych ymlaen at y dyfodol" o dan arweinyddiaeth Rhian Wilkinson.

Fe enillodd Cymru 2-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yn Nulyn nos Fercher gyda'r rheolwr newydd Wilkinson yn gwylio o'r eisteddle.

Mi fydd ymgyrch Cymru yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2025 yn dechrau ym mis Ebrill.