Gêm gyfeillgar: Gweriniaeth Iwerddon 0-2 Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Lily Woodham selio'r fuddugoliaeth i Gymru cyn diwedd yr hanner cyntaf
Roedd 'na fuddugoliaeth wych i dîm pêl-droed merched Cymru nos Fawrth mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, o flaen eu rheolwr newydd Rhian Wilkinson.
Mi gafodd Wilkinson ei phenodi fel olynydd i Gemma Grainger ddydd Llun, a roedd hi'n gwylio'r o'r eisteddle yn Nulyn gyda Jon Grey wrth y llyw.
Mi fydd hi'n sicr wedi mwynhau'r perfformiad, yn enwedig gan gofio fod Gweriniaeth Iwerddon wyth safle'n uwch na Chymru ar restr detholion y byd.

Roedd Rhian Wilkinson yn Stadiwm Tallaght i wylio ei thîm newydd
Fe ddechreuodd Cymru'r gêm yn dda ac mi oedden nhw ar y blaen ar ôl llai na 10 munud, gyda Jess Fishlock yn rhwydo yn dilyn gwaith da gan Hayley Ladd.
A fe aeth pethau'n well iddyn nhw hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf wrth i Lily Woodham ddyblu eu mantais gyda ergyd droed chwith rymus.

Fe roddodd Jess Fishlock Cymru ar y blaen yn y nawfed munud
Mi fu bron i'r Weriniaeth sgorio cyn hanner amser, ond roedd 'na arbediad gwych gan golwr Cymru, Olivia Clark, o ergyd Amber Barrett.
Er i'r tîm cartref gael y rhan fwyaf o'r meddiant yn yr ail hanner, doedden nhw ddim yn edrych yn fygythiol gydag amddiffyn Cymru yn drefnus a disgybledig.
Mi fydd Cymru'n chwarae nesaf ym mis Ebrill a hynny yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2025, gyda'r enwau i ddod allan o'r het wythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024