Penodi Rhian Wilkinson i arwain tîm pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel chwaraewr fe enillodd Rhian Wilkinson 183 cap dros Ganada

Mae Rhian Wilkinson wedi cael ei phenodi fel rheolwr newydd tîm pêl-droed merched Cymru ar gytundeb tan 2027.

Mae Wilkinson, sy'n 41 oed, wedi ennill prif gynghrair yr Unol Daleithiau, yr NWSL, fel rheolwr Portland Thorns yn 2022.

Mae hi hefyd wedi treulio cyfnodau fel is-reolwr ar dimau cenedlaethol Canada a Lloegr.

Mae hi'n olynu Gemma Grainger, a adawodd ym mis Ionawr i gymryd yr awenau fel rheolwr newydd Norwy.

Yn dilyn ei phenodiad dywedodd Wilkinson ei bod yn "anrhydedd enfawr i gymryd y swydd fel rheolwr Cymru".

"Mae'r tîm wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf ac rwyf yn bwriadu adeiladu ar hynny.

"Mae'r grŵp yma o chwaraewyr yn barod ac yn haeddu cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â nhw ac i weithio gyda nhw."

Pwy yw Rhian Wilkinson?

Fel chwaraewr fe enillodd 183 cap dros Ganada, gan ennill medal efydd gyda'r tîm yng Ngemau Olympaidd 2012 a 2016.

Ar ôl ymddeol mi dreuliodd flwyddyn fel is-reolwr Canada, cyn cael ei phenodi fel is-reolwr i Hege Riise gyda thîm Lloegr.

Fe aeth Riise a Wilkinson yn eu blaenau i arwain tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn 2021, lle llwyddon nhw i gyrraedd rownd yr wyth olaf cyn colli'n erbyn Awstralia.

Ffynhonnell y llun, /Getty Images

Ym mis Tachwedd 2021 cafodd Wilkinson ei phenodi yn rheolwr ar Portland Thorns, gan ennill cynghrair y NWSL gyda nhw flwyddyn yn ddiweddarach.

Ymddiswyddodd yn 2022 yn sgil honiadau ei bod wedi cael perthynas gydag un o'i chwaraewyr.

Er i'r ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd wedi gwneud dim byd o'i le, fe adawodd ei swydd.

Cysylltiadau Cymreig

Mi dreuliodd Wilkinson gyfnod yn byw yn Y Bont-faen rhwng 1989 a 1991, gan fod ei mam yn Gymraes ac yn wreiddiol o'r ardal.

Hyd yn oed ar ôl symud yn ôl i Ganada mi roedd hi'n dal yn dod draw i Gymru yn flynyddol i ymweld â theulu ei mam.

Mae hi wedi disgrifio Cymru fel "ail gartref" yn y gorffennol - a bydd hi'n cael y cyfle o hyn ymlaen i dreulio llawer mwy o amser yma.