Mae 'na rywun wedi bod wrthi ar draeth Ynys y Barri yn gwneud teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II ar ddiwrnod ei hangladd.
Visit Barry IslandCopyright: Visit Barry Island
Yr orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith yn Windsor
Mae'r orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith a phan fyddan nhw'n cyrraedd grisiau gorllewin Capel San Siôr bydd gosgordd o Warchodlu Bataliwn 1af y Grenadwyr yn cario arch y Frenhines i'r capel.
I'r Teulu Brenhinol mae'r orymdaith heddiw yn adlais o'u profiad diweddar yn 2021 pan fu farw Dug Caeredin.
Dau o gorgwn y Frenhines yn Windsor
Mae'r Teulu Brenhinol bellach yn dilyn yr arch yn Windsor ac hefyd ar y ffordd roedd dau o gorgwn y Frenhines - Muick a Sandy.
BBCCopyright: BBC
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: 'Ffydd y Frenhines wedi gwneud argraff'
Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "ffydd y Frenhines wastad wedi gwneud argraff fawr" arno.
"Roedd hi'n teimlo yn ei chalon yr awydd i wasanaethu pobl a'i bod, mewn gwirionedd, wedi cael ei chysegru i'r swydd," meddai.
"Nid sioe oedd ei defosiwn - roedd hi'n cymryd diddordeb yn y pregethau."
Trefn y gwasanaeth claddu
Bydd Gwasanaeth y
Traddodiant yn dechrau yng Nghapel San Siôr,
Castell Windsor am 16:00, o dan arweiniad Deon
Windsor, Y Gwir Barchedig David Conner.
Yn dilyn y Weddi
Agoriadol, bydd gweddïau yn cael eu cyflwyno gan Reithor Sandringham, Gweinidog
Crathie Kirk a Chaplan y Capel Brenhinol, Windsor Great Park.
Côr Capel San Siôr fydd yn canu yn ystod y gwasanaeth, a bydd y Deon wedyn yn darllen o Lyfr Datguddiad
Pennod 21, adnodau 1-7.
Cafodd y darlleniad hwnnw ei wneud yn angladdau mam-gu a thad-cu y
Frenhines, Brenin George V yn 1936 a’r Frenhines Mary yn 1953, yn ogystal ag
angladd ei thad George VI yn 1952.
Cysylltiad gydag Eglwysi Cadeiriol Llandaf a Thyddewi
Mudiad arall y bu'r Frenhines yn gysylltiedig ag ef oedd Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Ymwelodd â'r gadeirlan bedair gwaith yn ystod ei theyrnasiad.
Gwasanaeth o ddiolchgarwch am gwblhau gwaith adnewyddu'r Gadeirlan oedd yr achlysur cyntaf iddi ei fynychu, a hynny ym mis Mawrth 1960.
Yn ystod y gwasanaeth darllenodd Ddug Caeredin lith.
Roedd ymweliad arall ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn rhan o amserlen brysur Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977.
Yn 1999 cafodd gwasanaeth ei gynnal yn y gadeirlan i gyd-fynd ag agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn 2012 daeth y Frenhines a Dug Caeredin yn ôl fel rhan o daith y Jiwbilî Ddiemwnt.
Roedd y Frenhines yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn noddwr Gŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Un o draddodiadau blynyddol y Frenhines oedd dosbarthu arian cablyd - maundy money - ar Ddydd Iau Cablyd - defod sy'n dyddio 'nôl ganrifoedd.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn cadeirlan wahanol bob blwyddyn, ac yn 1982 tro Tyddewi oedd hi i gynnal y seremoni hynafol.
Ar 1 Mehefin 1995 cafodd Tyddewi ei chydnabod yn ddinas, wrth i'r Frenhines gyflwyno'r breintlythyr mewn seremoni yn yr Eglwys Gadeiriol yno.
Cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan: 'Byth yn swil' wrth sôn am ei ffydd
Ddoe ddiwrnod cyn angladd y Frenhines Elizabeth II bu nifer o wasanaethau a gweddïau ar draws Cymru yn cofio am ei chyfraniad.
Ar hyd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth II, doedd hi "fyth yn swil" wrth sôn am ei ffydd, yn ôl cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan.
Fel Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Lloegr, bu ei ffydd yn graig iddi ar adegau o lawenydd ac yn ystod yr adegau anodd.
Dywedodd Dr Morgan: "Roedd hi wastad yn cofio ei bod wedi gwneud y llw i Dduw i fod yn Frenhines.
"Yn ei hareithiau Nadolig blynyddol roedd pwysigrwydd ei ffydd yn amlwg, wrth iddi bwysleisio rôl crefydd yn ei bywyd bob dydd."
Bu Dr Morgan yn Archesgob Cymru am bron i 14 mlynedd, a daeth i adnabod y Frenhines yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Modd gweld y cyfan a chlywed rhaglen Radio Cymru yma
BBC Radio Cymru
Mae sylwebaeth Radio Cymru o ail ran yr angladd wedi cychwyn ac mae modd gweld y cyfan drwy glicio ar y saeth ar frig y dudalen yma.
Y clychau a'r gynnau yn gefndir i'r orymdaith
Wrth i arch y Frenhines ymlwybro o Albert Road i’r drws gorllewinol mae clychau Sebastopol
yn Nhŵr Crwn y castell a chloch y Curfew Tower yn canu unwaith
bob munud.
Mae'r gynnau hefyd yn tanio bob munud o lawnt orllewinol Castell Windsor.
Am 16:00 bydd y gwasanaeth Traddodiant (Committal) yn cael ei gynnal sef y weithred, a'r elfen gysylltiedig o'r gwasanaeth angladdol, o roi corff i orwedd mewn bedd.
Rai munudau cyn hynny bydd y Brenin ac aelodau’r
Teulu Brenhinol yn ymuno â’r orymdaith ar droed.
BBCCopyright: BBC
Y dorf yn Windsor yn cofnodi eu profiadau ar eu ffoniau
BBCCopyright: BBC
Tân Castell Windsor yn 1992 yn ergyd i'r Frenhines
Mae yng Nghastell Windsor 1,000 o ystafelloedd a 13 erw o dir.
Roedd y Frenhines wrth ei bodd yn gwahodd teuluoedd brenhinol, arlywyddion a phrif weinidogion gwledydd eraill yma.
Roedd y tân a gafwyd yng Nghastell Windsor yn 1992 rhan o'i annus horribilis.
Roedd difrod y tân yn ddirfawr - yn 2011 fe benderfynodd y Frenhines mai yn y fan hon y byddai ei phrif gartref unwaith eto gyda'r castell erbyn hynny wedi'i adnewyddu'n llwyr.
BBCCopyright: BBC
Pwysigrwydd Windsor i'r Frenhines
Mae'r sylwebydd Tomos Dafydd Davies wedi bod yn siarad ar Newyddion S4C am bwysigrwydd Windsor i'r Frenhines.
"Mae’r dref
frenhinol yma yn barod i groesawu’r ddiweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ôl i’w chartref ysbrydol, lle oedd hi hapusaf," meddai.
"Mae’r muriau
hanesyddol yma wedi tystio rhai o benodau mwyaf arwyddocaol y teulu brenhinol,
cyfnodau o gecru, o goncwest ac, yn ddiweddar wrth gwrs, galar cyhoeddus.
"Mae’n gwbl
pwrpasol ei bod hi’n dychwelyd i’r lle hwn."
'Wedi colli menyw hyfryd'
Gwyliodd Sian Thomas o Lanelli yr hers yn gadael canol Llundain ar
ymyl ffordd ger Hyde Park.
"Roedd pawb yn barch i gyd," dywedodd, "a phawb o'n i'n siarad gyda yn ei
hoffi hi fel menyw, fel Brenhines, fel rhywun teulu."
Dywedodd y daeth "tristwch" drosti pan welodd
yr hers yn diflannu i lawr y ffordd.
"Ni 'di colli menyw hyfryd. Ni'n mynd i weld gwahaniaeth ond
gobeithio nawr bydd y Brenin Charles yn gwneud jobyn mor dda â hi."
'Pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl'
Bu Albert
Evan James, 98, yn gwylio'r angladd o gartref gofal Sŵn y Môr yn Aberafan.
"Mae'n wych i weld, fyddwn ni ddim yn gweld hyn eto," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwybod fod ei hamser hi'n agosáu.
"Fe ges i MBE am fy ngwasanaeth i'r Awyrlu. Roeddwn i fod i fynd i Balas Buckingham i'w dderbyn gan y Frenhines.
"Ond roedd yn rhaid iddi hi gael llawdriniaeth, felly fe wnaeth y Tywysog Charles ei roi i mi yng Nghaerdydd."
BBCCopyright: BBC
Ychwanegodd Betty Lloyd, 88: "Roedd e'n bwysig gwylio achos dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn Frenhines dda.
"Mae'n neis bod gyda ffrindiau a siarad a chael sgwrs am y Frenhines, a'i chofio hi."
BBCCopyright: BBC
Y Frenhines wrth ei bodd yng Nghastell Windsor
Roedd y Frenhines yn meddwl y byd o Gastell Windsor - yn ferch fach byddai hi a'r teulu yn dod i dreulio penwythnosau yn y Royal Lodge.
Yn ystod y 1930au ac yn nghyfnod y rhyfel roedd yn llecyn lle gallai hi a'i chwaer gael preifatrwydd.
Dyma'r lle roedd y Frenhines yn ei alw'n "adref" ac o'r fan yma a hithau'n 14 oed y gwnaeth hi siarad â faciwîs ifanc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
PA MediaCopyright: PA Media
Y gynulleidfa yn cyrraedd Capel San Siôr
Ers oddeutu 14:00 mae'r gynulleidfa wedi bod yn dechrau cyrraedd Capel San Siôr.
Yn eu plith mae prif weinidogion tiriogaethau’r Gymanwlad.
Yn ogystal mae aelodau o’r Teulu
Brenhinol na sy'n cerdded y tu ôl i’r arch yn cyrraedd y Capel.
Capel San Siôr yw’r eglwys sy’n cael ei dewis yn aml gan y Teulu Brenhinol ar gyfer priodas,
bedydd ac angladd brenhinol.
Argraffiadau olaf o Abaty Westminster
Dyma argraffiadau olaf ein gohebydd Rhodri Llywelyn o Abaty Westminster y prynhawn yma, wrth i arch y Frenhines adael ar ei ffordd i Windsor.
Taith yr arch o Gastell Windsor
BBCCopyright: BBC
Gorymdaith ar hyd The Long Walk i Gastell Windsor
BBCCopyright: BBC
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 15:10 ar ôl i'r arch gael ei chludo ar yr Hers Wladol o Wellington Arch.
Bydd aelodau'r Teulu Brenhinol yn ymuno yn yr orymdaith tua 15:40.
Yr Hers Wladol yn cyrraedd Windsor
Mae'r hers bellach yn cyrraedd Windsor ac yna fe fydd pobl yn cerdded gyda hi ar hyd y llwybr hir sy'n arwain at y castell.
Ar hyd y ffordd dair milltir mae aelodau o'r lluoedd arfog yn un rhes.
Mae disgwyl i'r Brenin a gweddill y Teulu Brenhinol ymuno â'r orymdaith ychydig yn hwyrach - wrth y pedrongl yng Nghastell Windsor.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Teyrnged ar y traeth
Mae 'na rywun wedi bod wrthi ar draeth Ynys y Barri yn gwneud teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II ar ddiwrnod ei hangladd.
Yr orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith yn Windsor
Mae'r orymdaith ar fin cyrraedd pen y daith a phan fyddan nhw'n cyrraedd grisiau gorllewin Capel San Siôr bydd gosgordd o Warchodlu Bataliwn 1af y Grenadwyr yn cario arch y Frenhines i'r capel.
I'r Teulu Brenhinol mae'r orymdaith heddiw yn adlais o'u profiad diweddar yn 2021 pan fu farw Dug Caeredin.
Dau o gorgwn y Frenhines yn Windsor
Mae'r Teulu Brenhinol bellach yn dilyn yr arch yn Windsor ac hefyd ar y ffordd roedd dau o gorgwn y Frenhines - Muick a Sandy.
Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: 'Ffydd y Frenhines wedi gwneud argraff'
Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod "ffydd y Frenhines wastad wedi gwneud argraff fawr" arno.
"Roedd hi'n teimlo yn ei chalon yr awydd i wasanaethu pobl a'i bod, mewn gwirionedd, wedi cael ei chysegru i'r swydd," meddai.
"Nid sioe oedd ei defosiwn - roedd hi'n cymryd diddordeb yn y pregethau."
Trefn y gwasanaeth claddu
Bydd Gwasanaeth y Traddodiant yn dechrau yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor am 16:00, o dan arweiniad Deon Windsor, Y Gwir Barchedig David Conner.
Yn dilyn y Weddi Agoriadol, bydd gweddïau yn cael eu cyflwyno gan Reithor Sandringham, Gweinidog Crathie Kirk a Chaplan y Capel Brenhinol, Windsor Great Park.
Côr Capel San Siôr fydd yn canu yn ystod y gwasanaeth, a bydd y Deon wedyn yn darllen o Lyfr Datguddiad Pennod 21, adnodau 1-7.
Cafodd y darlleniad hwnnw ei wneud yn angladdau mam-gu a thad-cu y Frenhines, Brenin George V yn 1936 a’r Frenhines Mary yn 1953, yn ogystal ag angladd ei thad George VI yn 1952.
Cysylltiad gydag Eglwysi Cadeiriol Llandaf a Thyddewi
Mudiad arall y bu'r Frenhines yn gysylltiedig ag ef oedd Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Ymwelodd â'r gadeirlan bedair gwaith yn ystod ei theyrnasiad.
Gwasanaeth o ddiolchgarwch am gwblhau gwaith adnewyddu'r Gadeirlan oedd yr achlysur cyntaf iddi ei fynychu, a hynny ym mis Mawrth 1960.
Yn ystod y gwasanaeth darllenodd Ddug Caeredin lith.
Roedd ymweliad arall ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn rhan o amserlen brysur Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977.
Yn 1999 cafodd gwasanaeth ei gynnal yn y gadeirlan i gyd-fynd ag agoriad swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn 2012 daeth y Frenhines a Dug Caeredin yn ôl fel rhan o daith y Jiwbilî Ddiemwnt.
Roedd y Frenhines yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn noddwr Gŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Un o draddodiadau blynyddol y Frenhines oedd dosbarthu arian cablyd - maundy money - ar Ddydd Iau Cablyd - defod sy'n dyddio 'nôl ganrifoedd.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn cadeirlan wahanol bob blwyddyn, ac yn 1982 tro Tyddewi oedd hi i gynnal y seremoni hynafol.
Ar 1 Mehefin 1995 cafodd Tyddewi ei chydnabod yn ddinas, wrth i'r Frenhines gyflwyno'r breintlythyr mewn seremoni yn yr Eglwys Gadeiriol yno.
Cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan: 'Byth yn swil' wrth sôn am ei ffydd
Ddoe ddiwrnod cyn angladd y Frenhines Elizabeth II bu nifer o wasanaethau a gweddïau ar draws Cymru yn cofio am ei chyfraniad.
Ar hyd teyrnasiad y Frenhines Elizabeth II, doedd hi "fyth yn swil" wrth sôn am ei ffydd, yn ôl cyn-Archesgob Cymru Barry Morgan.
Fel Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Lloegr, bu ei ffydd yn graig iddi ar adegau o lawenydd ac yn ystod yr adegau anodd.
Dywedodd Dr Morgan: "Roedd hi wastad yn cofio ei bod wedi gwneud y llw i Dduw i fod yn Frenhines.
"Yn ei hareithiau Nadolig blynyddol roedd pwysigrwydd ei ffydd yn amlwg, wrth iddi bwysleisio rôl crefydd yn ei bywyd bob dydd."
Bu Dr Morgan yn Archesgob Cymru am bron i 14 mlynedd, a daeth i adnabod y Frenhines yn ystod ei gyfnod yn y swydd.
Modd gweld y cyfan a chlywed rhaglen Radio Cymru yma
BBC Radio Cymru
Mae sylwebaeth Radio Cymru o ail ran yr angladd wedi cychwyn ac mae modd gweld y cyfan drwy glicio ar y saeth ar frig y dudalen yma.
Y clychau a'r gynnau yn gefndir i'r orymdaith
Wrth i arch y Frenhines ymlwybro o Albert Road i’r drws gorllewinol mae clychau Sebastopol yn Nhŵr Crwn y castell a chloch y Curfew Tower yn canu unwaith bob munud.
Mae'r gynnau hefyd yn tanio bob munud o lawnt orllewinol Castell Windsor.
Am 16:00 bydd y gwasanaeth Traddodiant (Committal) yn cael ei gynnal sef y weithred, a'r elfen gysylltiedig o'r gwasanaeth angladdol, o roi corff i orwedd mewn bedd.
Rai munudau cyn hynny bydd y Brenin ac aelodau’r Teulu Brenhinol yn ymuno â’r orymdaith ar droed.
Y dorf yn Windsor yn cofnodi eu profiadau ar eu ffoniau
Tân Castell Windsor yn 1992 yn ergyd i'r Frenhines
Mae yng Nghastell Windsor 1,000 o ystafelloedd a 13 erw o dir.
Roedd y Frenhines wrth ei bodd yn gwahodd teuluoedd brenhinol, arlywyddion a phrif weinidogion gwledydd eraill yma.
Roedd y tân a gafwyd yng Nghastell Windsor yn 1992 rhan o'i annus horribilis.
Roedd difrod y tân yn ddirfawr - yn 2011 fe benderfynodd y Frenhines mai yn y fan hon y byddai ei phrif gartref unwaith eto gyda'r castell erbyn hynny wedi'i adnewyddu'n llwyr.
Pwysigrwydd Windsor i'r Frenhines
Mae'r sylwebydd Tomos Dafydd Davies wedi bod yn siarad ar Newyddion S4C am bwysigrwydd Windsor i'r Frenhines.
"Mae’r dref frenhinol yma yn barod i groesawu’r ddiweddar Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ôl i’w chartref ysbrydol, lle oedd hi hapusaf," meddai.
"Mae’r muriau hanesyddol yma wedi tystio rhai o benodau mwyaf arwyddocaol y teulu brenhinol, cyfnodau o gecru, o goncwest ac, yn ddiweddar wrth gwrs, galar cyhoeddus.
"Mae’n gwbl pwrpasol ei bod hi’n dychwelyd i’r lle hwn."
'Wedi colli menyw hyfryd'
Gwyliodd Sian Thomas o Lanelli yr hers yn gadael canol Llundain ar ymyl ffordd ger Hyde Park.
"Roedd pawb yn barch i gyd," dywedodd, "a phawb o'n i'n siarad gyda yn ei hoffi hi fel menyw, fel Brenhines, fel rhywun teulu."
Dywedodd y daeth "tristwch" drosti pan welodd yr hers yn diflannu i lawr y ffordd.
"Ni 'di colli menyw hyfryd. Ni'n mynd i weld gwahaniaeth ond gobeithio nawr bydd y Brenin Charles yn gwneud jobyn mor dda â hi."
'Pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl'
Bu Albert Evan James, 98, yn gwylio'r angladd o gartref gofal Sŵn y Môr yn Aberafan.
"Mae'n wych i weld, fyddwn ni ddim yn gweld hyn eto," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan aeth hi, roedd e mor annisgwyl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwybod fod ei hamser hi'n agosáu.
"Fe ges i MBE am fy ngwasanaeth i'r Awyrlu. Roeddwn i fod i fynd i Balas Buckingham i'w dderbyn gan y Frenhines.
"Ond roedd yn rhaid iddi hi gael llawdriniaeth, felly fe wnaeth y Tywysog Charles ei roi i mi yng Nghaerdydd."
Ychwanegodd Betty Lloyd, 88: "Roedd e'n bwysig gwylio achos dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn Frenhines dda.
"Mae'n neis bod gyda ffrindiau a siarad a chael sgwrs am y Frenhines, a'i chofio hi."
Y Frenhines wrth ei bodd yng Nghastell Windsor
Roedd y Frenhines yn meddwl y byd o Gastell Windsor - yn ferch fach byddai hi a'r teulu yn dod i dreulio penwythnosau yn y Royal Lodge.
Yn ystod y 1930au ac yn nghyfnod y rhyfel roedd yn llecyn lle gallai hi a'i chwaer gael preifatrwydd.
Dyma'r lle roedd y Frenhines yn ei alw'n "adref" ac o'r fan yma a hithau'n 14 oed y gwnaeth hi siarad â faciwîs ifanc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Y gynulleidfa yn cyrraedd Capel San Siôr
Ers oddeutu 14:00 mae'r gynulleidfa wedi bod yn dechrau cyrraedd Capel San Siôr.
Yn eu plith mae prif weinidogion tiriogaethau’r Gymanwlad.
Yn ogystal mae aelodau o’r Teulu Brenhinol na sy'n cerdded y tu ôl i’r arch yn cyrraedd y Capel.
Capel San Siôr yw’r eglwys sy’n cael ei dewis yn aml gan y Teulu Brenhinol ar gyfer priodas, bedydd ac angladd brenhinol.