a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Trafferthion tocynnau i rai cefnogwyr

    Iolo Cheung

    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae ‘na rai cefnogwyr wedi bod yn cael trafferthion gyda’r ap tocynnau, sydd ddim yn dangos eu tocyn ar gyfer y gêm.

    Fe fethodd rhai o gefnogwyr Lloegr ddechrau eu gornest nhw oherwydd yr un broblem.

    Felly mae cyngor i’r rheiny sydd wedi'u heffeithio fynd i’r stadiwm cyn gynted â phosib, ble mae canolfannau i ddatrys y broblem.

    Cefnogwyr
  2. Mwy o drafod y gêm ar Post Prynhawn

    BBC Radio Cymru

    Mae rhagor o drafod y gêm hollbwysig heno ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru nawr.

    Fe allwch chi wrando heb orfod gadael ein llif byw, trwy glicio ar yr eicon uchod.

  3. Ffrindiau... am y tro!

    Cymro ac Americanwr yn trafod y gêm ar y Metro draw i’r stadiwm - tybed pa un fydd yn gwenu fwyaf erbyn y chwiban olaf!

    Cefnogwyr
  4. Pob lwc gan blant ysgol Cymru!

    Roedd yna cryn gyffro yn ysgolion Cymru heddiw - yn dymuno'n dda i'r garfan oedd disgyblion Ysgol Pendalar, Ysgol Gynradd Creunant ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.

    Video content

    Video caption: Pob lwc Cymru!
  5. Tybed pa dîm sy'n dathlu yn fan hyn...?

    Mae parti wedi bod yn cael ei gynnal i gefnogwyr Cymru yng ngwesty'r Intercontinental cyn y gêm nos Lun.

    Roedd y Wal Goch wedi gadael ei marc o fewn dim, gan gymryd dau lawr o'r gwesty drosodd!

    Cefnogwyr Cymru yn cyrraedd y gwesty
    Image caption: Roedd yna dipyn o gynnwrf wrth i aelodau'r Wal Goch gyrraedd
    Baneri Cymru yn y gwesty
  6. Am achlysur! Croeso!

    P'nawn da, a chroeso i'n llif byw arbennig o'r gêm rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau yng Nghwpan y Byd Qatar 2022.

    Hir yw pob ymaros, medden nhw, a dyma gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth ers 64 o flynyddoedd!

    Mae 'na genhedlaeth o Gymry sydd erioed wedi gweld y tîm cenedlaethol yn chwarae yng Nghwpan y Byd, ond mae'r foment wedi cyrraedd o'r diwedd.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan, gan ein gohebwyr ledled Cymru ac allan yn Doha.

    C'MON CYMRU!

    Page a Bale