a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Sarah Down-Roberts, Rhian Price a Bryn Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Enillydd heddiw yn bumed arweinydd llywodraeth ddatganoledig Cymru

    Bydd enillydd heddiw yn bumed arweinydd llywodraeth ddatganoledig Cymru ers i bwerau dros faterion fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol gael eu trosglwyddo yn 1999.

    Bydd Jeremy Miles neu Vaughan Gething yn dilyn yn ôl traed Alun Michael, Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

    Alun Michael oedd arweinydd cyntaf llywodraeth ddatganoledig Cymru
    Image caption: Alun Michael oedd arweinydd cyntaf llywodraeth ddatganoledig Cymru
  2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng maniffestos Gething a Miles?

    Daniel Davies

    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ras agos yw hi rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y blaid a phrif weinidog.

    Mae'r ddau wedi cyhoeddi eu maniffestos ar gyfer yr arweinyddiaeth.

    Dau wleidydd o dir canol y blaid ydyn nhw, a gyda'r ddau yn weinidogion yn yr un llywodraeth, mae 'na lot yn gyffredin rhwng y ddwy ddogfen.

    Ond maen nhw'n cynnig polisïau gwahanol mewn rhai meysydd.

    Darllenwch yma.

  3. Pwy sy'n cael pleidleisio?

    Roedd unrhyw aelod o'r blaid yng Nghymru neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â Llafur, megis undebau llafur, yn gallu pleidleisio.

    Nid yw'r blaid yn datgelu faint o bobl sy'n aelodau o Lafur Cymru, ond yn ôl ffynonellau mae tua 16,000.

    Credir bod tua 100,000 yn gallu pleidleisio ond mae disgwyl mai cyfran fach o'r nifer yna sydd wedi pleidleisio.

    Roedd yr aelodau yn medru pleidleisio drwy'r post neu ar-lein rhwng 16 Chwefror a 14 Mawrth.

    Geting a Miles
  4. Y diweddaraf: Pwy fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru?

    Mae enillydd etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru - a'r dyn sydd ar fin dod yn brif weinidog newydd Cymru - yn cael ei gyhoeddi bore 'ma.

    Mae Vaughan Gething a Jeremy Miles wedi bod yn cystadlu i olynu Mark Drakeford, sy'n rhoi'r gorau iddi yn swyddogol yr wythnos nesaf.

    Bydd swyddogion y Blaid Lafur yn datgan canlyniad yr etholiad yng Nghaerdydd.

    Y diweddaraf ar ein llif byw. Croeso aton ni.

    Mark Drakeford
    Image caption: Fe fydd yr enillydd yn olynu Mark Drakeford a welir yma yn siarad wedi iddo fe ennill y ras i fod yn arweinydd yn 2018