Etholiad 19: I ffair Nadolig Llanelli i gael barn etholwyr

  • Cyhoeddwyd
Rhai o etholwyr Llanelli

Wrth i'r gwleidyddion gynnig bob math o addewidion er mwyn ennill pleidleisiau, Cymru Fyw aeth i ffair Nadolig i weld pa anrhegion gwleidyddol fyddai'n plesio cyn 12 Rhagfyr.

Fel byddai rhywun yn disgwyl mewn ysgol efallai, roedd toriadau i gyllidebau a'r effaith ar addysg ar dop y rhestr i nifer.

Ac i'r rhai oedd yn ffair Nadolig Ysgol y Strade, Llanelli - fel yng ngweddill taith Cymru Fyw i gael barn etholwyr - mae'r hyn sy'n bwysig yn yr etholiad eleni yn gyfuniad o faterion sydd o dan reolaeth San Steffan, y Cynulliad a chynghorau lleol.

'Mae'r toriadau yn amlwg yn maint y dosbarthiadau... ac mae llai o bres i'w wario ar bob disgybl' - Kate Bowen

Disgrifiad o’r llun,

Kate Bowen (chwith) a'i mam Brenda Dayson

Kate Bowen:

"Ges i'n addysg yn Ysgol Glan-y-Môr, wedyn symud i'r Strade. Mae fy mab a merch yma rŵan - ac maen nhw wrth eu boddau 'da'r lle.

"Fy mhrif bryder fel athrawes yw cyllid i ysgolion, sydd wedi ei dorri yn ddramatig. Mae ngŵr i'n gweithio fel dyn tân ac mae'r gwasanaethau brys wedi cael lleihad mawr i'w cyllid a phensiynau hefyd.

"Rwy'n dysgu yn Abertawe ac mae'r toriadau yn amlwg yn maint y dosbarthiadau - maen nhw'n ddosbarthiadau mwy, ac mae llai o bres i'w wario i bob disgybl - yn fy achos i fel athrawes celf mae hynny'n golygu llai o gyfarpar a defnyddiau.

"Ni'n gorfod ail-ddefnyddio pethau fel ffabrig a defnyddiau ar gyfer prosiectau a'r plant yn dod a phethau sydd wedi cael eu defnyddio gartref - allwn ni ddim fforddio prynu nhw'n newydd.

"Mae'r amgylchedd yn bwysig i mi - rwy'n poeni lot am effaith hynny. Ry' ni'n mynd i gasglu sbwriel ar y traeth fel teulu a rwy' eisiau i bobl drafod mwy am yr amgylchedd.

"Rwy' wedi pleidleisio Plaid o'r blaen, erioed y Torïaid, a ry' ni wedi pleidleisio Llafur hefyd. Yn yr etholiad yma rwy'n meddwl bydde'n well defnyddio pleidlais i rywun sydd efo gobaith o ennill - felly rwy'n meddwl mod i am bleidleisio Llafur yn hytrach na Plaid, ond dwi ddim 100%."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r stondinwyr yn trafod anrhegion Nadolig - neu'r etholiad?

Brenda Dayson:

"Fi'n gofidio am iechyd a gofal i bobl, addysg y plant a be' yw eu dyfodol nhw.

"Mae toriadau yn poeni fi, heblaw yn fy oedran i nawr ry' ni'n iawn - ni'r oedran pan ni'n sefydlog ond beth am bobl ifanc, fy mhlant ac wyrion?

"Athrawes oeddwn i - wedi ymddeol ers 12 mlynedd, ond fi'n gweld effaith y toriadau trwy fy merch i."

'Fi'n mynd i sticio at y blaid dwi yn ei gefnogi er efallai na fydd fy mhleidlais i yn gwneud lot fawr o wahaniaeth' - Helen Lane

"'Wi o Lanelli a chysylltiad efo'r ysgol, ac felly rwy' yn y ffair oherwydd hynny.

"Dwi ddim wedi newid fy marn o ran gwleidyddiaeth ers hanner canrif a mwy. Fi'n pleidleisio i Blaid Cymru ac wedi bod yn aelod ers diwedd y 1960au.

"Yn Llanelli wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth arall, achos Llafur sy'n rhedeg y sioe fan hyn a Llafur sy'n mynd â hi bob tro - sy'n anffodus achos mae gymaint o dalent i gael o fewn carfannau Plaid Cymru, mae'n drueni nad ydy pobl ddim jest yn eistedd lawr, darllen ac ystyried yr hyn maen nhw'n darllen.

"Mae lot o sôn wedi bod yn ddiweddar yn y wasg am bwyti pleidleisio tactegol, a dyw hynny ddim bob tro yn gweithio le mae Plaid Cymru yn y cwestiwn. Mae pobl yn mynd i bleidleisio yn dactegol o ran y Blaid Geidwadol neu Ryddfrydwyr neu'r Blaid Lafur.

"Dwi yn eistedd mewn sefyllfa ble fi'n dal yn mynd i sticio at y blaid dwi yn ei gefnogi er efallai na fydd fy mhleidlais i yn gwneud lot fawr o wahaniaeth i Lanelli, ond o ran fy nghydwybod i a'n ddaliadau i fel yna mae'n mynd i fynd."

'Mae'r toriadau yn pryderu yn fawr iawn, fi'n credu bod y 10 mlynedd ddiwetha' wedi bod yn echrydus' - Delyth Davies

"Fi wedi byw fan hyn rhan fwya' o mywyd... a bues i'n dysgu fan yma o 1982-2003.

"Mae Llanelli wedi newid tipyn dros y blynyddoedd - roedd yn dref llewyrchus iawn pan oedd y gwaith dur gyda ni ond yn 1981, caewyd gwaith Duport gan Margaret Thatcher a dyw'r dref ddim wedi codi ers hynny - mae tipyn o dlodi yma i fod yn onest.

"Ni yn colli lot o'n pobl ifanc yn anffodus, mae lot o'n pobl ifanc yn mynd bant, mae peth diwydiant ysgafn yma a llawer yn gweithio i lywodraeth neu gynghorau.

"Mae'n pryderu fi. Mae lot o'r plant sy'n 'neud yn dda yn yr ysgol a chael swyddi da, chi'n gobeithio bydda nhw'n gallu dod 'nôl fan hyn ond dyw'r gwaith ddim yma ar eu cyfer nhw.

"Mae'r toriadau yn pryderu yn fawr iawn, fi'n credu bod y 10 mlynedd ddiwetha' wedi bod yn echrydus... o ni yn yr ysgol fan hyn pan ddechreuodd y toriadau a welais i'r effaith.

"Fi wedi gorffen ers chwe' mlynedd ond roedd toriadau yn y bedair mlynedd ola' o ni yn yr ysgol ac roedden nhw yn ddifrifol... ac maen nhw wedi gwaethygu.

"Roedd faint o staff oedd gyda chi fel cymhareb i ddisgybl ac yn y blaen mae hwnna'n gorfod newid - pethe mor sylfaenol â hynny."

'Rhywbeth sy'n agos iawn i'n galon i ar y foment yw'r ffaith bod y veterans yn cael eu herlid' - Bethan Rowlands

"Fi'n rhiant i dri yn fama ar y foment ac un ar y ffordd lan mis Medi. Ges i'n godi yn Porth Tywyn, ges i hyfforddiant fel nyrs yng Nghaerfyrddin, wedyn es i i'r fyddin am wyth mlynedd.

"Es i Caterick, Aldershot, mas i Ryfel y Gwlff cynta', cwpl o stints draw yn yr Almaen... des i nôl i weithio'n Glangwili ac wedyn es i off i weithio ar y cruise liners am ddwy neu dair mlynedd ac wedyn cwrdd â'r gŵr a sestlais i lawr nôl yma.

"Mae'r dre wedi newid - mae wedi cau lawr lot. Dyw e ddim byd beth oedd e pan oeddwn i'n ferch ifanc, lot o siopau gwag, popeth wedi symud mas i [barc siopa] Trostre, sai'n gweld llawer yn mynd i ganol y dre ragor, sy'n drist.

"Fi'n gweld bob man bach yn shabby. Fi'n swnio'n hen rŵan, fi'n swnio fel fy mam... ond mae diffyg parch, lot o fandaliaeth, does dim pride yn y dref mwyach.

"Rhywbeth sy'n agos iawn i'n galon i ar y foment yw'r ffaith bod y veterans yn cael eu herlid.

"Efo Northern Ireland ddechreuodd e ac wedyn ma' nhw wedi dechrau dishgwl at Irac ac Afghanistan. Mae hynny'n agos iawn at fy nghalon i yn amlwg wedi bod mas yno. Neith e bendant effeithio ffordd 'wi'n pleidleisio.

"Fi'n credu bod unrhywun sy'n cael eu hela mas gan y llywodraeth i wneud jobyn ac wedyn dod 'nôl a chael eu cosbi am wneud hynny - big no no i fi.

"Mae immigration hefyd yn bwysig i fi - lot gormod ohono a lot o bwyse ar y system.

"Mae mwy a mwy o bobl yn dod fewn i'r ardal a phawb yn disgwyl yr un service - sy'n iawn, ma' pawb fod i gael yr un peth - os chi yma yn gyfreithlon. Dyna'r broblem sydd 'da fi. Byddai'n pleidleisio Tory."

'Fi'n cael pleidleisio ond fi heb registro' - Aaron Davies

"Fi yn blwyddyn olaf y chweched dosbarth a fi moyn mynd i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus.

"Fi'n 18 - fi ydy'r hynaf yn yr ysgol - felly fi'n cael pleidleisio ond fi heb registro achos fi ddim yn credu bod fi'n deall cymaint amdano fe bod fi'n gallu rhoi pleidlais, fi ddim yn gwybod beth i bleidleisio amdano.

"Fi'n credu mai Llafur ydw i - oherwydd rhieni fi, fi'n dilyn nhw ond yn ddiweddar fi'n clywed pethau am Llafur wrth pleidiau arall felly fi ddim yn actually gwybod be' sydd orau i fi fel person ifanc.

"Ar y dechrau roedd gen i ddiddordeb mewn Brexit ond ma' fe wedi cael ei dragio allan cymaint fi wedi colli diddordeb.

"Fi'n credu bod addysg ac iechyd yn bwysig a fi'n credu bod y ffordd mae disgyblion ysgol yn gorfod talu am eu bwydydd cinio ysgol yn anghywir oherwydd bod pobl fel prisoners yn cael nhw am ddim.

"Mae climate change wedi cael effaith ar sut fi'n meddwl - fi'n gyrru fy hunain nawr, ond ar rhai diwrnodau fi'n dod ar fws yma."

Disgrifiad o’r llun,

Anrhegion Nadolig gwleidyddol ar werth yn y ffair

'Y peth pwysig i mi yw fel i gadw'r gymdeithas yn fyw' - Glyn Brodrick

"Fi'n dod o Landeilo yn enedigol ond wedi bod yn fan hyn nawr ers dros 30 mlynedd - wedi priodi merch o Lanelli.

"Rwy'n gweithio ar y stondin yma, mae'n wraig yn gwneud cardiau a dyma'r ysgol ble ddaeth y plant felly ni'n dod i gefnogi.

"Dyw nhw ddim yma nawr, maen nhw yng Nghaerdydd. Mae tynfa yng Nghaerdydd ac mae cymdeithas Cymraeg a Chymreig i gael yno nawr yn does.

"Y peth pwysig i mi yw fel i gadw'r gymdeithas yn fyw, a gwaith wrth gwrs mae hwnnw'n rhan bwysig yn cadw'r gymdeithas i ffynnu. Mae'r iaith yn bwysig hefyd. Dyna'r tri pheth.

"Fi'n gweld rhywbeth byd eang yw'r ffaith bod pobl yn mynd i'r pegynau yn hytrach na'r tir canol a dyw pobl ddim yn gwrando ar ddadl yr ochr arall nawr cymaint ag oedden nhw yn y gorffennol.

"Mae'n poeni fi - chi am i bobl gyd-dynnu ac os yw nhw'n tynnu i wahanol gyfeiriad chi ddim am gael cymdeithas sy'n cefnogi ei gilydd.

"Mae iechyd ac addysg yn bwysig. Mae ysbyty 'da ni yn Llanelli, mae cymaint o alw am y gwasanaethau ac eto oes digon o bobl yn cael eu hyfforddi i fynd i mewn i'r gwaith? Athrawon yr un peth.

"Chi'n clywed nawr bod pobl yn gofyn i bobl i fynd i hyfforddi fel athrawon doedde chi ddim yn clywed hynny o'r blaen - roedd Cymru yn allforio athrawon.

"Os nad y chi'n ariannu pethau dyw nhw ddim yn mynd i ffynnu."

Ymgeiswyr Llanelli

  • Mari Arthur - Plaid Cymru

  • Susan Boucher - Plaid Brexit

  • Nia Griffith - Llafur

  • Tamara Reay - Ceidwadwyr