Addysg yn bwnc o bwys yn etholiad 2019

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AberFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffioedd myfyrwyr yn bwnc fyddai'n cael effaith ar brifysgolion yng Nghymru hefyd

Mewn termau du a gwyn dydy addysg yng Nghymru ddim yn rhan o'r arlwy yn yr etholiad yma, ond eto fe glywch chi ddigon am ysgolion a phrifysgolion yn ystod yr ymgyrch.

Mae yna addewidion lu gan y rheiny sy'n cystadlu am allweddi 10 Downing Street ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gyllideb addysg, am gyflogau athrawon ac am ffioedd dysgu prifysgolion.

Eto, dydy'r sefyllfa wleidyddol a chyfansoddiadol ddim yn ddu a gwyn ac mae'r polisïau ar brifysgolion yn dangos hynny yn fwy na sawl maes.

Byddai addewid am ffioedd dysgu yn Lloegr â'r potensial i effeithio ar filoedd o fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yno.

Ac mae prifysgolion Cymru'n cystadlu am yr un myfyrwyr â sefydliadau yn Lloegr.

Os oes yna gynllun i ostwng ffioedd neu i gael gwared arnyn nhw'n llwyr yna byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus iawn ar yr effaith yma.

Prin fyddai prifysgolion Cymru'n parhau i godi £9,000 ar fyfyrwyr tra bod pobl ifanc dros y ffin yn cael eu haddysg am ddim?

Ac wedyn dyna'r pwnc sydd wrth galon yr etholiad yma - Brexit - a hynny ar frig yr agenda i brifysgolion.

Bagiau ysgol disgyblion uwchraddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim sicrwydd y byddai ysgolion Cymru yn cael mwy o arian os bydd mwy o gyllid i addysg yn Lloegr

Mae'r prifysgolion hefyd wrth gwrs yn llawn pleidleiswyr sy'n cael sylw'r ymgyrchwyr a'r dadansoddwyr gwleidyddol.

Mewn rhai seddi fel Arfon, Canol Caerdydd neu Geredigion fe allai "y bleidlais myfyrwyr" gael dylanwad.

Ond mae ymhell o fod yn glir sut fyddai'n effeithio ar y canlyniadau, yn enwedig gyda'r etholiad yn dod ar ddiwedd y tymor.

I ysgolion, ariannu yw'r pwnc llosg ond fyddai addewidion y pleidiau Prydeinig ddim yn ganiataol yn arwain at geiniog ychwanegol i ddosbarthiadau Cymru.

Fe allai cyllideb Cymru gael mwy o arian o ganlyniad i rai o'r addewidion, ond Llywodraeth Cymru fyddai'n penderfynu ar ba feysydd fyddai'n cael ei wario.

Fydd yr etholiad ddim yn penderfynu pwy fydd yn cael y gair olaf ar bolisïau addysg Cymru.

Ond dydy dweud nad yw'n berthnasol o gwbl yn yr etholiad cyffredinol yma ddim yn adlewyrchu realiti'r cymhlethdodau cyfansoddiadol a'r amryw ddylanwadau ar bleidleiswyr.