Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2017
- Cyhoeddwyd
Dyma gip ar uchafbwyntiau seremoni Llyfr y Flwyddyn 2017.
Idris Reynolds enillodd brif wobr Gymraeg eleni am ei gyfrol Cofio Dic am y prifardd Dic Jones ac Alys Conran oedd enillydd y brif wobr Saesneg am ei nofel Pigeon.

Roedd tlysau'r enillwyr wedi eu creu gan yr artist Angharad Pearce Jones

Cynhaliwyd y seremoni yn The Tramshed yn ardal Grangetown, Caerdydd

Eirian James, Mari George a Catrin Beard oedd y panel beirniadu Cymraeg

Cyfle am sgwrs cyn i'r seremoni gychwyn

Ashok Ahir yn sgwrsio â'r cyflwynydd Nia Roberts ar gyfer rhaglen arbennig o Stiwdio am Llyfr y Flwyddyn ar BBC Radio Cymru

Sgwrsio

Yr Athro Jason Walford Davies yn sgwrsio â Brychan Llŷr, mab y diweddar Dic Jones

Y DJ Gareth Potter

Eleri Siôn oedd meistres y ddefod

Idris Reynolds yn derbyn ei wobr. Ef oedd enillydd prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni am ei gasgliad o atgofion am y prifardd a'r cyn-archdderwydd, Dic Jones.

Yn y categorïau Saesneg fe wnaeth Alys Conran gipio tair gwobr, gan gynnwys y prif un, am ei nofel Pigeon

Enillwyr y categorïau Saesneg oedd Peter Lord yn y categori Ffeithiol Greadigol, Alys Conran a John Freeman oedd yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth. Hefyd yn y llun y beirniaid Tyler Keevil a Dimitra Fimi, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Roedd y patrwm ar ffrog y beirniad Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon yn addas iawn ar gyfer yr achlysur

Idris Reynolds

Owain Schiavone yn cyflwyno gwobr i Guto Dafydd a gipiodd wobr Barn y Bobl Golwg360 am ei nofel, Ymbelydredd.

Aneirin Karadog, enillydd y categori Barddoniaeth am ei gyfrol Bylchau

Caryl Lewis enillydd y categori Ffuglen am ei nofel Y Gwreiddyn