Blodau Cymru'n cipio Llyfr y Flwyddyn 2018
- Cyhoeddwyd
Campwaith ddylai fod ar gael ym mhob ysgol a llyfrgell, dyna ddisgrifiad beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2018 wrth gyhoeddi mai cyfrol Goronwy Wynne, Blodau Cymru ddaeth i'r brig eleni.
Cafodd y wobr ei chyflwyno mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Yn gynharach yn y noson, enillodd Goronwy Wynne y categori Ffeithiol Greadigol hefyd.
Robert Minhinnick ddaeth i'r brig yn y wobr Saesneg, am ei gyfrol Diary of the Last Man.
Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r gystadleuaeth yn flynyddol i ddathlu'r llyfrau gorau Cymraeg a Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Mae enillwyr y tri chategori yn y ddwy iaith yn cael gwobr o £1,000 yr un, tra bo'r prif enillwyr yn cael £3,000 yn ychwanegol.
Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd y ddarlledwraig a'r cyflwynydd Beti George; Prifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016, Aneirin Karadog, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Caryl Lewis.
Y colofnydd a'r awdur Carolyn Hitt; y bardd a'r golygydd Kathryn Gray a'r awdur Cynan Jones, a enillodd wobr y BBC Short Story Award 2017, oedd beirniaid y panel Saesneg.
Yr Enillwyr:
Gwobr Barn y Bobl Golwg 360
Y wobr gyntaf a gafodd ei chyhoeddi oedd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, sy'n ganlyniad i bleidlais gan ddarllenwyr Golwg360.com.
Cafodd y wobr ei chyflwyno gan y newyddiadurwr Mared Ifan a'r enillydd eleni yw'r academydd a'r golygydd Peredur Lynch, am ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Caeth a Rhydd.
Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd enillydd yr Wales Arts Review People's Choice Prize, sef Tristan Hughes am ei nofel Hummingbird (Parthian).
Categori'r gyfrol farddoniaeth Gymraeg
Ar y rhestr fer:
Llif Coch Awst - Hywel Griffiths
Treiglo - Gwyneth Lewis
Caeth a Rhydd - Peredur Lynch
Yr enillydd yw Hywel Griffiths am ei gyfrol Llif Coch Awst (Cyhoeddiadau Barddas).
"Mae anwylder y dweud yn cyfareddu," meddai Caryl Lewis, wrth gyhoeddi'r enillydd.
Gwobr Farddoniaeth Saesneg Roland Mathias
Ar y rhestr fer:
The Mabinogi - Matthew Francis
Diary of the Last Man - Robert Minhinnick
All Fours - Nia Davies
A'r enillydd yw Diary of the Last Man (Carcanet) gan Robert Minhinnick
Categori ffuglen Gymraeg
Y rhestr y fer:
Gwales - Catrin Dafydd
Fabula - Llŷr Gwyn Lewis
Hen Bethau Anghofiedig - Mihangel Morgan
Cyhoeddodd Beti George mai Gwales (Y Lolfa) gan Catrin Dafydd ddaeth i'r brig, gan ei disgrifio fel "chwip o nofel".
Ffuglen Saesneg
Ar y rhestr Fer:
Hummingbird - Tristan Hughes
Lightswitches Are My Kryptonite - Crystal Jeans
Bad Ideas\Chemicals - Lloyd Markham
A'r enillydd yw Lightswitches Are My Kryptonite (Honno) - Crystal Jeans
Categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg
Ar y rhestr fer:
Meddyginiaethau Gwerin Cymru - Ann Elisabeth Williams
Blodau Cymru: Byd y Planhigion - Goronwy Wynne
Ar Drywydd Niclas y Glais - Hefin Wyn
Ac mae'r wobr yn mynd i Goronwy Wynne am ei lyfr Blodau Cymru: Byd y Planhigion (Y Lolfa)
"Cyfrol nas gwelwyd ei thebyg erioed o'r blaen yn y Gymraeg", medd y Prifardd Aneirin Karadog wrth gyhoeddi'r enillydd.
Categori Ffeithiol Greadigol Saesneg
Y rhestr fer:
Icebreaker: A Journey Far North - Horatio Clare
David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet - Thomas Dilworth
All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas - M. Wynn Thomas
A'r enillydd yw All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru) - M. Wynn Thomas
Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
Daeth y beirniaid yn ôl i'r llwyfan i gyhoeddi prif enillydd y noson yn Gymraeg.
Dywedodd Beti George fod y gwobrau'n rhai pwysig wrth roi statws i lenyddiaeth yng Nghymru a gwobrwyo'r awduron.
Dywedodd ei fod yn "benderfyniad anodd" dewis enillydd, ond bod y llyfr ddaeth i'r brig yn "gampwaith".
Enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2018 yw Blodau Cymru: Byd y Planhigion (Y Lolfa)
Derbyniodd Goronwy Wynne ei wobr gan y gweinidog diwylliant, Dafydd Elis-Thomas.
Llyfr Saesneg y Flwyddyn
Robert Minhinnick ddaeth i'r brig am ei gyfrol o farddoniaeth, Diary of the Last Man.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd11 Mai 2018
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017