Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2016

  • Cyhoeddwyd
gwobrau

Ar 21 Gorffennaf cafodd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2016 ei chynnal yng nghanolfan gelfyddydol Tŷ Coch ym Merthyr Tudful. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau trwy lens y ffotograffydd Sioned Birchall:

Beirniaid y gwobrau Cymraeg: Llion Pryderi Roberts, Huw Stephens a Lleucu Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Beirniaid y gwobrau Cymraeg: Llion Pryderi Roberts, Huw Stephens a Lleucu Roberts

Llenyddiaeth Cymru sy'n trefnu'r noson. Dyma y Prif Weithredwr Lleucu Siencyn yn sgwrsio gyda Alun Davies, Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Mererid Hopwood, ar restr fer y Farddoniaeth Gymraeg yn ymlacio cyn dechrau'r nosn
Disgrifiad o’r llun,

Mererid Hopwood, ar restr fer y Farddoniaeth Gymraeg cyn dechrau'r seremoni

thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Morris wedi ei enwebu deirgwaith yn y categorïau Saesneg. Cafodd gefnogaeth dda gan ei hen ffrindiau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Cwm Rhymni

Lisa Gwilym yw meistres y ddefod
Disgrifiad o’r llun,

Lisa Gwilym yw meistres y ddefod

"Pwy sydd wedi ennill te?" Y gynulleidfa'n barod am y seremoni
Disgrifiad o’r llun,

"Pwy sydd wedi ennill te?" Y gynulleidfa'n barod am y seremoni

Enillodd Caryl Lewis Wobr y Bobl am ei nofel 'Y Bwthyn'
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Caryl Lewis Wobr y Bobl am ei nofel 'Y Bwthyn'

Roedd Caryl ar ei thraed eto mewn rhai munudau i dderbyn gwobr y Nofel Gymraeg Orau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caryl ar ei thraed eto mewn rhai munudau i dderbyn gwobr y Nofel Gymraeg Orau

Mererid Hopwood yn derbyn ei gwobr am y gyfrol Farddoniaeth Gymraeg orau
Disgrifiad o’r llun,

Mererid Hopwood yn derbyn ei gwobr am 'Nes Draw' y Farddoniaeth Gymraeg orau

Jasmine Donahaye, enillyd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei chyfrol 'Losing Israel'
Disgrifiad o’r llun,

Jasmine Donahaye, enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei chyfrol 'Losing Israel'

gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Gruffydd Aled Williams gyda'r wobr Ffeithiol Greadigol am ei gyfrol 'Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr'

Philip Gross, enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias am ei gyfrol 'Love Songs of Carbon'
Disgrifiad o’r llun,

Philip Gross, enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias am ei gyfrol 'Love Songs of Carbon'

huw
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn datgelu enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn

'Y Bwthyn' yn llawn: Llongyfarchiadau mawr i Caryl Lewis ar ennill tair gwobr gan gynnwys Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
Disgrifiad o’r llun,

'Y Bwthyn' yn llawn: Llongyfarchiadau mawr i Caryl Lewis ar ennill tair gwobr gan gynnwys Llyfr Cymraeg y Flwyddyn

Ac roedd na drindod o wobrau i Thomas Morris am ei nofel "We Don't Know What We're Doing'. Mae'n amlwg bod Thomas yn gwybod beth mae'n ei neud wrth gipio Gwobr y Bobl, Y Nofel Saesneg Orau a Llyfr Saesneg y Flwyddyn.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd na drindod o wobrau hefyd i Thomas Morris am ei nofel "We Don't Know What We're Doing'. Mae'n amlwg bod Thomas yn gwybod beth mae'n ei neud wrth gipio Gwobr y Bobl, Y Nofel Saesneg Orau a Llyfr Saesneg y Flwyddyn.