Lluniau: Eisteddfod Ryng-golegol 2018
- Cyhoeddwyd
Wedi'r holl gystadlu a'r cyfrif canlyniadau, Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol 2018 ac un o fyfyrwyr Bangor, Osian Owen, oedd enillydd y Gadair a'r Goron.
Mae'r steddfod yn un o uchafbwynt cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymraeg Cymru ac roedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan eleni gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dyma luniau'r ffotograffydd Aled Llywelyn o'r penwythnos:

Bodiau fyny i'r Steddfod Rhyng-gol gan un o fyfyrwyr Bangor

Mae 'na dipyn o Roc a Rôl ar benwythnos y Rhyng-gol...

ond hefyd mae yna ganu...

... a chymeradwyo

... a pherfformio

... a mwynhau

... a gwobrwyo. O'r chwith i'r dde: Nia Haf, Bangor, enillydd y Fedal Ddrama; Alistair Mahoney, Bangor, enillydd Tlws y Cerddor a Non Jones, Aberystwyth, enillydd y Fedal Gelf

Llongyfarchiadau i Osian Owen, enillydd y Gadair a'r Goron. Daeth yn agos i 150 o ddarnau gwaith cartref eleni.

Coreograffi difyr gan fyfyrwyr Caerdydd

Marc Griffiths - Marci G - oedd yn arwain yr Eisteddfod gyda Lisa Angharad

Dechreuodd penwythnos yr Eisteddfod gyda thwrnameint chwaraeon ar ddydd Gwener 9 Mawrth. Prifysgol Aberystwyth oedd yr enillwyr

Mae penwythnos y Rhyng-gol yn gyfe i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion Cymru gymysgu

Ond mae ennill yn brofiad da hefyd!

Myfyrwyr Bangor wrth ei boddau. Enillwyr yr Eisteddfod a chystadleuaeth y côr hefyd

Y darian fydd yn mynd nôl i Fangor yn 2018

Yr uchafbwynt i nifer - Gig Rhyng-gol 2018 gyda Y Cledrau, Fleur De Lys, Gwilym a DJ Garmon