Lluniau: Gwobrau'r Selar 2018
- Cyhoeddwyd
Cafodd Gwobrau'r Selar ei gynnal nos Sadwrn, 17 Chwefror, gydag Yws Gwynedd yn hawlio'r penawdau ar ôl cipio pedair gwobr.
Ymhlith y rhai oedd yn perfformio yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth oedd Omaloma, Cadno, Adwaith, Pasta Hull, Serol Serol ac Yr Eira. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau mewn lluniau:


Enillodd Yws Gwynedd a'i fand y wobr am y Record Hir Orau, y Fideo Gorau, y Gân Orau a'r Band Gorau


Y DJ Elan Evans oedd cyflwynydd y noson a gafodd ei chynnal yn Aberystwyth


Edrychwch ffordd yma! Y band ifanc o Gaerdydd, Cadno, enillodd y wobr am y Record Fer Orau


Y swynol Alys Williams enillodd yn y categori Artist Unigol Gorau, gan dderbyn ei gwobr gan y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris


Ed Holden (neu Mr Phormula) ar y llwyfan gyda Band Pres Llareggub


Y band Gwilym enillodd yn y categori Band Neu Artist Newydd Gorau


Er iddyn nhw fethu ag ennill gwobr eleni, mae'r dyfodol yn ddisglair i'r grŵp pop seicadelig, Serol Serol


Heather Jones - enillydd y Wobr Cyfraniad Arbennig eleni - yn perfformio ar y nos Wener


Osian Williams (ar y dde), prif leisydd y band Candelas, yn derbyn ei wobr am yr Offerynnwr Gorau


Yr Eira gafodd y fraint o gloi'r noson gyda set aeth ymlaen i'r oriau mân... Ymlaen i 2019!

Yr enillwyr yn llawn...
Cân Orau: Drwy Dy Lygid Di - Yws Gwynedd
Digwyddiad Byw Gorau: Maes B
Gwaith Celf Gorau: Achw Met - Pasta Hull
Band Neu Artist Newydd Gorau: Gwilym
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau: Clwb Ifor Bach
Record Fer Orau: Cadno - Cadno
Offerynnwr Gorau: Osian Williams
Record Hir Orau: Anrheoli - Yws Gwynedd
Cyflwynydd Gorau: Tudur Owen
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Drwy Dy Lygaid Di - Yws Gwynedd
Artist Unigol Gorau: Alys Williams
Band Gorau: Yws Gwynedd
Gwobr Cyfraniad Arbennig: Heather Jones