Dathlu 50 mlynedd o wneud arian
- Cyhoeddwyd
Eleni, mae'r Bathdy Brenhinol yn dathlu 50 mlynedd ers symud o Lundain i dde Cymru.
Ym mis Rhagfyr 1968, daeth y Frenhines Elizabeth i Lantrisant i gychwyn gwaith y gwasg darnau arian yno am y tro cyntaf. Erbyn hyn mae'r Bathdy yn medru cynhyrchu 90 miliwn o ddarnau arian bob wythnos.
Dyma olwg unigryw trwy luniau ar waith y sefydliad sy'n gwneud ein harian.

Mae'r mwyafrif o arian yn dechrau ar ffurf ingotiaid.


Mae peth o'r arian yn dechrau ar ffurf weiren.


Mae'r holl fetel yn cyrraedd Llantrisant ar gefn lori.


Ond yr un yw eu tynged - y ffwrnes.


Mae'r arian yn cael ei brofi yn ystod y broses.


Mae'r arian yn cael ei rolio yn stripiau tenau, hir.


Mae'r stripiau hir yn cael eu storio yn barod i'w defnyddio.


Mae'r rholiau'n wedyn yn cael eu bwydo i beiriant tyllu sydd yn taro darnau moel, crwn o'r stribedi.


Mae'r broses yn creu darnau bach o arian.


Rhaid cadw golwg fod rhain yn gywir o ran maint a safon.


Reit, beth wnawn ni gyda hwn 'te?


Yn y cyfamser, mewn rhan arall o'r adeilad, mae'r templed ar gyfer y darn arian yn cael ei baratoi gan grefftwyr.


Wrth reswm, rhaid i rhain fod yn berffaith.


Cyn eu stampio, rhaid rhoi'r 'sgrifen ar ymyl bob darn.


Y peiriant yn rhoi ei stamp ar yr arian.


Mae'n bosib i'r peiriannau daro tua 700 o ddarnau punt neu ddwy bunt y funud.


Rhaid sicrhau safon wrth reswm.


Gweithiwr hapus ar ôl diwrnod caled o waith yn creu arian.
©Y Bathdy Brenhinol: Lluniau gan Andrew Molyneux a thrwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru
