Agor drysau Bathdy Brenhinol Llantrisant i'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd modd i bobl gael cipolwg ar waith y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, wrth i'r drysau agor i'r cyhoedd ddydd Mercher.
Bydd modd i ymwelwyr weld gweithwyr yn bathu ceiniogau yn ogystal â dysgu am hanes y gwaith mewn arddangosfa ryngweithiol.
Mae disgwyl i 130,000 o bob ymweld â'r gwaith bob blwyddyn.
Cafodd y Bathdy Brenhinol ei sefydlu yn Nhŵr Llundain, ond mae wedi ymgartrefu yn Llantrisant ers 1968.
Mae'n cyflogi 900 o bobl ac yn cynhyrchu ceiniogau a medalau i dros 60 o wledydd.
Nawr, wedi gwaith gwerth £9 miliwn ar y safle - gan gynnwys grant o £2.3miliwn gan Lywodraeth Cymru - mae'r drysau'n agor i ymwelwyr.
Bydd modd i ymwelwyr gael eu tywys o gwmpas y safle, a chyfle i bobl edrych drwy'r gwydr a gweld ceiniogau'n cael eu creu.
Mae'r arddangosfa'n edrych ar hanes y Bathdy, yr arian a'r medalau y mae'n eu cynhyrchu, yn ogystal ag edrych ar berthynas pobl a cheiniogau a diddordeb pobl yn eu casglu.
Fel rhan o'r datblygiad, mae yna ystafell ddosbarth ar y safle hefyd, er mwyn i blant gael dysgu am gynhyrchu ceiniogau a sut i sicrhau eu bod nhw'n ddilys.