Y Golwr a'i gelf

  • Cyhoeddwyd
Owain Fon Williams

Mi enillodd Owain Fôn Williams, golgeidwad talentog Inverness Caledonian Thistle ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn yr Iseldiroedd ar 13 Tachwedd, ond wyddoch chi hefyd ei fod o hefyd yn artist galluog ac yn gitarydd dawnus?

Mi fuodd Owain, sy'n wreiddiol o Benygroes ger Caernarfon, yn sôn am ei ddiddordebau oddi ar y maes pêl-droed gyda Cymru Fyw:

Pryd nes di ddechrau ddangos diddordeb mewn arlunio?

Mae gen i ddiddordeb wedi bod yn y byd celf ers blynyddoedd.

Dwi'n cofio gorfod mynd i Oriel Môn, dolen allanol pan o'n i'n fychan, ond do'n i ddim isho mynd o gwbl. Roedda' ni'n arfer stopio yno yn Llangefni ar y ffordd i tŷ Nain efo Mam a Dad, ac odda ni'n sbio ar waith Kyffin Williams ac eraill.

Wrth gwrs pan ti'n fach ti'm yn meddwl dim am y peth, just gweld rhyw lun ma' rhywun 'di'i 'neud efo brws paent. Ond pan ti'n mynd yn hŷn ti'n gwerthfawrogi sut lun ydi o, a beth sy' yn y llun. Mae pob llun yn wahanol, a ma' pawb yn gweld llunia yn wahanol, ac ers sylweddoli hyn dwi'n meddwl mod i 'di cael diddordeb mewn peintio fy hun.

Nes di siarad efo rhywun a chael cyngor wrth ddechrau peintio?

Nes i ailafael yn y peintio tua blwyddyn yn ôl, a nes i lun o Highland Bull, un o'r rhai efo'r gwallt mawr sy'n mynd dros eu llgada' - oni'm yn meddwl dim am y peth ar y pryd. Es i â'r llun lawr i siop Llun Mewn Ffrâm ym Mhenygroes, a siarad efo Meic, perchennog y siop a'r oriel.

Mi nes i esbonio wrth Meic faint o ddiddordeb oedd gen i mewn arlunio, a na'th o dd'eud "reit ma' 'na farchnad i chdi fama, os ti'n wirioneddol keen". O'n i'n deud wrtha fo fod well gen i wneud llun neu chwarae'r gitar yn hytrach nag edrych ar y teledu neu chwarae'r Playstation - dwi'n hoffi dysgu a trio gwella'n hun.

Ma'n rhyfedd bo fi 'di dewis y tarw yna, oherwydd ar y funud dwi'n chwarae i Inverness, a be welis i yn y cae rhyw ddiwrnod neu ddau ar ôl arwyddo oedd Highland Bull.

Disgrifiad o’r llun,

Un o deirw Owain Fôn

O'n i 'rioed 'di gweld un o'r blaen cyn gwneud y llun 'ma, a rwan dwi'n yr Alban yn eu gweld nhw o hyd!

O'n i'n siarad efo Meic ychydig yn ôl, ac mi roedd o'n dweud "sbia sut ma' pethau'n gweithio allan, efo'r llun yna ti 'di cael dechra efo dy arlunio, a ti'n ffeindio dy hun yn topia'r Alban yng nghanol yr anifeiliad 'ma".

'Na'th Meic awgrymu technegau gwahanol, a sut ddylwn i ddatblygu fy ngwaith. Nes i benderfynu dechrau tynnu lluniau o chwareli a chwarelwyr.

Ro'dd y diwydiant yna'n ofnadwy o bwysig yn Nyffryn Nantlle, a ma' hanner fy nheulu i 'di gweithio yn y chwareli. Felly o'n i'n teimlo bo' gen i gysylltiad arbennig, ac os fysa Taid yn fyw heddiw dwi'n siŵr 'sa fo wrth ei fodd mod i 'di dewis gwneud lluniau o'r math o bethau oedd o'n eu g'neud fel bywoliaeth.

Dwi wrthi'n gwneud casgliad go fawr am y chwareli. Mae gen i ddau lun yn Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ar y funud, ac mae gen i arddangosfa ar y ffordd yn oriel Betws y Coed am dri mis haf nesa'.

Sut wyt ti'n mynd ati i ddewis beth i'w beintio?

Malu awyr o'n i i ddechrau gyda'r Highland Bull, dod i arfer peintio eto, a dwi'n teimlo mod i 'di gwella ers hynny - dwi'n gwella efo bob llun dwi'n 'neud.

Mae'r llun wnes i o Owain Glyndŵr yn cael ei fframio ac yn mynd ar y wal am ei fod o'n golygu rhywbeth i fi.

Ro'n i ar y fainc i Gymru yng Nghaerdydd, ac yn syth ar ôl i'r anthem gael ei chwarae nes i weld baner Glyndŵr i fy chwith tu ol i'r gôl, a roedd y blew ar gefn fy mhen yn sefyll fyny.

Ar ôl y gêm es i nôl i'r gwesty, a'r unig beth dda'th i'n meddwl i oedd y sŵn 'ma, a'r fflag fawr welais i.

Ro'n i'n meddwl i fi fy hun bo 'rhaid fi wneud rh'wbeth, felly nes i ddechrau tynnu llunia' ar y notepad. Pan es i adra nes i ddechrau g'neud llun iawn.

O'n i'n gwybod dipyn am Glyndŵr, ond mi nes i fwy o ymchwil achos ma'n bwysig gwybod am bwnc dy waith.

Disgrifiad o’r llun,

O un Owain i un arall; Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru

Ond wrth gwrs mae'r lluniau o'r chwareli yn golygu rhywbeth personol i mi, a dwi am ganolbwyntio ar fywyd y chwarelwr - eu gwaith, y gwragedd, capel a phethau eraill.

Roedd 'na ddau geffyl enwog yn chwarel Talsarn; Prince a Corwen, felly dwi 'di gwneud chydig o ymchwil arnyn nhw ac mi fydda nhw yn ymddangos yn fy ngwaith.

Ma'n bechod bo' 'na ddim mwy o luniau o'r cyfnod i fy helpu i greu delweddau o'r amodau yno, be' roedden nhw'n ei wisgo, y capeli, y tafarndai ac ati.

Ydi'r arlunio yn help i ti ymlacio ar ôl gêm anodd?

Ar ôl sesiwn ymarfer yn sicr, ma'n rhaid i fi gael rhyw ddwy awr i fi'n hun. Y peth ydi efo ffwtbol, mae pobl yn dueddol o feddwl mai 'chydig iawn ydan ni yn gweithio tu hwnt i gemau a sesiynau ymarfer.

Yn gorfforol mae hynny'n wir, ond yn feddyliol ti wrthi 24/7- does 'na ddim dianc a ti wrthi drwy'r amser.

Alli di ddim mynd i gael byrger a chips, achos ma' be ti'n ei roi yn dy gorff yn rhan o dy waith di mewn ffordd.

Mae o'n help yn sicr, achos pan ti fewn yn rhywbeth drwy'r amser dydi o ddim yn iach, ac ma'n bwysig cal brêc ohono, dim bwys be 'di dy waith di. Elli di fynd i dy waith yn fwy ffres os oes gen ti bethau eraill hefyd yn cadw dy ddiddordeb yn y dy fywyd.

Ond pan dwi'n tynnu'r cynfas a'r brws allan dwi'n teimlo mod i'n cael ychydig bach o escape o bêl-droed, ac anghofio am bopeth.

Be ti'n fwynhau fwya', chwarae'r gitâr neu arlunio?

Wel... dwi'n ffansio fy hun yn dipyn o country singer. Dwi 'di gweld mymryn o'r fideo roddodd Neil Taylor (amddifynnwr Cymru ac Abertawe) ar Facebook., dolen allanol Mae'r gitâr ar fy nglin i rwan fel dwi'n siarad!

Ffynhonnell y llun, Neil Taylor/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Owain Fôn yn canu un o glasuron Johnny Cash

Ydi gweddill y garfan yn hapus i ganu efo chdi?

I fod onest, cyn gêm Gwlad Belg, ro'n i'n gorfod rhoi cyngerdd yn y gwesty i ddau physio yn eu 'stafell nhw, Gareth Bale, Wayne Hennessey, Jo Ledley ac Adam Matthews.

'Na'th Adam (amddiffynnwr Sunderland) ganu i ni hefyd - mae o'n licio canu ac ma'n gallu g'neud yn o lew. Mae o'n hoffi'r band The Script felly ro'n i'n gorfod chwarae eu caneuon nhw ar y gitar gyda fo'n canu.

Mae Gareth Bale yn trio 'chydig hefyd drwy ganu caneuon o'r sioe gerdd 'Wicked'.

Ydi cerddoriaeth yn dy waed di, o gofio bod dy gefnder Osian Williams newydd ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Meifod?

Dwi'n meddwl bod 'na rywbeth yn y Cymry, sy'n hoffi dod at ein gilydd i ganu. Roedd o'n grêt gweld Osian (lleisydd Candelas) yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod. Roedd o'n dipyn o gamp o ystyried y ffaith iddyn nhw golli eu tad, Derec Williams, y llynedd.

Ar y dydd Gwener cynt, braf oedd gweld Osian, Branwen a Mei yn cymryd rhan yn y sioe 'Gwydion' roedd eu tad yn rhan o'i chreu, a dwi'n meddwl y bydda fo 'di bod yn hynod o falch.

Hefyd, pan ga'th Osian ei dywys i'r llwyfan pan 'nath o ennill mi oedd miwsig oedd Derec 'di 'sgwennu yn chwarae. Mi roedd hynny'n neis iawn, ond hefyd yn hitio adra y golled i'r teulu. Ond ma'r gwaith da 'na'th o yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Cefnder Owain, Osian Huw Williams o Lanuwchllyn, a enillodd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Meifod, 2015

Ar ôl ymddeol o chwarae pêl-droed, wyt ti'n gweld dy hun yn gwneud bywoliaeth fel artist neu cherddor?

Mae'n rhywbeth dwi'n mwynhau ei wneud, ond dwi'm yn siŵr am fywoliaeth.

Dwi'm yn ei weld o fel bywoliaeth achos hobi ydi o ar y funud, rhywbeth dwi'n wneud yn amser fy hun. Ond pwy â ŵyr, os alla i ffeindio job sydd hefyd yn hobi, yna grêt.

Ond wna i ddim stopio gwneud gwaith celf, does na ddim dwywaith am hynny. Tra bydd pobl yn licio'n ngwaith arlunio i, mi 'na'i gario mlaen, achos mae'n rhywbeth dwi wir yn mwynhau ei wneud.

Ewch i wrando ar sgwrs Owain Fôn Williams ar Raglen Dylan Jones, BBC Radio Cymru, 13 Ionawr 2016