Dahl i gipio'r dychymyg
- Cyhoeddwyd
Ar Fedi 13, mae dathliadau'n digwydd yng Nghaerdydd a thu hwnt i nodi canmlwyddiant ers geni'r awdur o'r brifddinas, Roald Dahl. Elin Meek sy'n gyfrifol am drosi ei lyfrau plant i'r Gymraeg, a bu'n sôn wrth Cymru Fyw am yr her o gyfieithu gwaith awdur sy' mor enwog am ei ddawn i chwarae ar eiriau a bathu rhai newydd, yn ei lyfrau plant.
"Yr hyn oedd yn gwneud cyfieithu llyfrau Roald Dahl yn sbort, ac efallai'n fwy o her na rhai llyfrau eraill, oedd y chwarae ar eiriau.
"Y brîff gyda'i lyfrau e oedd eu cyfieithu, nid eu haddasu nhw. Mae ystâd Roald Dahl am warchod y testun gwreiddiol ac felly doedd dim rhyddid i newid enwau'r cymeriadau mewn unrhyw ffordd, ac roedd yn rhaid cadw mor agos ag y gallwn i at y gwreiddiol, ond roedd lle i fod yn greadigol.
"Roedd y rhan fwya' o chwarae ar eiriau yn digwydd yn Yr CMM [The BFG]. Yn aml iawn roedd e'n cymryd gair sy'n gyfarwydd yn y Saesneg ac yn ei newid er mwyn bod yn ddoniol. Er enghraifft, roedd Dahl yn chwarae ar 'human beings' gan eu troi nhw'n 'human beans', felly gwnes innau'r un fath gan droi 'bodau dynol' yn 'blodau dynol'.
"Gyda rhywbeth fel hyn, dydych chi ddim yn defnyddio geiriau sydd ar gael bob amser, ry'ch chi'n creu rhywbeth newydd. Mae'n arafu'r broses o gyfieithu, yn amlwg, ond mae'n fwy o hwyl. Yn Yr CMM dyw'r cymeriad ddim yn siarad mewn brawddegau arferol, mae'n defnyddio cystrawen wahanol "I is going..." felly yn y Gymraeg fe'i cyfieithiais fel hyn: "fi sy'n mynd..." Roedd cyfle i greu cyfansoddeiriau fel "blasuswych" a glydiogi ... "Fi sy'n glydiogi yn gynnes braf ym mhoced fy ngwasgod" (chwarae ar y gair 'yn glyd') ac ar 'bigau'r brain', yn lle ar 'bigau'r drain'!
"Efelychu'r hyn roedd Roald Dahl yn ei wneud ro'n i, gan obeithio y byddai plant sy'n siarad Cymraeg yn cael hwyl yn ei ddarllen. Mae peth o'r chwarae ar eiriau'n eithaf cymhleth, ond rwy'n gobeithio bod plant sy'n darllen yn annibynnol a hefyd y rhieni neu'r athrawon sy'n darllen y straeon yn uchel yn mwynhau."
Dechreuodd Elin Meek ar y gwaith o gyfieithu llyfrau Dahl yn 2002 pan ddaeth y cynnig gan y diweddar Dewi Morris Jones a oedd yn olygydd gyda'r Cyngor Llyfrau. Roedd Rily, y cyhoeddwyr, yn awyddus i gael cyfieithiad Cymraeg o 'Charlie and the Chocolate Factory' i gychwyn, ac wedi hynny, bu'n gweithio ar ddwy neu dair o'r nofelau bob blwyddyn tan iddi gwblhau'r 14 gwaith rhyddiaith i gyd, ychydig flynyddoedd yn ôl.
Wmpalwmpas wedi dysgu Cymraeg
"Ro'n i'n hynod o falch o gael y cynnig i wneud y gwaith achos ro'n i'n gwybod bod 'Charlie and the Chocolate Factory' yn llyfr pwysig ym myd llenyddiaeth plant Saesneg, ac fel mae'n digwydd roedd rhieni wedi bod yn sôn wrtha i, pam na wnei di gyfieithu llyfrau Roald Dahl i'r Gymraeg? Roedd y diddordeb yna."
Mae llyfrau'r awdur wedi eu cyfieithu i 58 o ieithoedd erbyn hyn, ac er bod yn rhaid i'r cyfieithydd aros yn driw iawn i'r fersiwn Saesneg gwreiddiol, yn 'Charlie a'r Ffatri Siocled' roedd cyfle i gynnwys rhai cyffyrddiadau Cymreig.
"Yn y llyfr Saesneg mae Mr Willy Wonka yn cyflwyno yr Wmpalwmpas gan ddweud eu bod nhw wedi dysgu Saesneg, a'u bod nhw'n mynd i ganu. Do'n i ddim yn gweld ei bod hi'n gwneud synnwyr iddo ddweud eu bod nhw wedi dysgu Saesneg yn y llyfr Cymraeg, felly fe ddywedes i eu bod nhw wedi dysgu Cymraeg. Yn y gân wreiddiol Saesneg y mae'r Wmpalwmpas yn ei chanu, maen nhw'n rhestru enwau llyfrau Saesneg i blant fel 'Treasure Island' ond dwi wedi defnyddio llyfrau Cymraeg fel 'Llyfr Mawr y Plant' a 'Wil Cwac Cwac' ac wedi cyfeirio at gymeriadau fel Twm Sion Cati.
Ond dyna'r unig gyfle oedd i Gymreigio, yn ôl Elin Meek, a cafodd ei chais i addasu enwau rhai o gymeriadau'r nofel ei wrthod.
"Yn 'Charlie a'r Ffatri Siocled', enwau'r fam-gu a thad-cu ydy Tad-cu George a Mam-gu Georgina (Grandpa George a Grandma Georgina yn y gwreiddiol.) Ond yn y Gymraeg rydyn ni'n fwy tueddol o roi enw cartref neu enw lle er mwyn gwahaniaethu rhwng Mam-gu a Thad-cu gwahanol. Yn y llyfr, gan fod un pâr o neiniau a theidiau'n byw ar un pen o'r gwely a'r pâr arall ar ochr arall y gwely, ro'n i eisiau defnyddio rhywbeth fel 'Mam-gu pen yma' a 'Mam-gu pen draw', ond ches i ddim gwneud hynny.
Denu plant i ddarllen
Mae llawer o drafod ymhlith awduron a chyhoeddwyr am addasu llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn hytrach na buddsoddi'r arian i greu gweithiau gwreiddiol yn unig, ac mae Elin Meek, sy'n awdur gwreiddiol ac yn addasydd/cyfieithydd yn gweld y ddwy ochr.
"Dwi'n teimlo gyda rhai testunau fel Roald Dahl, os ydyn nhw ar gael mewn degau o ieithoedd yn barod, wel dydy eu cael nhw yn Gymraeg ddim yn beth drwg. Cael plant i ddarllen yw'r nod, a hefyd i rieni di-Gymraeg, os ydyn nhw'n gweld y llyfrau hyn mewn siop Gymraeg maen nhw'n nabod y brand, ac mae lluniau Quentin Blake yn gyfarwydd iawn, felly maen nhw'n denu plant i ddarllen Cymraeg, ac wedyn, gobeithio, i fynd ymlaen i ddarllen llyfrau gwreiddiol Cymraeg.
"Dwi'n gallu gweld y ddadl bod dim gormod o addasu'n digwydd ac mae'n bwysig bod na waith gwreiddiol, yn enwedig i blant sy'n darllen yn annibynnol, felly mae'n her i awduron Cymraeg i greu rhywbeth sydd yr un mor boblogaidd.
"Dwi'n falch o gael fy enw'n gysylltiedig â llyfrau Roald Dahl achos dwi'n credu bod darllen ar y rhain ac mae plant a rhieni'n eu mwynhau nhw, a mae hynny'n rhoi pleser i mi. Mae cyfieithu neu addasu llyfrau i blant yn fwynhad ac yn eisin ar y gacen ynghanol y gwaith cyfieithu arall dwi'n ei wneud o ddydd i ddydd, am ei fod yn rhoi cyfle i mi fod yn fwy creadigol.
"Elin Dalis-Davies oedd fy enw cyn priodi, ac ar ôl gweithio cymaint ar waith Roald Dahl, dwi'n meddwl weithiau mai Elin Dahlis-Davies o'n i!"