Lle oeddwn i: Angharad Tomos a Rala Rwdins

  • Cyhoeddwyd
Angharad Tomos

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd, dolen allanol yn cael ei chynnal yn y brifddinas yr wythnos hon, gyda nifer o weithgareddau yn ymwneud â llyfrau wedi eu trefnu i blant. Angharad Tomos yw awdur ac arlunydd un o gyfresi llyfrau plant mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Cyfres Rwdlan.

Bu Angharad yn egluro cefndir y wrach hoffus Rala Rwdins a chymeriadau Gwlad y Rwla wrth Cymru Fyw:

Roedd gen i ddiddordeb mewn celf, ac o'n i wedi cael y syniad o ddylunio llyfrau i blant. Yr haf ar ôl i mi raddio ym Mangor yn 1983, roedd 'na ddosbarth celf i'r di-waith yng Nghanolfan Noddfa, Caernarfon. Am bo fi'n licio cartŵns a ffelt pens, wnes i ddod â nhw i'r wers a daeth y syniad i dynnu llun gwrach ddrwg, a throi'r syniad ar ei ben, a dylunio gwrach dda y byse plant yn ei hoffi.

Rala Rwdins wnes i'n gyntaf. Yna fe wnes i greu'r ogof a'r gath ac erbyn amser cinio r'on i wedi creu Rwdlan hefyd. Y cymeriadau ddaeth yn gyntaf ac wedyn fe ddywedodd yr athrawes trïwch wneud stori o gwmpas y llun. Cafodd y syniad ei wneud mewn diwrnod.

O'n i'n byw adre efo'n rhieni felly yn fy stafell wely yno sgwennais i'r llyfrau gwreiddiol. Treuliais i'r haf mewn carafán, o'n i 23 oed a dyna lle wnes i greu rhan fwya' o'r cymeriadau eraill. R'on i'n mynd o gwmpas ysgolion ar y pryd, ac ar ôl creu Rala Rwdins, Rwdlan a Ceridwen fe ddywedodd rhai o'r plant y byse'n dda cael bachgen, felly fe wnes i greu y Dewin Dwl. Cafodd Y Lolfa y syniad o gael cyfres o lyfrau, ac fe es i ati i sgrifennu mwy.

Ysgrifennu yn y carchar

Fe sgwennais i'r llyfr Diwrnod Golchi pan o'n i'n y carchar, wnes i sgwennu rhai o'r lleill ar fws y Traws Cambria. Mae'n gyfrwng fedrwch chi wneud unrhyw le os oes gennych chi bensil a phapur. Dwi'n dweud wrth blant, dydy desg ddim yn lle sydd yn dod â lot o syniadau, cerwch allan a fedrwch chi wneud o mewn caffi neu lle bynnag mae'r syniadau yn dod i chi. Dwi'n hen ffasiwn, dwi'n dal i ddefnyddio papur a phensil i sgrifennu.

Mae'r storïau i gyd yn dechrau gyda'r llun a wedyn daw'r geiriau. Fe es i weithdy unwaith a darllen llyfr Strempan i'r plant. Roedden nhw'n sylwi ar y mwydyn bach yng nghornel y dudalen. Felly fe wnes i benderfynu rhoi'r mwydyn yn ganolig i stori, sef Jam Poeth.

R'on i wedi gwneud y stori honno ar fws dybl decar ar fy ffordd adre y diwrnod hwnnw.

Fe wnaed penderfyniad yn reit gynnar mod i ddim yn eu neud nhw'n lyfrau syml, er bod y fformat yn syml. Llyfrau i adrodd stori yn hytrach na llyfrau i'r plant ddarllen eu hunain ydyn nhw. Llyfrau bach Mr Men oedd fy ysbrydoliaeth, gyda llun i bob tudalen.

Gwnaed y penderfyniad y gall yr iaith fod yn ddigon cymhleth a dwi'n falch mod i wedi neud y penderfyniad hynna rwan, achos mae'r plant yn dysgu'r enwau yn syth a rydych chi'n cael y cyfoeth iaith yna wedyn.

Fe wnes i eu sgwennu nhw am fy mod i'n licio plant ac isho eu diddanu nhw a sgwennu storïau.