Lluniau gorau'r wythnos yn Eisteddfod Y Fenni 2016
- Cyhoeddwyd
Roedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau wedi ei lleoli nid nepell o Neuadd Llanofer yn y Fenni ac yn cael ei chynnal yn fuan ar ôl i Gymru gael ei swyno gan lwyddiant ei thîm pêl-droed ym Mhencapwriaeth Euro 2016.
Dim syndod felly i'r gynulleidfa godi ar ei thraed i groesawu Osian Roberts ac Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn wresog i lwyfan y Pafiliwn, er bod dadlau wedi bod ynglŷn ag urddo holl aelodau'r tîm gan roi bedydd tân i'r archdderwydd newydd, Geraint Llifon.
Dyma hefyd Eisteddfod gyntaf y pafiliwn petryal a gymerodd le'r hen bafiliwn pinc.