Ffarwel i'r Pafiliwn Pinc
- Cyhoeddwyd
Bydd Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau'n edrych yn dra gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf, wrth i bafiliwn newydd gymryd lle y Pafiliwn Pinc.
Bydd y profiad a geir yn y pafiliwn 'Evolution', a ddarperir gan gwmni Neptunus, yn gwbl wahanol i'r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc dros y blynyddoedd diwethaf meddai trefnwyr yr Eisteddfod.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae hwn yn gychwyn ar gyfnod newydd ar ôl 10 mlynedd o gynnal ein cystadlaethau a'n seremonïau yn y Pafiliwn Pinc.
"Fe fyddwn ni, fel pawb arall yn gweld eisiau'r Pafiliwn Pinc. Roedd yn adeilad eiconig a gydiodd yn nychymyg pawb, ond mae'n bryd i ni symud ymlaen, a rydym ni'n edrych ymlaen yn arw i gael pafiliwn newydd ar y Maes yn Y Fenni.
'Esblygiad'
Ychwanegodd Mr Roberts: "'Evolution' yw enw'r strwythur newydd ac mae'i ddyfodiad yn esblygiad pendant i ni fel Eisteddfod, gan gynnig profiad llawer gwell i'r gynulleidfa a phawb sy'n perfformio ar y llwyfan.
"Bydd yr adnoddau'n ardderchog, gyda photensial i ni ddefnyddio'r gofod mewn ffordd wahanol a newydd, gan ein galluogi ni i fod yn uchelgeisiol a chreadigol, a rydym i gyd yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw dros y blynyddoedd nesaf.
"Atyniad mwyaf y Pafiliwn Pinc oedd ei edrychiad, a rhoddodd ddelwedd unigryw i'r Eisteddfod am ddegawd gyfan, ond roedd o'n strwythur rhwystredig iawn hefyd. Roeddem ni'n colli nifer fawr o seddi da oherwydd bod angen nifer o bolion i'w ddal i fyny, ac roedd sŵn yn gallu achosi problemau i ni hefyd yn ystod cystadlaethau. Mae'r adeilad newydd yn fwy cadarn ac yn ymateb i'n gofynion ni fel trefnwyr a'r gynulleidfa.
Yr ymateb ar y Maes
Mae Rhoslyn Prys o Fangor yn meddwl ei fod yn edrych yn fwy "swish", ond roedd e o'r farn y buasai'r pafiliwn newydd yn gallu edrych yn well gydag addurniadau ar yr ochrau.
"Mae'n gynfas gwag fyddai modd ei addurno," meddai.
Dywedodd Linda Pugh o Landeilo fod tu mewn y pafiliwn newydd yn "hyfryd".
"Roeddwn yn y cyngerdd nos Wener, mae'r lluniau, technoleg a goleuadau yn edrych yn broffesiynol. Ond o'r tu fas, mae'n edrych fel sied."
Yn ôl Mererid Morgan o Penllergaer: "Mae e 'chydig yn llai tu fewn nag oedd y pafiliwn pinc. Roeddwn i wedi dod yn gyfarwydd â'r pafiliwn pinc, ac roeddech chi'n ei weld o bellter."
Mae Raymond Walters o Aberystwyth yn meddwl fod y pafiliwn newydd wedi "colli cymeriad".
"Mae golwg masnachol arno, mae'n drueni, galle nhw fod wedi cael lliw llai diwydiannol. Dwi'n credu y dylen nhw ehangu ar y digwyddiadau sydd ar y maes, a lleihau'r ffocws sydd ar y pafiliwn."