Cydnabod llwyddiant pêl-droed Cymru yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cynrychiolwyr o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher.
Cafodd yr Is-Hyfforddwr, Osian Roberts, a phennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, eu croesawu i'r llwyfan, ac wrth iddyn nhw ymddangos fe gododd y gynulleidfa i'w traed i'w cymeradwyo.
Roedd canmoliaeth i'r ddau am eu gwaith yn ystod cystadleuaeth Euro 2016, ac am eu llwyddiant yn hyrwyddo'r Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol.
Cafodd Osian Roberts gymeradwyaeth brwdfrydig a gwresog wrth iddo gloi ei araith o'r llwyfan.
'Gwireddu breuddwyd'
"'Da ni wedi cael y fraint yr haf yma o wireddu breuddwyd yn y llwyddiant ysgubol a gafodd y tîm, a dwi'n siŵr eich bod chi'n fwy na ymwybodol o'r canlyniadau gwych gafodd y tîm," meddai.
"Yn fwy na hynny, fel hyfforddwr mae 'na bethau pwysicach na just y pêl-droed ar y cae, sydd yn bwysig i ni gyd fel Cymry.
"Roedd o'n gyfle ac yn enghraifft wych o Gymru gyfan yn dod at ei gilydd yn un. Roedd yn gyfle i'r iaith fod yn chware rôl flaenllaw yn bob dim oedd yn cael ei wneud, felly dwi'n gobeithio fod pawb wedi gwerthfawrogi hynny.
"Roedd o'n waith caled gan bawb, yn cael ei arddangos ar y cae, ond fel o'n i'n dweud, rhan fechan oedden ni o'r gwaith. Felly ein rôl ni yn hyn ydi bod yn derbyn y gymeradwyaeth, derbyn y diolch o'n calon ac yn ddiffuant.
"Ond ar yr un pryd byddwn yn gwneud yn sicr bod y neges yma yn mynd yn ôl i bawb yn y gymdeithas ac i'r chwaraewyr pan rydym yn ymgynnull mewn 'chydig wythnosau, felly diolch yn fawr."
'Gwaith aruthrol'
Yn gynharach cafodd y ddau eu holi o flaen cynulleidfa orlawn ym mhabell Maes D pan gawson nhw'r gwahoddiad gan gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones.
Fe ddaw hyn yn dilyn cryn ddadlau ac anfodlonrwydd wedi sylwadau'r Archdderwydd Geraint Llifon, na fyddai modd urddo llawer o aelodau'r tîm i'r Orsedd am nad ydyn nhw'n gallu siarad Cymraeg.
Dywedodd Mr Jones: "Credwch neu beidio, dwi wedi dod yma yn unswydd i'ch gwahodd chi'ch dau, ar ôl sgwrs gydag Elfed y Prif Weithredwr, i ddod i lwyfan yr Eisteddfod brynhawn Gwener, cyn y cadeirio, er mwyn i'r gynulleidfa a Chymry eisteddfodol gael eich cyfarch chi a'ch llongyfarch chi ar y gwaith aruthrol 'da chi wedi ei wneud dros Gymru a'r Gymraeg."
Roedd yna gymeradwyaeth fawr i'r cyhoeddiad gan y gynulleidfa, ond yn dilyn sgwrs gyda'r ddau wedi i'r sesiwn ddod i ben, fe wnaeth Eifion Lloyd Jones ddeall na fyddai'r ddau'n gallu bod yn yr Eisteddfod brynhawn Gwener, a dywedodd y bydden nhw felly ar y llwyfan brynhawn Mercher.
Dywedodd Osian Roberts: "'Da ni'n mynd i'r Steddfod yn flynyddol fel cymdeithas rhyw ffordd neu'i gilydd ac felly mae'n beth hollol naturiol i ni fod yma eto eleni.
"Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni'n gofyn am unrhyw gydnabyddiaeth gan ein bod ni'n teimlo ein bod ni wedi cael hynny gan y genedl yn barod.
"Rhan fechan iawn ma' Ian [Gwyn Hughes] a minnau'n chwarae. Ond wrth gwrs, gan ein bod ni yma'n barod, 'da ni'n fwy na pharod a balch i dderbyn yr anrhydedd yma."
Ychwanegodd ei fod yn biti nad oedd dathliadau wedi cael eu cynnal yn y gogledd ac y byddai hynny "wedi bod yn braf", ond roedd hi "anodd iawn o ran amser i'r chwaraewyr".