Ffoto T: Enillwyr yr adran hŷn
- Cyhoeddwyd

Ddydd Iau, cafodd canlyniad cystadleuaeth ffotograffiaeth Eisteddfod T a BBC Cymru Fyw i blant 13 oed ac iau ei gyhoeddi. Tro yr adran hŷn yw hi heddiw.
Yr un oedd y testun i bobl ifanc 14-25 oed hefyd, sef 'Adref', ond bod angen casgliad o dri neu bedwar o luniau yn y categori yma.
Y beirniad y tro hwn oedd y ffotograffydd Kristina Banholzer, ac roedd hi'n amlwg wedi cael ei phlesio'n arw â'r safon:

WAW! Mae'n amlwg bod pawb wedi cael hwyl arni yn tynnu llunia 'Adref' blwyddyn yma!
Tydi o'n neis cael edrych ar adref fel rhywbeth diddorol a deiniadol, a chael yr amser i'w 'neud? Dwi wir wedi mwynhau edrych trwy eich llunia chi 'leni ac wedi cael snapshot bach i mewn i'ch bywydau chi adref - a tydyn nhw'n braf!
Diolch o galon i chi am fynd i gymaint o ymdrech, daliwch ati i dynnu lluniau!
1af - Sara-Louise Davies

Dwi'n teimlo fatha fy mod i isho dod i'ch cartref chi ar ôl gweld y lluniau 'ma.
Mae'r cyfres ti wedi rhoi at ei gilydd yn cynhesu'r galon ac yn wir bortreadu dy amser di yn ystod y lockdown 'ma. Mae creu stori drwy bedwar llun yn beth anodd iawn, a ti wedi medru cyfleu hanes a chymeriad 'adra' drwy dangos lluniau syml a diddorol.

Mae lluniau o bethau 'da ni'n gweld bob dydd yn medru deud lot am gartref a pherson, a dwi'n ddiolchgar dy fod ti wedi edrych yn bellach 'na'r lluniau amlwg fysa rhywun yn ei dynnu.

Mae dy fframio di yn lyfli - dwi'n hoff iawn o'r fframio ar lun y cegin! Fy hoff lun yw llun y ffenest - mae hwn yn rhoi teimlad o lonyddwch i mi wrth edrych arno.

Pedwar llun ffantastig a haeddiannol o ennill. Gwaith grêt Sara!
2ail - Lois Angharad Williams

Dwi wrth fy MODD hefo lliwiau dy luniau di Lois! Mae'r cyfres o luniau yn clymu at ei gilydd yn dda iawn ac mae o'n amlwg dy fod ti'n licio tynnu lluniau anifeiliaid. Ti'n dda iawn yn ei wneud o - dal ati.

Mae'r lluniau wedi eu fframio yn arbenning o dda, digon i'w weld a dwi'n licio bod yr anifeiliaid ddim wastad yng nghanol y ffrâm.

Mi ddylia ti gario 'mlaen saethu y prosiect yma, hefo'r lliwiau yma - mi wneith bortffolio neis i ti yn y pendraw.

Edrych 'mlaen i weld mwy o dy waith di yn y dyfodol!
3ydd - Morgan Hedd Reeves

Ti'n bendant yn mwynhau bod ymysg natur, mae hyn yn dangos yn dy luniau di. Mi nes i deimlo llonyddwch wrth edych ar y gwaith a ti wedi medru dal gwahanol amseroedd y diwrnod mewn darlun.

Dwi wrth fy modd efo llun y niwl yn y cae, mi wyt ti wedi fframio yn dda iawn ac mae fy sylw i yn cael ei dynnu i du blaen y llun lle mae'r gwrthrych tywyll ac yna i'r niwl a'r haul.
Mae llun yr haul tu ôl i'r brigau yn gynnes a dwi'n licio lle wyt ti wedi dal y camera i ni gael cipolwg o'r haul.

Ac yn olaf, llun y gwair wedi ei fframio'n anarferol efo lliwiau hyfryd. Gwaith grêt, diolch Morgan.
Llongyfarchiadau bawb!
Hefyd o ddiddordeb: