Haf dan glo: 'Dim rheolaeth dros fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Gwenllian GriffithsFfynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Bu Gwenllian Griffiths yn helpu i ofalu am ei thad ar ddechrau'r cyfnod clo

Yr wythnos hon bydd gwasanaethau BBC Cymru yn edrych ar effaith Covid-19 ar bobl ifanc. Er nad ydy'r mwyafrif yn cael eu hystyried yn y categori risg o ran dal y feirws, mae'r effaith gymdeithasol a seicolegol ar bobl ifanc yn amlwg.

Ddydd Iau bydd myfyrwyr Safon Uwch yng Nghymru'n cael eu canlyniadau - a hynny heb fod wedi gallu sefyll eu harholiadau eleni.

Cyfnod ansicr ac anodd - ac ambell un wedi gorfod wynebu heriau coronafeirws hefyd.

Bu Gwenllian Griffiths, o Fethel ger Caernarfon, yn helpu i ofalu am ei thad fu'n wael iawn gyda Covid-19 ar ddechrau'r cyfnod clo.

Mae ei thad bellach wedi gwella ond yma mae'n sôn am ei phrofiad o hynny, yn ogystal â'r ansicrwydd mae'n ei wynebu wrth feddwl am y dyfodol a'i gobeithion o astudio i fod yn feddyg.

'Edrych ar fywyd yn wahanol'

"Roedd o'n brofiad brawychus iawn," meddai wrth BBC Cymru Fyw. "O'dd Dad mor gryf ac mor iach, felly o'dd gweld o mor wan ac wedi cael ei daro mor wael - 'nath o 'neud i ni deimlo bod 'na neb yn saff yn y cyfnod yma.

"O'n i'n lwcus iawn oherwydd y teulu o'n i ynddo fo - nathon ni gyd helpu'n gilydd drwyddo fo. O'dd Mam yn nyrsio Dad a 'nath fi a 'mrawd drio cymryd y rôl o edrych ar ôl y tŷ - gwneud y bwyd, llnau a ballu.

"Mae o 'di effeithio yn sicr yn feddyliol arna' i a'r ffordd dwi'n edrych ar fywyd rŵan. Dwi 'di sylwi rŵan na 'sgen i ddim rheolaeth dros bob dim yn fy mywyd."

Mae'n credu bod 'na ddwy garfan wahanol o ran y ffordd mae pobl ifanc yn ymateb wrth ddod allan o'r cyfnod clo - rhai yn hyderus ac eisiau mynd allan, a'r gweddill ddim eisiau mynd allan o gwbl.

"Dwi 'chydig bach yn fwy nerfus yn dod allan o'r cyfnod clo o'i gymharu â rhai o fy ffrindiau oherwydd be' dwi wedi'i weld," meddai.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Gwenllian (chwith) wedi gwella ond dywed Gwenllian bod salwch ei thad wedi newid ei golwg ar fywyd

"Ond yn amlwg mae'n anodd cyfleu hynna i bobl sydd ddim wedi bod trwyddo fo. Yn enwedig i bobl ifanc hefyd, mae deud 'Na, dwi ddim yn dod allan heno' neu 'Dwi isho cadw dwy fetr oddi wrth bawb' - dydy o ddim yn rhywbeth naturiol i wneud efo ffrindiau - ond i rywun fel fi sy' 'di gweld be' mae'r feirws yn ei 'neud i bobl, isho cadw pobl yn saff ydw i.

"Mae 'di bod yn anodd iawn i rai ohonan ni ar yr haf ola' yn yr ysgol - haf gorau'n bywydau ni i fod, yn troi'n 18 a chael mynd allan - 'da ni wedi gorfod deud na i hynna. Dwi'm yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi be' ydan ni wedi'i 'neud.

"'Da ni gyd wedi edrych ymlaen, ond dydy o ddim 'di mynd i nunlla. Mae'n debyg iawn i be' sy' wedi digwydd efo'r arholiadau - y push 'na o'ddan ni 'di rhoi i ni'n hunain - mae bob dim 'di adeiladu tu mewn i ni ond dydy o heb fynd i nunlla."

Nerfus am y canlyniadau

Bydd Gwenllian yn un o'r miloedd lawer yng Nghymru fydd yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau ac mae ei bryd hi ar astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ond gyda'r graddau y tu hwnt i'w rheolaeth hi bellach, a'r misoedd diwetha' wedi bod mor ansicr, mae ei theimladau'n gymysg iawn.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwenllian a'i ffrindiau, a welir yma ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol, yn derbyn eu canlyniadau ddydd Iau

"Dwi'n nerfus iawn o ran y canlyniadau ond dwi'n teimlo, i bobl ifanc, dydy'r canlyniadau ddim yn meddwl cymaint i ni am bod ni ddim wedi cael arholiad i weithio tuag ato fo.

"Dwi'n meddwl bod o'n fwy bod ni isho sicrwydd. Mae o'n anoddach na ma' pobl yn meddwl, ista adra ddim yn g'wbod be' 'da chi'n mynd i fod yn ei 'neud flwyddyn nesa'.

"Ydach chi'n mynd i coleg, ydach chi'n mynd i aros adra? Os 'da chi'n aros adra, ma' angen chwilio am waith ond dydy hi ddim mor hawdd chwilio am waith yn y cyfnod yma. Felly dwi'n gobeithio dydd Iau bydd o'n ddiwrnod i ni gyd gael trefnu a chael 'chydig o atebion."

'Angen cefnogaeth broffesiynol'

Ond mae'r cyfnod yma, a'r profiadau sydd wedi dod yn ei sgil, wedi gwneud i Gwenllian weld bywyd yn wahanol erbyn hyn.

"Be' bynnag sy'n digwydd, dydy o ddim yn ddiwedd y byd," meddai. "'Dan ni 'di dod drwy bandemig, dwi 'di gweld fy nhad yn wael, a 'da ni 'di dod drwyddo fo yn eitha' iawn. Os mai dim ond hynny dwi'n gael allan o'r flwyddyn yma, yna dwi'n berffaith hapus efo hynny.

"Dwi'm yn meddwl bod ni'n llawn sylweddoli be' 'dan ni 'di bod drwyddo fo yn y misoedd diwetha' yma."

Er ei hagwedd bositif, mae Gwenllian yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth broffesiynol i helpu pobl ifanc ddelio gyda'u profiadau yn sgil y pandemig.

"Os 'dan ni'n edrych ar yr ochr feddyliol, dwi'n meddwl bod 'na lot mwy o heriau wedi taro pobl ifanc. Dydan ni ddim i weld efo'r risg 'ma i gael y feirws, felly 'da ni i weld fel y bobl ocê, wnawn ni ddim poeni amdanyn nhw am rŵan.

"Ond y funud 'da chi'n pwshio rhywun i'r ochr, fanna mae'r problemau'n dechrau. Mae 'na gymaint o bobl ifanc fel fi, sydd ddim yn gw'bod be' sy'n digwydd nesa'. Os 'da ni'n meddwl am adael yr ysgol, 'da ni'n gadael gwe os liciwch chi sy'n cefnogi ni. Dim lle'r ysgol ydy edrych ar ein holau ni ddim mwy.

"Felly 'da ni 'chydig bach ar ben ein hunain. Dwi'n lwcus, mae gen i deulu dwi'n gallu siarad efo nhw - ond dydy pawb ddim efo hynny.

Ffynhonnell y llun, Gwenllian Griffiths

"Mae angen cefnogaeth yn y dyfodol agos i'n helpu ni gael drwy'r cyfnod yma.

"Mae'n ddigon hawdd i ni dd'eud fel pobl ifanc y medra' ni helpu'n gilydd, ond hyn a hyn fedra' ni 'neud. 'Da ni heb gael hyfforddiant i edrych ar ôl pobl sy' ella 'di colli aelodau o'r teulu.

"Yr unig beth fedran ni 'neud ydy bod yn ffrindiau - ond weithiau ma' angen mwy na hynna.

"Ma' angen rhyw fath o gymorth proffesiynol i ddod i mewn i helpu pobl ifanc ar draws Cymru."