Y Swyddfa Gartref yn rhyddhau dogfennau Meibion Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Mae cynnwys papurau cyfrinachol o gyfnod ymgyrch llosgi tai haf Meibion Glyndŵr wedi cael eu datgelu i BBC Cymru yn dilyn blwyddyn o drafod gyda'r Swyddfa Gartref.
Cafodd y dogfennau - sy'n dyddio o 1980 hyd at 1990 - eu rhyddhau i raglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu, ar ôl i'r tîm cynhyrchu apelio ddwywaith yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i wrthod eu cyhoeddi.
Mae'r dogfennau yn dangos fod y Swyddfa Gartref yn ofni bod cydymdeimlad tuag at amcanion y llosgwyr yn amharu ar ymchwiliadau'r plismyn.
Roedd un llythyr o 1990 yn dangos fod heddlu'r gogledd yn derbyn cardiau pen-blwydd yn gwneud honiadau am unigolion o fewn y byd cerddoriaeth ac actio yng Nghymru oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch llosgi tai haf.
Maen nhw hefyd yn cyfeirio at arestio'r actor a'r canwr Bryn Fôn ym 1990 a bod heddlu'r gogledd yn poeni - pe bai'r actor yn gysylltiedig â'r ymgyrch - y byddai 'na bobl eraill yn ymateb drwy osod dyfeisiadau mewn protest.
Cefnogaeth IRA
Mae'r dogfennau hefyd yn taflu goleuni ar fudiad llai adnabyddus - Fighters for Wales Movement- a oedd yn awyddus i wella'r rheilffyrdd yng Nghymru.
I gyflawni hyn, roedden nhw'n bygwth difrodi offer cwmni British Rail, ac roedden nhw hefyd yn honni fod ganddyn nhw gefnogaeth yr IRA.
Mae'r llythyrau hefyd yn cyffwrdd ar y pwysau gwleidyddol oedd yn Llundain i weithredu er lles yr iaith Gymraeg ac am sefydlu Bwrdd yr Iaith.
Roedd hefyd disgrifiadau o fomiau post yn cael eu gyrru i swyddfeydd gwerthu tai yn Llundain ac yn rhannau eraill o Loegr. Roedd enghreifftiau o aelodau seneddol yn cael eu targedu hefyd.
Rhwng 1979 a 1993, cafodd cannoedd o danau eu cynnau yng Nghymru ac mewn mannau yn Lloegr yn enw Meibion Glyndŵr.
Dim ond un person gafodd ei gyhuddo a'i ganfod yn euog o fod yn gysylltiedig â'r ymosodiadau.
Gwrandewch ar Manylu ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau a phrynhawn Sul am 16:00. Mae'r rhaglen hefyd ar gael ar yr i-Player nawr.