'Roedd fy nghamera cynta' yr un pris â buwch'
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi wedi bod mewn unrhyw eisteddfod, digwyddiad Ffermwyr Ifanc neu sioe amaethyddol yng Ngheredigion yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, fe fyddech heb os wedi dod ar draws y ffotograffydd Tim Jones.
Mae e hefyd wedi bod yn un o ffotograffwyr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd gan fwydo lluniau di-ri i bapurau lleol ac ar ddechrau ei yrfa bu'n tynnu lluniau mewn degau o briodasau.
Ond ag yntau bellach yn 87 oed, mae e wedi penderfynu ymddeol a hynny ar ôl tynnu miloedd ar filoedd o luniau.
"Doeddwn i erioed yn meddwl y bydden i'n ffotograffydd i ddweud y gwir. Yn ystod y saithdegau daeth dyn o'r enw Eric Hall i gynnal clwb camera yn Llangeitho ac er mwyn cael toriad o fy ngwaith bob dydd fel ffermwr dyma ymuno a chael blas ar bethau.
"Os mai clwb cyfrifiaduron a fyddai wedi dod i'r pentre - mae'n bosib mai arbenigo yn y maes hwnnw y bydden i wedi'i wneud," meddai Tim Jones.
Talu pris buwch am gamera
"Wedi dod i ddeall rywfaint am dynnu lluniau a chael boddhad, dyma fynd i brynu camera ail law yn Llanbed am £100. Ar ôl dod adre', dyma 'nhad yn dweud wrthai 'Bachan, bachan - ti wedi talu pris buwch am gamera!'
"Mi o'dd e'n bris mawr ar y pryd. Ond mae'n siŵr bod y camera wedi bod yn fwy proffidiol na buwch yn y diwedd ac yn sicr yn haws ei drafod," ychwanegodd Tim Jones sydd yn byw yn Llanbedr Pont Steffan ers rhai blynyddoedd.
"Minolta oedd y camera cyntaf ond newid wedyn i Nikon a gan i fi brynu pob math o lenses - stico at y Nikon 'nes i wedyn."
Lluniau du a gwyn oedd Tim yn tynnu i ddechrau a hynny gan amlaf i bapur bro Y Barcud - papur bro ardal Tregaron.
"Roedd hi, wrth gwrs, yn gyfnod sefydlu'r papurau bro - cyfnod da i ddechrau fel ffotograffydd i ddweud y gwir," meddai.
"Ond nid yn unig gwersi tynnu lluniau ges i yn Llangeitho - ges i hefyd wersi datblygu ac roedd honno wrth gwrs yn dipyn o grefft - 'neud siwr bod y balans a'r density golau yn iawn.
"Dyna'r dyddiau pan oedd gen i dark room yn y tŷ - ac fe fydden i yn yr ystafell honno am oriau lawer yn datblygu lluniau yn y tywyllwch."
'Llun du a gwyn da yw'r gorau'
Mae newid mawr wedi bod yn y byd ffotograffiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond yn ôl Tim Jones y newid mwyaf yw dyfodiad camerâu digidol.
"Doedd dim rhaid i fi fod yn y dark room wedi i bethau fynd yn ddigidol - ond roedd yna wefr hefyd i'w chael wrth ddatblygu lluniau er fi'm yn credu bod treulio amser ynghanol y cemegolion 'na yn beth da. Yn fwy na dim roedd tynnu lluniau yn ddigidol yn golygu bo fi'n gallu tynnu mwy o luniau.
"Cynt do'n i ddim yn tynnu mwy na ryw ddau lun o ddim byd - ddim am wastraffu'r ffilm ond gyda dyfodiad y byd digidol roedd modd tynnu lot mwy o luniau a sicrhau bod pawb yn edrych yn iawn.
"Y newid mawr arall, wrth gwrs, oedd y galw am luniau lliw. Tua 1998 fe benderfynodd papur y Cambrian News eu bod am gynnwys lluniau lliw.
"Ond does dim yn trechu llun du a gwyn da."
'Dim auto!'
"Mae pawb yn credu eu bod yn gallu tynnu lluniau - ac mae'r botwm auto wedi galluogi hynny ond dyw'r ffotograffwyr gorau ddim yn defnyddio hwnnw!
Wrth i'r galw am ei wasanaeth gynyddu fe wnaeth Tim roi'r gorau i'w fferm yn Llangeitho a symud i Lanbed i fyw.
"Doedd ffermio a thynnu lluniau ddim yn mynd gyda'i gilydd yn dda iawn. Weithiau byddai angen i fi drin y gwair cyn y glaw ond allwn i ddim gan bod yn rhaid i fi fynd i briodas!
"Dwi wedi mwynhau tynnu lluniau priodasau yn fawr - rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld pawb yn y llun neu does dim pwynt iddynt fod ynddo!
"Do's dim lot o amynedd 'da fi 'da'r bobl 'na sy'n cwato y tu ôl i bobl tal!
"Tueddu i dynnu lluniau yn y dull traddodiadol rwy' wedi 'neud drwy mywyd - ond fi'n meddwl weithiau byddai wedi bod yn dda i fi dynnu llun o hwn a'r llall ar hap. Byddai'n meddwl yn aml - does dim llun o hwn a'r llall 'da fi.
"Yn ffodus does dim troeon trwstan mawr wedi digwydd ond bu bron i mi fynd i bentref Capel Seion ar gyfer priodas unwaith yn hytrach na chapel Seion yn Aberystwyth - lwcus bod y briodasferch wedi cyfeirio at y railings o flaen y capel a dyna pryd cw'mpodd y geiniog!"
'Hoff iawn o grwydryn Llanbed'
Dywed Tim Jones ei fod wedi bod yn ffodus i gyfarfod â nifer o gymeriadau ac enwogion yn ei yrfa - yn eu plith yr actor Anthony Hopkins, cyn-arlywydd America Jimmy Carter a Joe Tanner a osododd faner Cymru ar y lleuad. Roedd mamgu Joe Tanner yn dod o Landdewi Brefi ac fe ddaeth e i'r ysgol i weld y plant.
"Maent wedi bod yn brofiadau arbennig ond roedd tynnu llun George Gibbs - crwydryn a ddeuai'n flynyddol i'r ardal hefyd yn rhoi llawer o bleser heblaw sôn am anifeiliaid.
"Rwy'n cofio cael cryn sbort yn tynnu lluniau mochyn daear dof ac hefyd ŵyn yn yfed llaeth y fuwch yn Lledrod.
"Ydw, fi wedi bod mor ffodus ond rwy'n credu bod yr amser wedi dod i roi'r gorau iddi," ychwanegodd Tim Jones.
"Fi nawr yn 87 a dyw'r penlinio a mynd i bob twll a chornel ddim mor hawdd ac y bu. Falle hefyd bod hi'n bryd i fi dreulio peth amser gyda'r wraig!"
Hefyd o ddiddordeb