Oriel: Porthladd a thref Caergybi
- Cyhoeddwyd
Rhwng trafodaethau masnach Brexit a chyfyngiadau ar deithio rhwng Cymru ac Iwerddon oherwydd y coronafeirws, mae llawer o sylw wedi ei roi i Gaergybi yn ddiweddar wrth i lawer ddyfalu sut y bydd gadael yr UE yn effeithio ar y porthladd a'r dref.
Wythnos cyn Nadolig 2020 aeth y ffotograffydd Iolo Penri yno ar ran Cymru Fyw i gael cip y tu hwnt i'r penawdau newyddion ar y porthladd a'r gymuned o'i amgylch ar ddiwedd blwyddyn gythryblus.
Caergybi yw ail borthladd masnachol roll on/roll off fwyaf Prydain gyda thua 2 filiwn o bobl a 550,000 o unedau cludo yn defnyddio'r gwasanaeth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru bob blwyddyn.
Un o gwmnïau fferi mwyaf Ewrop, Stena Line, sy'n rhedeg y porthladd. Fis Tachwedd 2020 roedd yn dathlu 25 mlynedd ers cyflwyno ei wasanaeth o Ddulyn i Gaergybi. Mae cwmni Irish Ferries hefyd yn hwylio yma.
Y croesiad yma o Gaergybi - ynghyd â'r fferi rhwng Abergwaun a Rosslare - ydy'r croesiad cyflymaf rhwng Iwerddon a'r DU ac oherwydd hynny mae llawer o nwyddau bwyd yn cael eu cludo ar y llwybr yma o'r Ynys Werdd.
Neil Morris yw un o'r rheolwyr ar ddyletswydd yn y porthladd prysur lle mae cannoedd o lorïau yn pasio trwyddo cyn mynd ar yr A55.
Robert Bentley yw un o'r gweithwyr sy'n gyfrifol am symud unedau cargo a thryciau yn y porthladd.
Yn ôl Stena mae'n cyflogi 25% o'r gweithlu lleol yn uniongyrchol yn y porthladd gyda swyddi anuniongyrchol eraill ar yr ynys.
Gellir croesi o'r porthladd i ganol y dref dros bont droed y Porth Celtaidd a agorodd yn 2006 gyda'r bwriad o ddenu mwy o ymwelwyr i'r dref. Daeth rhan o'r arian i godi'r bont o gronfa Amcan Un Ewrop.
Mae'r bont yn croesi i Stryd y Farchnad. Mae nifer o archfarchnadoedd a siopau mawr ar gyrion y dref ar Stad Ddiwydiannol Penrhos, ond y Co-op yw un o'r prif siopau bwyd sydd yng nghanol y dref.
Mae marchnad awyr agored sy'n gwerthu llysiau a ffrwythau yn dal i gael ei chynnal yma'n wythnosol hefyd.
Mae Clare wedi bod yn rhedeg ei siop esgidiau a bagiau ar Stryd y Farchnad ers 2013 ar ôl i'r siop gadwyn roedd hi'n gweithio ynddi ar y stryd cyn hynny gau.
"Mae llawer o siopau wedi mynd a dod yma," meddai "ond rydyn ni'n un o'r siopau mwyaf lwcus ar y stryd - mae'r bobl leol yn ffantastic ac yn rhoi gymaint o gefnogaeth - fyddwn i ddim eisiau byw yn unman arall."
Mae siop gigydd yma wedi bod ar Stryd Stanley ers degawdau ac yn cael ei rhedeg heddiw gan y busnes teuluol J. Raymond Jones.
Yn nes i lawr Stryd Stanley mae'r Empire, sinema a chanolfan chwarae sy'n cael ei reoli ers mis Ionawr gan Debra Parry, ond sydd wrth gwrs ar gau oherwydd Covid ar hyn o bryd.
"Gyda phopeth sydd wedi digwydd yn y 12 mis diwethaf, mae pawb wedi dod at ei gilydd, mae hi'n un o'r cymunedau hynny sy'n gofalu am bopeth ac am ei gilydd," meddai Debra.
"Maen nhw wedi tynnu at ei gilydd yn barod gyda rhai pobl wedi colli swyddi, yn enwedig gyda Roadking [y safle ar gyrion y dref sydd dan sylw yn y trafodaethau am barcio lorïau yn sgil Brexit].
"Dydi'r gymuned ddim yn gwybod be sy'n mynd ymlaen yno. Dwi ddim yn credu y bydd yn cael effaith hir-dymor arnon ni, yn bersonol, ond ar weddill y dref, dwi'n credu y bydd yn enfawr."
Mae perchnogion y porthladd, Stena Line, yn un o noddwyr y clwb pêl-droed lleol, Holyhead Hotspur sydd yng Nghynghrair Gogledd Cymru JD. Mae Davey Hughes, rheolwr clubhouse yr Hotspurs, yn ddyn prysur sydd hefyd yn aelod o'r Bwrdd Crwn yn y dref ac yn gadeirydd Gŵyl Caergybi.
"Dwi'n gwybod ein bod wedi cael ein galw yn un o drefi mwyaf dirwasgedig Cymru ar un adeg, ond mae yna ysbryd cymunedol yma," meddai Davey sy'n gweld y clwb fel rhan allweddol o'r gymuned.
"Rydyn ni newydd fod o gwmpas am bump noson efo Siôn Corn, y plant a'r teuluoedd i gyd yn dod allan i chwifio arnon ni o bellter saff."
Mae'r clwb yn cynnal llawer o ddigwyddiadau cymunedol gan gynnwys sioeau a phartïon, gweithgareddau codi arian i elusennau, a dosbarthu cinio Nadolig i bensiynwyr sy'n byw eu hunain dros y Nadolig.
"Ro'n i'n gweithio yn Aliwminiwm Môn am 37 mlynedd - roedd yn lle ffantastig i weithio ac yn golled enfawr i'r dref [pan gaeodd yn 2009]. Roedd yn cyflogi 14000 o bobl ar un adeg.
"Mae'r swyddi â chyflogau da yn diflannu'n gyflym felly dwi yn poeni am y dyfodol i fy wyrion a bod yn onest. Mae fy mab ieuengaf yn gweithio i Stena a dwi'n gobeithio y bydd y swyddi yn dal i ddod. Dydyn ni ddim yn gwybod efo'r sothach yma am Brexit - dydw i ddim yn ddyn gwleidyddol - mae na fygythiadau ond dydyn ni ddim yn gwybod be sy'n digwydd tu ôl i'r llenni."
Yn siop flodau Trudie Sodden, cyn cyhoeddiad clo mawr y Nadolig, mae cwsmeriaid wedi dod i nôl eu blodau ar gyfer yr ŵyl.
Mae 'na newyddion da ar y stryd fawr ym Mragdy Cybi sy'n enghraifft o fusnes sydd wedi gallu sefydlu ei hun ac agor bragdy yn ystod blwyddyn Covid-19.
Mae canolfan gelfyddydol Ucheldre yn ganolbwynt arall i Gaergybi a fel arfer yn cynnal cyngherddau, dramâu, ffilmiau a phob math o ddigwyddiadau celfyddydol. Roedd yr adeilad yn arfer bod yn gapel y Lleiandy Bon Savour oedd yma tan 1988. Mike Gould yw'r rheolwr y ganolfan sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Yn ôl wrth y ffordd sy'n pasio'r porthladd mae Meddygfa Victoria lle mae Dr David Williams yn feddyg; mae'r menig a'r ffedog blastig mae'n eu gwisgo yn arwydd o gyfnod y pandemig rydyn ni'n byw ynddo.
Mae adeilad hardd Eglwys Cybi yn edrych dros y porthladd prysur. Mae wedi ei adeiladu o fewn hen gaer Rufeinig fach - mae ei holion yn dal i'w gweld yma ers y 3ydd ganrif. Y safle yma sy'n rhoi ei enw i'r dref.
Er bod Caergybi wedi bod yn groesfan amlwg i Iwerddon ers y cyfnod hwnnw, yn nechrau'r 1800au y cafodd ei hwb mawr pan gafodd ei ddewis fel safle'r prif borthladd yng ngogledd Cymru - roedd Porthdinllaen yn un o'r llefydd eraill dan ystyriaeth.
Yn ogystal â'r gweithwyr sy'n delio gyda'r llongau a'r traffig yn y porthladd - y docwyr sy'n llwytho cargo, angori llongau a chyfeirio traffig, peilotiaid cychod a badau argyfwng a'r rhai sy'n gweithio yn yr ystafell rheoli - mae gan Stena ganolfan gwasanaeth-i-gwsmeriaid yma a llawer o swyddi gweinyddol.
Fis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd Stena eu bod yn cynyddu eu gwasanaethau rhwng Rosslare a Cherbourg yn Ffrainc er mwyn hwyluso cludiant rhwng Iwerddon ac Ewrop.
Wrth i'r trafodaethau am dollau a pharcio, trafnidiaeth, cytundebau masnach ac effaith cyfyngiadau Covid ac effaith Brexit ar borthladdoedd barhau, roedd popeth yn rhedeg fel arfer yng Nghaergybi ar y dydd Iau yma cyn clo mawr y Nadolig, gyda'r Stena Estrid wedi hwylio nôl i Ddulyn am y tro.
Hefyd o ddiddordeb: