Gosod mesurau traffig ym mhorthladd Caergybi
- Cyhoeddwyd
Mae mesurau traffig wedi cael eu gosod ar y brif ffordd i borthladd Caergybi wrth i'r DU baratoi ar gyfer perthynas fasnachu newydd gyda'r UE.
Nod y trefniadau, medd Llywodraeth Cymru, yw "lleihau unrhyw darfu posib" i'r porthladd, y dref a'r gymuned leol.
Bydd lorïau nwyddau sy'n cael eu gwrthod yn y porthladd oherwydd gwaith papur anghywir yn cael eu danfon i lôn orllewinol yr A55.
Mae Llywodraeth y DU yn darogan y gall hynny ddigwydd yn achos hyd at 70% o lorïau.
Caergybi yw un o borthladdoedd prysuraf y DU - yn ail ond i Dover, ble bu tagfeydd difrifol cyn y Nadolig wedi i Ffrainc atal teithiau o'r DU yn sgil amrywiolyn newydd Covid-19 yn y DU.
Daeth y DU a'r UE i gytundeb ar delerau masnachu ar ddiwedd y cyfnod pontio wedi Brexit noswyl Nadolig, ond mae disgwyl rhywfaint o darfu wrth i'r newidiadau ddod i rym ar 1 Ionawr.
"Rydym yn rhagweld oedi," dywedodd Cadeirydd Cymdeithas y Cyflogwyr (CBI) yng Nghymru, Kinza Sutton wrth BBC Radio Wales.
"Mae'r newidiadau i'r gwaith papur yn mynd i achosi newidiadau mawr i bawb, felly yn sicr yn ystod mis Ionawr rwy'n dychmygu y bydd yna oedi wrth i bawb ddod i arfer â'r systemau newydd."
"Anghydfod'
Dywedodd Daniel Lambert, perchennog cwmni mewnforio gwin ym Mhen-y-bont ar Ogwr: "Bydd yna gryn anghydfod.
"Rwy'n meddwl y cafodd y ffiasgo lorïau [yn Dover] cyn Nadolig effaith anferthol ar y stoc roedden ni'n ei ddisgwyl ar gyfer mis Ionawr. Mae rhywfaint o'r stoc hyrwyddol ar gyfer Ionawr yn dal ddim yma."
Cafodd cynllun i droi arhosfan RoadKing yng Nghaergybi'n ganolfan clirio mewndirol ar gyfer gwirio nwyddau sy'n cyrraedd y porthladd o Iwerddon ei ddileu gan Lywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf.
Ddydd Llun dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod hwythau hefyd o'r farn y byddai safleoedd posib eraill yn ardal Parc Cybi yn fwy addas.
"Byddai hyn hefyd yn cynnig cyfle i'r arhosfan lorïau barhau ar agor, gwarchod swyddi a chynnig gwasanaeth i'w gwsmeriaid, petai ddymuniad i wneud hynny," meddai, gan ychwanegu bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Parcio ar yr A55?
Mae Llywodraeth Cymru'n rhagweld mai yng nghanol Ionawr y bydd y trafferthion traffig gwaethaf.
Bydd lorïau sy'n cael eu hel o'r porthladd yn cael eu danfon i Gyffordd 4 yr A55, a bydd yn rhaid iddyn nhw barcio yno os nad oes safle arall ar gael.
Bydd system wrthlif ar lôn ddwyreiniol y ffordd rhwng Cyffyrdd 2 a 4.
"Mae'n rhaid i ni weithredu'r cynlluniau wrth gefn yma er mwyn gwneud beth bynnag y gallwn i leihau unrhyw darfu posib i'r porthladd, i gymuned Caergybi a'r ardal ehangach," meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
"Nid ydym erioed wedi wynebu'r fath sefyllfa o'r blaen ac mae gyda ni ddyletswydd i baratoi ar y senario waethaf bosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020