Rhybudd am 'anhrefn llwyr' ym mhorthladd Caergybi
- Cyhoeddwyd
Bydd "anhrefn llwyr" ym Mhorthladd Caergybi pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben, yn ôl Cymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd Iwerddon (IRHA).
Dyma'r ail borthladd mwyaf o'i fath yn y DU ar ôl Dover, gyda 1,200 o lorïau a threlars yn defnyddio'r gwasanaeth pob dydd.
"Bydd y chwe mis nesaf yn ofnadwy," meddai Eugene Drennan, llywydd yr IRHA, "mae'n ofnadwy ein bod wedi cyrraedd y 12fed awr ac nid yw systemau fydd ar waith, wedi eu profi."
Ond mae perchennog Porthladd Caergybi, Stena Line, yn dadlau er y bydd "amserlenni yn dynn iawn" bydd y broses yn rhedeg yn esmwyth.
'Coridor hanfodol'
"Rydym yn cynnal profion yn ystod y pythefnos nesaf. Rydym yn dechrau addysgu ein staff ar y prosesau gwirio newydd," meddai Ian Davies, pennaeth Awdurdodau Porthladd y DU ar gyfer Stena Line.
"Mae paratoadau masnachwyr yn gwestiwn mawr. Mae hynny wedi bod ar feddwl pawb, ond rwy'n ffyddiog bod y rhan fwyaf bellach yn ymwybodol o'r broses.
"Dylai fod llif esmwyth drwy borthladd Caergybi ar gyfer nwyddau mewnol o Iwerddon.
"Mae hwn yn goridor mor hanfodol fel ein bod yn eithaf hyderus, unwaith y bydd pobl yn dod i'r arfer â'r drefn newydd o weithio, y byddwn yn gweld twf parhaus yma."
Ond mae gan yr IRHA bryderon o hyd wrth i'r dyddiad cau ar gyfer cytundeb newydd rhwng y DU a'r UE agosâi, gyda chyfnod pontio Brexit yn dod i ben ar 31 Rhagfyr.
"Rydyn ni'n bryderus iawn. Ar ôl y dyddiad cau, ni fydd penderfyniadau wedi eu gwneud o hyd. Byddan nhw'n newid y drefn wrth i'r problemau ymddangos," yn ôl Mr Drennan.
"Mae hynny'n arwain at anhrefn llwyr o ryw fath. Bydd oedi o ran amser.
"Er ei fod yn cael ei alw'n gyfnod pontio, ni fu unrhyw newid. Mae'n frysiog nawr yr wythnosau diwethaf yma i geisio cael systemau at ei gilydd, i geisio rhoi pethau ar waith ac er bod gan ochr Iwerddon rywfaint o barodrwydd, mae rhannau yn gymhleth iawn.
"Ac nid oes yr un system yn cysylltu â systemau Ei Mawrhydi. Dydy Lloegr na Chaergybi yn barod o gwbl."
Cadarnhaodd Stena Line fod y penderfyniad wedi'i wneud i ddatblygu cyfleuster gwirio mewndirol ar safle gwahanol i Borthladd Caergybi.
Llinos Medi Huws yw arweinydd Cyngor Ynys Môn ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Uchelgais Economaidd gogledd Cymru.
Dywedodd: "Da'n ni isho atebion - da'n ni isho gwybod yn union be 'di'r disgwyliadau'n mynd i fod ar y porthladd yma yng Nghaergybi.
"Mi ddylia unrhyw fan i checkio y lorïau yma fod mor agos â phosib i'r porthladd ac yng Nghaergybi ddylia hynny fod yn amlwg. Mae'n bwysig iawn - y rheswm ma' nhw angen checio yw diogelu - ac er mwyn diogelu'n iawn ma' rhaid iddyn nhw fod yn neud hwnna mor agos i'r porthladd."
Yn ôl Dr Edward Jones, darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor "Mae yn sefyllfa anffodus iawn hefo Brexit. 'Dan ni llai na 40 diwrnod i fynd a dal dos na ddim penderfyniad ar ba fath o deal sydd 'na rhwng Prydain a'r UE.
"Mae'n siomedig bod y swyddi sydd yn gysylltiedig efo checio'r lorïau yn mynd i rannau eraill o Brydain. Ma'na risg bydd rhannau o Sir Fôn yn dod yn rhyw Faes Parcio i lorïau."
Mae llwybr fferi newydd wedi'i sefydlu rhwng Ffrainc ac Iwerddon.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Chris Yarsley o Logistics UK, sy'n cynrychioli busnesau cludo nwyddau: "Mae'r diwydiant gweithgynhyrchu modurol yn dibynnu ar gerbydau sy'n darparu rhannau sbâr gydag oriau sbâr.
"Bydd unrhyw doriad yn y gadwyn gyflenwi honno'n achosi problemau gweithgynhyrchu felly bydd pobl yn edrych i le arall i ddod o hyd i'w nwyddau a gallai hynny effeithio ar hyfywedd economaidd y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth yn gweithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a phorthladdoedd ledled y Deyrnas Unedig, i gynllunio ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a thu hwnt.
"Mae'r gwaith o ddarparu systemau TG sy'n angenrheidiol ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar y trywydd cywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020