Fy Stafell i: 'Stydi'r Meuryn' Ceri Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawyr Y Talwrn wedi dod i arfer clywed am 'Stydi'r Meuryn' lle mae'r Prifardd Ceri Wyn Jones yn recordio'r rhaglen ers i'r pandemig roi stop ar deithio ar hyd a lled Cymru.
Gyda ffeinal gornest barddonol Radio Cymru yn digwydd ar 1 Awst, y Meuryn sy'n ein tywys o gwmpas y 'stafell yn ei gartref yn Aberteifi lle mae'n gweithio, barddoni, darllen... ac erbyn hyn cyflwyno rhaglen radio.
"Mae pobl nawr yn defnyddio'r term swyddfa yn dyn nhw, ond dwi'n dod o deulu 'stydi' - roedd fy nhad yn ddyn stydi. Roedd fy nhaid yn ddyn stydi hefyd. Ac fel eu stydis nhw, mae hon yn hen stydi draddodiadol, yn llawn llyfrau."
"Mae'r gair 'swyddfa' yn awgrymu rhywle rwyt ti'n mynd i weithio am oriau penodol, fel 9-5, ond mae fy stydi i yn rhywle lle dwi'n gweithio yn swyddogol ac yn answyddogol, lle dwi'n ysgrifennu a darllen ac yn y blaen."
"Ers dechrau recordio'r Talwrn yma, dwi wedi altro'r ffordd dwi'n meddwl am y stafell yma oherwydd mae'r stydi nawr wedi troi'n stiwdio. Ry' ni'n ceisio recordio'r rhaglen mewn un take, felly mae'n cymryd rhyw awr, ac mae 'na apêl ar i bawb yn y tŷ am yr awr honno i gadw eu pellter.
"Roedd 'na bobl yn gweithio ar y to yn gynharach leni a dwi'n cofio gorfod gofyn a fydde modd, am ryw awr, iddyn nhw ohirio eu morthwylio a'u llifio."
"Mae pawb sy'n cyrraedd ffeinal Y Talwrn yn cael rhodd fel cydnabyddiaeth o'u llwyddiant a'u cyfraniad nhw. Am ryw dair bedair blynedd cartŵns gan Huw Aaron oedd y wobr.
"Mae'r cartŵns yna yn dychanu ac yn dyrchafu'r beirdd, sy'n beth gwych - mae e'n dangos bod parch ond hefyd mae'n ein hatgoffa ni na allwn ni gymryd ein hunain ormod o ddifri. Mae beirdd yn ffigure cyhoeddus yng Nghymru, a'u wynebau nhw'n gyfarwydd."
"Llun gwreiddiol Aneurin yw hwn, ges i fel anrheg pan enilles i'r Gadair Genedlaethol am y tro cynta yn Eisteddfod y Bala yn 1997. Fy ewythr i, y diweddar barchedig Aled ap Gwynedd, aeth ar ofyn Aneurin i greu'r llun ar y pryd.
"Ond mae'n debyg fod Aneurin wedi cael trafferth gyda'r llun. A'i fod e wedi bod o fewn dim i ffonio Aled a dweud ei fod e wedi ffili'n deg â dal y tebygrwydd yn iawn. Dim ond ar yr unfed-awr-ar-ddeg, medde fe, y llwyddodd e i gael y tebygrwydd fel oedd e'n dymuno. Yn y llun yma, bydda' i'n 29 am byth."
"Llun Stan William o'r Preselau. Pan oeddwn i'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, fe wnaeth ddysgu celf i fi ac wedyn ymhen blynyddoedd dyma fi'n mynd yn athro i Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul lle'r roedd Stan erbyn hynny yn dysgu.
"Bues i'n dysgu rhywfaint o gelf i ddisgyblion er nad oedd cymhwyster yn y byd gen i i wneud hynny mwy na bod Stan wedi fy nysgu i ac roedd e'n cofio 'mod i eitha' da am wneud cartŵn.
"Wnaeth Ysgol Dyffryn Teifi roi'r llun hwn i mi fel rhodd pan enilles i gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1992."
"Be' sy'n dda am y dyfyniade yma, nid mod i'n credu ynddyn nhw i gyd neu mod i'n argyhoeddedig eu bod nhw i gyd yn dweud y gwir - ond maen nhw i gyd yn hala fi i feddwl, ac mae hynny'n beth braf, yn beth pwysig."
"Dwi'n un sy'n pori mewn llyfrau barddoniaeth, ac yn ailymweld â nhw yn aml. Mae'n rhyfedd fel mae'n dehongliad ni o gerdd yn gallu newid dros y blynyddoedd.
"Ond weithie ni'n mynd nol at gerdd er mwyn cael y sicrwydd bod dim byd wedi newid. Ac mae ambell gerdd yn siwr o roi'r un teimlad, yr un boddhad, yr un wefr. Dyna beth dwi'n ei gael yn aml gyda gwaith Dic Jones."
"Dwi'n ffan mawr o griced, ac ro'n i'n arfer mynd pryd gallwn i i weld Morgannwg yn chwarae - ac ar ddiwrnod crasboeth yng Ngerddi Soffia (ym mis Awst, 1999, dwi'n credu), doedd dim het gen i ond, yn y gwres mawr y diwrnod hwnnw, roedd angen het arna i, ac mi brynes i het yn y fan a'r lle.
"Mae'n het sy'n rhy fawr i mi gyda llaw, ond dyna'r unig faint oedd ar ôl."
"Catrin, fy ngwraig, enillodd y gadair yma - cadair eisteddfod ysgol Aberteifi 1992, yr un flwyddyn enilles i Gadair Eisteddfod yr Urdd. Mae Catrin yn gallu brolio ei bod hi wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol Aberteifi, sef camp na chyflawnes i erioed.
"Hefyd yn y llun mae stôl odro gath ei rhoi i fi pan enilles i'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, ei rhoi gan yr ysgol lle ro'n i'n dysgu, Ysgol Dyffryn Teifi, ac mae rhywbeth eitha comic yn y syniad eu bod nhw wedi rhoi stôl i anrhydeddu ennill Cadair, ac mae hynny'n adlewyrchu hiwmor y pennaeth ar y pryd, Ainsleigh Davies.
"Dwi'n mynd â hi o ysgol i ysgol pan dwi'n gwneud gweithdai barddoniaeth. Dwi'n defnyddio hi fel sbardun trafodaeth ac er mwyn creu rhyw gymariaethau, ac mae hi hefyd yn handi iawn i eistedd arni pan mae'r dosbarth yn llawn."
"Gwobr Cân i Gymru 2007. Roedd Einir Dafydd yn groten ysgol ar y pryd a gwnaeth ei thad ofyn a fyddwn i'n ystyried sgrifennu geiriau iddi. System pleidleisio drwy ffôn oedd e ar y pryd, ac roedd yn noson ddramatig a difyr.
"Be' sy'n dda yw, dwi wedi parhau i sgrifennu geiriau i Einir ers hynny. Mae'n braf cadw'r cysylltiad ac mae'n braf hefyd wneud math gwahanol o ysgrifennu."
"Mae amserlen y Talwrn ar y wal. Ni'n recordio un rhaglen o'r Talwrn yr wythnos, ond yn ystod wythnos y ricordio ry' ni wrthi hefyd yn paratoi at dalyrne sydd i ddod rhyw fis lawr y lein, yn gosod tasge ymlaen llaw, er enghraifft. Mae 'mhen i mewn sawl Talwrn ar unwaith, felly.
"Dwi'n gweld isie teithio Cymru gyda'r Talwrn a'r croeso ni'n gael gan gymdeithasau - dyna ble mae dyn yn dod i gyfarfod a'i gynulleidfa a'r beirdd yn dod i gyfarfod a'u cynulleidfa nhw. Yn y bôn, gweithgaredd gymdeithasol yw barddoni, yn sicr yng Nghymru."
Bydd tîm Dros yr Aber, o Gaernarfon, yn cystadlu yn erbyn Beirdd Myrddin, o Gaerfyrddin, yn Ffeinal Y Talwrn ar Radio Cymru am 1900 ar 1 Awst.
Hefyd o ddiddordeb: