Ymddeol o'r Talwrn ar ôl 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Wrth iddo ymddeol o Talwrn y Beirdd ar ôl 40 mlynedd mae Llion Jones yn diolch i fardd anarferol am ei ysbrydoli - John Toshack.
Defnyddio'i ben i sgorio yn hytrach nag i gyfansoddi Hir a Thoddaid oedd cryfder cyn-ymosodwr Cymru, Abertawe, Lerpwl a Real Madrid - ond mae o wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth.
Ac yn yr 1970au fe wnaeth Gosh it's Tosh sbarduno bachgen ifanc o Abergele i gyhoeddi cyfrol debyg ei hun.
Gee it's Lli oedd enw'r casgliad gan Llion Jones. Roedd hynny'n 1976 ac yntau'n 12 oed.
Erbyn heddiw, ac yntau'n gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, mae'r Prifardd Llion Jones yn cydnabod nad oedd y cerddi ymysg ei gynnyrch gorau.
Er hynny, roedd efelychu un o'i arwyr yn nhîm pêl-droed Cymru yn un o'r ffactorau wnaeth arwain ato'n cystadlu yng nghyfres gyntaf Talwrn y Beirdd yn 1979 - ac mae o newydd ymddeol o'r rhaglen.
"Y ddau brif beth oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw adeg hynny oedd geiriau a chwaraeon, a daeth y llyfr allan yn 1976," meddai Llion Jones.
"Nes i greu un tebyg - Gee it's Lli, ac mae'r cerddi yn yr un arddull â rhai Tosh. Maen nhw'n hollol gocosaidd, efo odli ciami, ac maen nhw yn Saesneg.
"Nes i hyd yn oed roi Hamlyn Publishing Company ar y gwaelod fel cyhoeddwr.
"O edrych yn ôl, mae cymaint o bethau yn dibynnu ar gyd-destun ac amgylchiadau ar y pryd."
Gwrandewch ar Rhys Ifans yn darllen cerdd Llion Jones am dîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Ewro 2016
Dim ond un o nifer o ddylanwadau barddonol wnaeth ennyn sylw'r hogyn ifanc yn ystod y cyfnod oedd llyfr John Toshack.
Yn 1976 fe ddigwyddodd helynt Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi pan dorrodd y Prifardd Dic Jones reolau cystadleuaeth y Gadair - a'r Llion Jones ifanc yn sylweddoli bod mwy i'r eisteddfod na dilyn ei dad o gwmpas y maes yn disgwyl iddo orffen sgwrsio efo pobl.
Yn 1979 aeth i Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon a gweld beirdd ifanc Tîm y Maes Pebyll yn cael hwyl yn yr ymryson.
Yn yr un flwyddyn, sefydlwyd Cynghrair Beirdd Bro Hiraethog ac ymunodd Llion gyda'i dad ar dîm Abergele a chystadlu mewn rhaglen newydd sbon ar Radio Cymru o'r enw Talwrn y Beirdd.
"Roedd dipyn o hwyl i'w gael a nifer o bethau yn mynd ymlaen, ac yng nghanol y bwrlwm hynny i gyd nes i ymuno â'r tîm," meddai.
"Roeddwn i'n mwynhau, ond o edrych yn ôl mae'n siŵr mai darllen gwaith pobl eraill oedd fy rôl pennaf yn y tîm.
"Yng nghyd-destun y tîm yr oeddwn i'n gweithio, a chael fy annog gan yr aelodau eraill. Dwi'n edrych ar rai cerddi rŵan yng nghyfrolau cyntaf Y Talwrn, ac ar y diwedd mae fy enw i yno - ond mae'n siŵr nad fi wnaeth eu sgwennu nhw."
Ar ôl cystadlu gydag Abergele am dair blynedd aeth i'r coleg yn Aberystwyth a ffurfio tîm Pantycelyn gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr.
Erbyn hynny roedd y Prifardd Dic Jones wedi ymuno gyda'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen i gyflwyno'r rhaglen, oedd yn cyfoethogi bywyd y myfyriwr ifanc - er i'w dîm gael y marc isaf erioed yn hanes y gystadleuaeth, yn ôl ei waith ymchwil ei hun.
Meddai: "Chwech a hanner - am englyn i'r daten. Emyr Davies oedd yn gorfod ei ddarllen, y creadur, a'r llinell fythgofiadwy 'Wedi'i gwisgo 'da gwasgod'.
"Roedd y tîm yn gweithio ar y cyd ac yn cael hwyl. Fel arfer mae myfyrwyr yn troi ymysg myfyrwyr eraill, ond gan ein bod ni yn y Talwrn roeddan ni'n dod ar draws pobl o bob oed, ac o ardaloedd eraill. Roeddan ni'n dod ar draws pobl oedd wedi bod yn sgwennu ers blynyddoedd oedd yn gwella dy waith dy hun.
"Ro'n i'n astudio Cymraeg, ac roedd gen ti Dic Jones a Gerallt, dau fardd mwya'r cyfnod, yn trafod dy waith - ac wedyn roeddat ti'n cael sgwrs dros baned efo nhw. Mae o fel rhywun yn dysgu am bêl-droed wrth draed Ronaldo a Messi."
Ar ôl gadael Pantycelyn a pharhau i fyw yn Aberystwyth, fe sefydlodd dîm Marchogion Arthur yn 1988 gydag Emyr Davies, Peredur Lynch, Menna Baines a Lyn Ebenezer.
Ar ôl symyd i'r gogledd, ymunodd â Beirdd y Byd gydag Iwan Llwyd, Ifor ap Glyn, Twm Morys a Geraint Løvgreen, cyn ymuno â thîm Penrhosgarnedd am 12 mlynedd ac yna Caernarfon yn 2012 - ei dîm olaf.
"Dwi'n licio pethau yn dwt a chymesur a nes i feddwl bod 40 mlynedd yn amser da i orffen," meddai. "Mae peryg hefyd i ailgylchu yr un hen syniadau, ac mae'n gallu bod yn dipyn o bwysau yn enwedig yn y rowndiau olaf."
Yr elfen gymdeithasol fydd o'n golli fwyaf meddai, gan ddweud ei fod wedi gwneud ffrindiau da o bob cwr o Gymru.
Mae Llion Jones, wnaeth roi'r gorau i Trydar mewn Trawiadau - ei gynganeddu ar Twitter - llynedd, hefyd yn meddwl y gallai gael effaith ar yr awen.
"Os wyt ti'n canu yn gaeth rwyt ti angen cadw'r tŵls yn lân," meddai. "Ro'n i'n Trydar yn gyson tan yn ddiweddar ac yn gwneud y Talwrn felly roedd pethau yn dod yn rhwydd, falle y bydd pethau yn anoddach rŵan."
Ond fel awdur Bardd ar y Bêl, cyfres o gerddi am ddilyn Cymru yn Ewro 2016, mae cyfle iddo hogi'r arfau unwaith eto pan fydd yn rhan o'r Wal Goch yn ymgyrch 2020. Byddai Tosh yn falch.
Hefyd o ddiddordeb: