Covid: diwydiant awyr agored am elwa?

  • Cyhoeddwyd
Taith gerdded i blant ysgolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'r sector awyr agored wedi diodde' yn sgil cyfyngiadau Covid-19 - ond mae gobaith gall y sector elwa yn yr hir dymor.

Yn 2001 roedd Arwel Elias newydd gymhwyso fel hyfforddwr awyr agored ac yn edrych ymlaen at ddechrau gyrfa ym mynyddoedd Eryri.

Ond dros nos roedd cefn gwlad - ac felly ei le gwaith - ar gau wrth i'r awdurdodau geisio atal lledaeniad clwy'r traed a'r genau.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae o'n dal i weithio yn y maes - arwydd ei fod o a'r diwydiant wedi goroesi'r cyfnod anodd pan gaewyd holl lwybrau Prydain am fisoedd., dolen allanol

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel Elias nawr yn ymgynghorydd ymweliadau addysg yng Ngwynedd, Conwy a Môn

"Dwi'n cofio'r cyfnod yn iawn," meddai Arwel. "Roedd yn debyg iawn i'r gaeaf yma o ran amodau - y rhai gorau ar gof o ran amgylchiadau perffaith i fod allan ar y mynydd i gerdded yn yr eira neu ddringo, digon o drwch eira i sgïo - a doedd neb yn cael mynd yno.

"Ro'n i'n dechrau ar fy ngyrfa, yn camu allan i'r byd awyr agored ac wedi cael fy nghymwysterau cyntaf yn y sector ac yn gobeithio cael gwaith yn y canolfannau yn Eryri - a wnaeth cefn gwlad gau yn gyfan gwbl."

Roedd yn rhaid iddo arallgyfeirio. Fe weithiodd gyda'i ffrind oedd yn blymwr a mynd i ddringo i Ewrop hyd nes i'r llwybrau a'r mynyddoedd gael eu hail-agor.

Arwel Elias on a mountain
Llun cyfrannwr
'Da ni ar drobwynt diddorol o ran y sector awyr agored ac mae rheswm i edrych ymlaen yn bositif i beth all ddigwydd yn y dyfodol.
Arwel Elias
Ymgynghorydd ymweliadau addysg

Sefyllfa debyg oedd hi eleni, ond bod y cyfnod yn hirach.

Un sydd wedi cael ei effeithio ydi Stephen Jones, o gwmni Anelu, sy'n cynnig gweithgareddau a hyfforddiant awyr agored.

"Mae'n diwydiant ni wedi cau lawr ers Mawrth heblaw am ambell gyfnod ar ôl y cyfnod clo pan oedda ni'n gallu mynd allan i weithio o fewn y cyfyngiadau," meddai.

"Mae ysgolion yn rhan fawr o'ng ngwaith i, a wnaetho nhw gau wrth gwrs. Mae'r gaeaf hefyd yn rhan fawr o'r busnes - a dwi wedi colli hwnna hefyd. Yr ansicrwydd sy'n anodd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Jones yn arwain taith i blant ysgol - cyn i'r pandemig ddod a'r cyfan i ben

Er gwaetha 12 mis pryderus, mae rhai yn obeithiol am y dyfodol wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio.

Yn dilyn argyfwng clwy'r traed a'r genau fe wnaeth Prifysgol Bangor waith ymchwil yn tanlinellu pwysigrwydd y diwydiant gweithgareddau awyr agored i economi gogledd Cymru.

Yna sefydlwyd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn hybu gweithgareddau i bobl Cymru ers 15 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Nid llun o faes parcio Pen-y-Pass yn ystod y cyfnod clo ond yn 2001 gyda'r llwybrau i gopa'r Wyddfa ar gau

"Adeg y clwy, wnaeth nhw sylweddoli faint o incwm oedd yn dod o'r sector awyr agored, ac am y tro cyntaf gwneud gwaith ymchwil manwl yn edrych fewn i'r maes," meddai Arwel Elias. "Wnaeth nhw sylweddoli hefyd cyn lleied o Gymry Cymraeg oedd yn gweithio yn y maes fel hyfforddwyr ac ati.

"Heb os, heb y clwy dwi ddim yn meddwl y byddai'r ymchwil wedi ei wneud ac os na fyddai hwnnw wedi ei wneud fyddai'r bartneriaeth heb ei sefydlu."

Ers ei greu yn 2005, mae'r bartneriaeth wedi dechrau dros 80 o glybiau awyr agored gyda chyfanswm o 7000 aelodau ar draws y gogledd.

Mae'r bartneriaeth yn ddibynnol ar wirfoddolwyr ac wedi hyfforddi miloedd dros y blynyddoedd.

Tracey Evans yn yr eira
Llun cyfrannwr
Ers talwm, ro'n i'n arfer sticio allan achos fi oedd yr unig un lleol oedd i mewn i weithgareddau awyr agored
Tracey Evans
Prif Weithredwr Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru

Gobaith y prif weithredwr Tracey Evans ydi bod y 12 mis diwethaf am arwain at fwy yn fodlon rhoi eu hamser i helpu clybiau lleol:

"Be' yda ni wedi ei weld yn ystod y pandemig ydi cymaint o bobl yn gwirfoddoli - i fynd i'r siop neu chemist i bobl eraill, neu ddechrau social media groups i wneud yn siŵr bod pawb yn ok. Mae posibilrwydd i ni ddefnyddio hynny a chael mantais o'r gweithlu newydd o wirfoddolwyr sydd allan yna - ac mae hynny'n andros o bositif."

Yn ogystal â gwirfoddoli, mae cerdded a mwynhau'r awyr agored wedi dod i'r amlwg hefyd.

"Mae pobl eisiau mynd allan," meddai Tracey Evans. "Aeth fy chwaer i fyny'r Cnicht y diwrnod o'r blaen a hi gafodd y lle olaf yn y maes parcio - a phobl leol oedd yno.

"Ers talwm, ro'n i'n arfer sticio allan achos fi oedd yr unig un lleol oedd i mewn i weithgareddau awyr agored - ond rŵan mae fy ffrindiau i gyd yn hoffi cerdded a hoffi mynd allan ar eu beics.

"Mae cymaint rŵan eisiau ffeindio llefydd newydd sydd ddim wrth eu tai a be' well na'i wneud efo rhywun sydd yn y sector awyr agored.

"Mae ganddo ni bobl sy'n highly skilled o ran mynydda, dringo, kayakio, hwylio, beicio a phethau newydd fel paddleboards. Hefyd, efo pobl yn fwy nerfus i fynd dramor mae cyfle anferth i Gymru elwa."

Disgrifiad o’r llun,

Tu allan i'r cyfnodau clo mae padlo ar Lyn Padarn wedi bod yn boblogaidd

Mae Arwel Elias yn meddwl bod prysurdeb haf diwethaf am barhau am gyfnod wrth i bobl chwilio am wyliau a gweithgareddau awyr agored mwy lleol - gan ddod a gwaith i hyfforddwyr a busnesau fel arlwyo a gwely a brecwast.

Ond mae o'r farn bod newidiadau eraill mwy sylfaenol ar droed fydd yn hwb i'r sector.

Mae newidiadau o fewn y byd addysg a'r negeseuon cyson bod Covid yn ymledu llai tu allan, yn siwr o gael effaith meddai.

"Yn y cwricwlwm addysg newydd, mae'r awyr agored yn rhan ganolog ohono.

"Mae pobl rŵan yn gweld bod posib dysgu tu allan a bod gweithgareddau awyr agored yn help i adeiladu sylfaen gref mewn person ac yn ffordd dda o gael cyswllt efo pobl ifanc a phlant - a nhw gael profiadau bythgofiadwy.

"Da ni ar drobwynt diddorol o ran y sector awyr agored ac mae rheswm i edrych ymlaen yn bositif i beth all ddigwydd yn y dyfodol."

Newyddion da i'r rhai sy'n ddibynnol ar y sector addysg am eu bara menyn - fel Stephen Jones.

Ond mae'n rhaid troedio'n ofalus meddai er mwyn osgoi problemau all godi yn sgil gormod o bobl yn dod i'r ardal, fel digwyddodd llynedd mewn ardaloedd fel y Bannau Brycheiniog ac Eryri.

"Dwi ddim yn gwybod os wnawn ni elwa fel diwydiant, mae'n anodd dweud," meddai Stephen, sydd hefyd yn gweithio i Barc Cenedlaethol Eryri dros y gaeaf yn rhoi adroddiadau tywydd. "Faswn i'n licio meddwl wnawn ni elwa, ond dwi hefyd o blaid system gynaliadwy.

"Felly mae twristiaeth gynaliadwy yn iawn - rhoi croeso, gwneud yn siwr bod pobl yn mynd adra efo teimlad da a syniad da am y lle, ond bod ni'n meddwl am yr effaith ar y bobl leol hefyd. Parch ydi'r gair."

Hefyd o ddiddordeb: